Cyngor Llyfrau Cymru
Galwad yr Alarch
Galwad yr Alarch
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel fer yw hon am gymeriadau crwn sy'n denu'r darllenwyr i deimlo eu bod yn rhan o'r stori. Mae Dylan dan y don. Ers iddo ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae popeth wedi mynd yn drech nag ef. Erbyn hyn mae wedi cael ei ddi-arddel o'r ysgol ac mae'n rhaid i'w fam ac yntau symud i bentref bychan ar arfordir gorllewin Cymru. Yno y magwyd ei fam ac yno mae ei daid yn byw. Addasiad Cymraeg o Swan Song .
Disgrifiad Saesneg / English Description
A short novel about rounded characters to appeal to readers and draw them into the story. Dylan is unhappy. Ever since he entered secondary school, everything has been getting too much for him. He has now been expelled from school and his mother decides to move to a small village on the west coast of Wales, where she was born and where his grandfather lives. Welsh adaptation of Swan Song .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845279547
- Gwales Code
- gwales.com.9781845279547
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Galwad yr Alarch
- Awdur / Author
- Lewis, Gill
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-10-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 120 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Bu Gill Lewis yn gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur nifer o nofelau i blant. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio darllenwyr ifanc i ystyried eu hamgylchfyd a gwarchod byd natur.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ond pan mae Taid yn cynnig i Dylan ddod yn ei gwch gydag ef i’r aber i wylio’r elyrch yn dychwelyd i’w tir gaeaf, mae pethau’n dechrau newid. Dydi Taid ddim yn beirniadu nac yn holi; mae’n gadael llonydd i Dylan fod fel y mae. Allan ar y dŵr, heb bwysau a heb fân bethau i’w ddrysu, mae Dylan yn dechrau cael hyd i’w draed eto. Mae gweld yr elyrch yn ‘cyrraedd adref’ yn rhoi gwefr iddo. Ond mae tir gaeaf yr adar mewn peryg ac mae tristwch yn taro’r cartref. All Dylan ddal ati pan mae pethau fel pe baen nhw’n llithro o’i afael eto? “Doedd Sol ddim yn medru rhoi’r llyfr yma i lawr. Mi gafodd ei lyncu yn llwyr gan y stori.” – mam darllenydd ifanc
Share
