Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Fi ac Aaron Ramsey

Fi ac Aaron Ramsey

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae'r stori'n ymwneud â Sam a Mo, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This story relates to Sam and Mo ends as Wales reaches Euro 2020. The relationship between the two is like a football game - there are spectacular highlights and heartbreaking low points. However, through football the two come to understand each other and come to appreciate that it is varied strengths and working together that creates a good team.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784618599
Gwales Code
gwales.com.9781784618599
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Fi ac Aaron Ramsey
Awdur / Author
Ros, Manon Steffan
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-06-05
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
136 pages
Size
123 × 184 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Os ydych chi'n caru pêl-droed neu beidio, a beth bynnag eich oed, mae’r nofel hon gan yr awdur arobryn Manon Steffan Ros yn dilyn trywydd tebyg i nofel arall o’i gwaith, sef Fi a Joe Allen a gyhoeddwyd yn y cyfnod yn arwain at bencampwriaeth yr Ewros, 2016. Y tro hwn, cyflwynir stori gyfoes a gafaelgar am ddau ffrind, Sam a Mo, â’u perthynas fel gêm o bêl-droed. Disgrifia’r stori rai o uchafbwyntiau eithriadol eu bywydau ochr yn ochr â thorcalon enbyd, gan arwain at y cyfnod pan wnaeth Cymru gyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros yn 2020. Mae’r heriau y mae rhai o’r cymeriadau yn eu hwynebu yn rhai y gall llawer ohonom unieithu â nhw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ac yn dangos sut y gall profiadau bywyd ein newid ni, hyd yn oed am y gorau weithiau. Drwy gydol y nofel, cyflwyna Manon Steffan Ros bêl-droed fel camp all ddod â chefnogwyr o bob math o gefndiroedd ynghyd gan greu ystod eang o gymunedau clòs. Dyna i chi aelodau cymuned leol y tu mewn i furiau clwb pêl-droed neu dorf o filoedd o ddieithriaid yn uno i weiddi’n groch dros eu gwlad mewn stadiwm. Gwelir bod gan blant ac oedolion arwyr ymhlith sêr y byd pêl-droed, naill ai'n chwaraewyr ifanc newydd neu'n chwaraewyr sydd bellach wedi ymddeol, ac felly bod gan bawb rywbeth i’w edmygu o safbwynt enwogion y byd. Yn yr un modd, mae taith tad Sam, y prif gymeriad, i fagu digon o hyder i ddysgu a siarad Cymraeg yn amlach nag y mae’n siarad Saesneg yn tanlinellu’r ffaith fod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n perthyn i bawb sydd yn ddigon hyderus i’w siarad, ac mai nid cywirdeb yr iaith sy’n bwysig ond y dyfalbarhad i fagu’r hyder hwnnw. Llwydda’r awdur wedyn i greu undod rhwng enwogion a phobl ‘gyffredin’ drwy gyfeirio at y chwaraewr pêl-droed amryddawn, Aaron Ramsey. Mae gan bawb y gallu i siarad a dysgu’r iaith pe baent yn dymuno gwneud hynny, fel yn wir y gwnaeth Aaron Ramsey ei hun. Â’r nofel â ni hefyd ar drywydd materion oesol iechyd meddwl. Dioddefaint tawel bechgyn sy’n cael eu trafod, yn enwedig felly, gorbryder. Disgrifir un digwyddiad ofnadwy sy’n bygwth perthynas Sam a’i deulu â phêl-droed, wrth i’r pryderon sy’n aml yn chwyrlïo drwy feddwl Sam gynyddu. Er bod Sam a Mo, ei ffrind gorau, yn agos iawn at ei gilydd, dyw’r un o’r ddau’n teimlo’n ddigon cyffyrddus i drafod y problemau a phwysau’r gofidiau sy’n eu cadw nhw’n effro yn ystod y nos. Er bod y ‘Peth Ofnadwy’ yn rhoi pwysau ar Sam, llwydda i anghofio am drafferthion bywyd bob dydd wrth i deithio i’w ddihangfa, naill ai ar YouTube, yn gwylio’i arwr Aaron ‘Rambo’ Ramsey yn dawnsio’i ffordd o gwmpas y cae pêl-droed, neu hyd yn oed wrth chwarae gêm hamddenol gyda’i ffrindiau ar y Glan, ar ôl ysgol. Mae ei gariad tuag at y gêm yn cynnig cyfle i ddianc oddi wrth drafferthion bob perthynas, gan roi rhywbeth y gall ei dad ac yntau fwynhau gyda’i gilydd, hyd yn oed pan mae pethau ar eu gwaethaf. Nofel gyfoes a gyfaelgar i’n hysbrydoli a’n hybu yn ein blaenau yn wyneb heriau bywyd – ac felly’n gwbl addas i gynulleidfa yn ei harddegau a thu hwnt. Heb ddatgelu gormod am ddiweddglo’r stori, drwy gyfrwng pêl-droed daw Sam a Mo yn y pen draw i sylweddoli y gallant gyfuno eu cryfderau amrywiol i greu tîm da. Neges bwysig i bawb, mae’n siŵr!

View full details