Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Gardd Mewn Tref/A Cottage Garden in Town

Gardd Mewn Tref/A Cottage Garden in Town

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol ddwyieithog, wedi ei darlunio'n hardd mewn lliw llawn, yn adlewyrchu cyfoeth amryfal agweddau ar ardd fechan yr awdur yn nhref Llanelli, gardd sy'n hafan hyfryd o goed a llwyni, rhosod a pherlysiau, bywyd gwyllt ac adar, a llawer mwy. Cynhwysir hefyd dablau diddorol a mynegai defnyddiol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A lavish, colour illustrated, bilingual volume reflecting the rich diversity of the author's town cottage garden in Llanelli, a verdant sanctuary of trees and shrubs, roses and herbs, wildlife and birds, and much more. Also included are interesting tables and a useful index.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848518162
Gwales Code
gwales.com.9781848518162
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gardd Mewn Tref/A Cottage Garden in Town
Awdur / Author
Blackmore, Stuart
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-07-23
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
264 pages
Size
160 × 160 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (yn Gymraeg) | EN: Sport, Hobbies, Leisure, Cookery (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hobïau (yn Gymraeg) | EN: Hobbies (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma gyfrol addas iawn i bori ynddi, ei harogleuo a’i mwynhau. Mae'n lliwgar a deniadol ac mae modd crafu'r clawr ac arogleuo lafant lond eich ffroenau. Mae'r lluniau yn glir a lliwgar ac mae wir yn anodd coelio mai gardd mewn tref sy’n gartref i’r holl eitemau sy’n llenwi'r llyfr sylweddol yma. Yn wir, beth am fynd ati i greu'r nefoedd fach ar y ddaear, fel mae yr awdur wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd? Gall pob un ohonom, o ddilyn ei gyngor, greu ein 'hafan fach hyfryd'. Nid hunangofiant Stuart sydd yma ond hanesion yr awdur sydd wedi mwynhau garddio ar hyd ei oes, a hynny yng nghanol tref Llanelli. Fel rhywun sy’n hoffi bod allan yn yr awyr iach tybiaf y gallaf ddysgu llawer am arddio a sylweddolaf nad oes angen aceri lawer i gael blodau rhyfeddol a thyfu casgliad o flodau, coed a planhigion. Mae'n llyfr difyr a dysgais lawer iawn am enwau planhigion – tybiaf fod llawer, fel minnau, yn galw rhai planhigion wrth enwau teuluol e.e. deilen Mari Rhydyfrân. Mae yna doreth o enwau newydd (i mi, beth bynnag) rhwng y cloriau. Mae'r lluniau ar y clawr a thrwy'r gyfrol yn drawiadol. Sgleinia'r gwyrddni, ac mae'r blodau fel petaent yn ceisio dangos eu hunain ar eu gorau. Gellir mwynhau'r wledd o liw a gallaf ddychmygu rhai o’r lluniau'n cael eu troi'n gardiau cyfarch gan fod eu safon mor dda. Dywed yr awdur mai egwyddor gardd fwthyn ydyw cael y mwyaf allan o le bach – ac mae ganddo tua 200 o blanhigion yn tyfu yn ei ardd fechan. Mae’r penodau'n ddifyr ac yn mynd â ni ar daith o’r coed i’r llwyni ac o berlysiau i fylbiau a photiau. Rhoddir sylw hefyd i fywyd gwyllt, ac mae hanesion difyr a chynghorion yn gysylltieidig â'r rhan fwyafrif y planhigion. I’r sawl sy’n ymddiddori mewn enwau mae yma drysorfa, a difyr gwybod am enwau megis Blodyn-y-Dioddefaint, Bocsen-y-Nadolig, Boneddiges y wig, Briweg mawr, Briwlys-y-gwrych a Bwlwg–yr-yd, gan nodi enwau'r rhai a gair o dan 'B'. Hefyd, mae cael y testun Saesneg yn cydredeg yn ddefnyddiol dros ben. Ar ddiwedd y gyfrol mae lle i chi wneud nodiadau a hoffais y sylw fod ôl brathiad ar ddail ac ati yn rhan annatod o'r ardd – nid yw’r ardd berffaith wedi’i thrin gan bob math o gemegion. Dyma lyfr difyr a diddorol a gwell i mi, felly, dorchi llewys a throi am yr ardd i gael gwell golwg ar y planhigihion sy’n straffaglu. Llongyfarchiadau i Stuart Blakemore ac i Gomer am fynd ati i gyhoeddi cyfrol mor ddiddorol – anrheg ddelfrydol i bawb sy’n mwynhau garddio.

View full details