Cyngor Llyfrau Cymru
Fi Sy'n Cael y Ci
Fi Sy'n Cael y Ci
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Gwen newydd ddathlu ei phen-blwydd yn hanner cant a'i phlant ar fin gadael y nyth - ac mae ei phartner wedi ei gadael yn ddisymwth. Dyw ei mam ddim yn help iddi gan ei bod yn dal i eilun addoli cyn-ŵr Gwen a redodd i ffwrdd efo merch ieuengach saith mlynedd ynghynt! Cawn ymuno â hi yn ei hymdrechion i anghofio'r sinach a chadw rheolaeth ar ei chi anystywallt!
Disgrifiad Saesneg / English Description
We join Gwen as she tries to forget her ex and keep control of her unmanageable dog!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845275365
- Gwales Code
- gwales.com.9781845275365
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Fi Sy'n Cael y Ci
- Awdur / Author
- Cadwaladr, Rhian
- Current Price ex VAT
- £8.00
- Current Price inc VAT
- £8.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-11-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 200 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hiwmor (yn Gymraeg) | EN: Humour (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Yn ôl ei mam, dechreuodd Rhian adrodd straeon am y tro cyntaf tra oedd hi'n eistedd ar y poti yn ddwy oed. Mae hi wedi bod yn adrodd straeon wrth bawb sy'n fodlon gwrando arni byth ers hynny, gan gynnwys drwy gyfrwng ei gwaith fel actores a sgriptiwr sioeau ar gyfer pobl ifanc. Dyma'r tro cyntaf, fodd bynnag, iddi fentro ar stori mor hir â nofel!
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Croeso i fyd Gweneirys Siôn ... Dydi bod yn 50 ddim yn hawdd − yn enwedig i ddynes sydd newydd gael ei dympio drannoeth ei pharti pen-blwydd. Dydi ei mam gwynfanllyd yn ddim help, nac ychwaith ei ffrindiau â'u hamrywiol gynghorion. Does gan ei phlant ddim cydymdeimlad ac mae ei chyn-ŵr yn trio'i orau, chwarae teg, ond gan ei fod o wedi gadael Gwen am ferch lawer iau na hi saith mlynedd ynghynt, does ganddi ddim llawer o amynedd efo hwnnw. Y ci ydi'r unig un sy'n gefn iddi – tasa fo ond yn byhafio ...
Share
