Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Filò

Filò

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Carcharorion o'r Eidal sy'n meiddio dweud eu straeon eu hunain sydd yn Filò . Mae Guido Fontana a'i gyfoedion yn darganfod cartref yng Nghymru. Ond does ganddyn nhw ddim hawliau, dim arian, dim byd, heblaw eu tafodieithoedd amrywiol, a'u straeon. Dyma yw Filò ; gweithred yn erbyn y drefn, dod ynghyd ac adrodd stori.

Disgrifiad Saesneg / English Description

In Filò , we meet Italian prisoners who want to tell their stories. Guido Fontana and his peers find a new home in Wales. But they have no rights, no money, nothing, apart from their various dialects and their stories. That's what Filò is: an action that goes against the norm, coming together and telling stories.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848514218
Gwales Code
gwales.com.9781848514218
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Filò
Awdur / Author
Dafydd, Sian Melangell
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-03-12
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
212 pages
Size
129 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Magwyd Siân ar odre'r Berwyn. Hi yw awdur Y Trydydd Peth, enillydd y fedal Ryddiaith yn eisteddfod genedlaethol 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn Taliesin. Mae'n gweithio ar ddoethuriaeth sy'n ymchwilio i ddefnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Siân was raised on the edge of the Berwyn mountains. She is the author of Y Trydydd Peth, which won the prose medal at the 2009 National Eisteddfod, and was one of the last editors of Taliesin magazine. She is working on her doctorate which is looking at the use of yoga and writing as parallel creative practices.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma nofel am sut mae storïau yn llenwi bylchau’r byd, am storïo fel y reddf arbennig honno sy’n creu bydoedd newydd ac uno hen fydoedd. Ystyr filò yw ymgynnull er mwyn storïo neu chwedleua; bydd llinynnau’r storïau hynny yn ymgordeddu a chyd-blethu nes creu rhywbeth newydd bob tro. Fel y dywed adroddwr y nofel, Guido Fontana, am filò , maent yn trosgynnu’r byd diriaethol a hefyd y storïwr ei hun: ‘dyna ydi stori – byw tu mewn i stori rhywrai eraill. Vero ?.’ Byw tu mewn i atgofion pobl eraill. Yr hyn a gawn yma felly yw atgofion carcharor rhyfel o’r Eidal a ildiodd i’r Fyddin Brydeinig ym mrwydr El Alamein yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth iddo ef a’i gyd-filwyr gael eu trosglwyddo i Brydain wedyn, gwnânt synnwyr o’u halltudiaeth, eu darnio a’u hymddieithrio trwy ddod ynghyd i adrodd storïau am eu hen fywydau, y rhyfel, a’u taith i wlad anghyfiaith, gan geisio rhoi trefn ar eu sefyllfa gythryblus. Daw eu filò yn gyfrwng iddynt ddod i delerau â’r ansicrwydd, a hwythau’n waglaw ac ar ddisberod: ‘dim ond iaith oedd gen i ar gyfer disgrifio’r byd yn ei fanylder’. Pan ddaw Guido i Gymru i weithio mewn gwersyll carcharorion rhyfel, cymhlethir y darlun. Ar ôl treulio blynyddoedd yno, anodd yw gwybod i ba le y mae’n perthyn, ac mae Cymru’n treiddio i’r storïau, sef i graidd bywydau’r carcharorion, nes iddi ymgiprys â’u gorffennol nhw. Adroddir hyn oll yn y person cyntaf, a’r geiriau’n llifo’n rhwydd fel petaem yn dilyn meddyliau uniongyrchol Guido. Nid oes strwythur yn yr ystyr gonfensiynol: y meddyliau a’u llif yw’r strwythur, ac mae’n osgeiddig iawn. Mae’r arddull ysgafn ac ystwyth yn llwyddo i gyfleu rhythm storïau i’r dim. Mae yna elfen weledigaethol iddi, a bron na ellid ei galw’n chwedlonol. Storïo – neu chwedleua – yw ei hanfod, wedi’r cyfan. Mae’r llinynnau’n estyn yn bell, ac yn cofleidio cymaint mwy na hanes carcharor yn yr Ail Ryfel Byd; yn wir, cawn gip arnom ni ein hunain, a Chymru yn gyffredinol, o gyfeiriad annisgwyl. Brithir y nofel hon â geiriau Eidaleg, a geiriau Solighese, sef dialetto Guido, a hyfrydwch yw hynny. Nid ydynt yn tarfu ar y dweud, ond yn ei gyfoethogi: maent yn rhan bwysig o’r naratif. Un o nodweddion pennaf y nofel fentrus a swynol hon yw mor gelfydd y trinir geiriau. Ailddarllenais gynifer o frawddegau er mwyn llwyr werthfawrogi’r ysgrifennu. Dyma nofel arbennig.

View full details