Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Gabriela

Gabriela

Regular price £8.95 GBP
Regular price Sale price £8.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel seicolegol gyfoes gref am Gabriela, menyw ifanc drawiadol o Frasil sy'n dilyn ôl traed ei mam ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen. Dyma ddeunydd anarferol i nofel Gymraeg, ac mae'r stori'n afaelgar iawn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A powerful psychological novel about Gabriela, a striking young woman from Brazil who follows her mother's footsteps to Santiago de Compostela in Spain. A gripping story.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847716989
Gwales Code
gwales.com.9781847716989
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gabriela
Awdur / Author
Roberts, John
Current Price ex VAT
£8.95
Current Price inc VAT
£8.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-10-23
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
208 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Magwyd John Roberts ar fferm ger Llangïan. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n dad i Mari, Lleucu ac Annes a thaid i Twm ac erbyn hyn mae’n briod â Sarah ac yn llystad i Gwen. Dyma nofel gyntaf yr awdur hwn o Aberystwyth, ond mae eisoes yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru sy’n trin a thrafod materion crefyddol yr wythnos.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Calon y nofel yw perthynas Gabriela â’i mam, sy’n cael ei ddarlunio mewn cyfres o ôl-fflachiadau byw. Ond ar ei thaith mae’n dod ar draws nifer o gymeriadau lliwgar, ac yn rhoi cip i ni o’u straeon personol difyr a dirdynnol. Mae tro annisgwyl wrth galon y nofel sy’n troi’r stori ar ei phen ac sy’n siŵr o blesio darllenwyr thrillers. Mae gan yr awdur ddawn i ddisgrifio’n effeithiol sy’n gosod y darllenydd ochr yn ochr â Gabriela ar ei thaith. Mae ei allu i greu naws ac awyrgylch yn gyrru’r darllenydd i droi tudalennau’r nofel hon wrth iddo gael ei sugno i’w chrombil tywyll. Daeth y nofel hon yn ail yng nghystadleuaeth Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2012. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y tri beirniad. “Roedd y ganmoliaeth hael dderbyniodd Gabriela gan feirniad cystadleuaeth Daniel Owen flwyddyn ddiwethaf yn braf i’w glywed, ond mae gollwng y nofel i’w chyhoeddi wedi bod yn anodd,” eglurai John Roberts, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio yng Nghaerdydd. “Mae rhywun yn magu perthynas bersonol iawn gyda’i gymeriadau ac mae caniatau i eraill ddod i mewn i’r berthynas yn gallu bod yn chwithig.” “Merch ifanc drawiadol o Frasil yw Gabriela, ac mae’r nofel yn troi o amgylch ei pherthynas gyda’i mam,” esboniai’r awdur ymhellach. “Mae hi’n penderfynu dilyn ôl traed ei mam ar bererindod fawr i Santiago de Compostela yn Sbaen – taith a wnaeth ei mam cyn i Gabriela gael ei geni. “Ond, mae dirgelwch wrth wraidd y daith – dirgelwch a ddaw yn fwyfwy amlwg wrth i Gabriela gyfarfod gwahanol gymeriadau ar ei siwrne. Ar hyd y ffordd garegog mae hi’n mentro i dir tywyll iawn, ac mae yno dro annisgwyl wrth galon y nofel sy’n troi’r stori ar ei phen.” “Cefais fy hudo gan Gabriela,” meddai’r beirniad llên, Sioned Williams. “Dyma thriller seicolegol sy’n sugno’r darllenydd yn effeithiol i’w chrombil tywyll. Mae arddull a dawn ddisgrifiadol arbennig gan John Roberts ynghyd â gallu i greu naws ac i yrru’r darllenydd i droi’r dudalen.”

View full details