Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Geiriadur Lluniau i Blant/Illustrated Dictionary for Children — Illustrated Dictionary for Children

Geiriadur Lluniau i Blant/Illustrated Dictionary for Children — Illustrated Dictionary for Children

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae cyflwyno iaith newydd i blant yn broses weddol syml, ond mae'r broses yn llawer haws drwy ddefnyddio'r cof gweledol. Dyma lyfr sy'n cyflwyno pum iaith mewn un geiriadur lliw - Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Mae'n cynnig cyfle i blant siarad ac ysgrifennu geiriau yn ymwneud â'r teulu, y corff, bwyd, dillad, planhigion, ein planed, cludiant, tai, ysgol, swyddi a chwaraeon.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Initiation into a foreign language is an easy learning process for a child, and it is much easier when done through visual memory. This dictionary brings together five languages - Welsh, English, Spanish, French and German. Children will learn to write and speak words linked to the family, the human body, clothes, food, plants, our planet, transport, houses, school, jobs and sport.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781907004988
Gwales Code
gwales.com.9781907004988
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Geiriadur Lluniau i Blant/Illustrated Dictionary for Children — Illustrated Dictionary for Children
Sub Title
Illustrated Dictionary for Children
Awdur / Author
Wyn, Menna; Jones, Glyn Saunders
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-08-10
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Darlunydd / Illustrator
Fernandes, Celia
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
76 pages
Size
215 × 305 mm; depth 6 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Gwyddoniaduron a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Encyclopaedias and Dictionaries (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma eiriadur lliwgar sy’n cyflwyno geirfa bob dydd i blant mewn pump o ieithoedd. Yn ogystal â’r Gymraeg a’r Saesneg, ceir y gair neu’r ymadrodd priodol yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg hefyd. Ar y clawr, ceir map cartwnaidd o orllewin Ewrop a baneri’r gwledydd dan sylw ac mae hynny’n unig yn cyfleu llawer o wybodaeth mewn ffordd hwyliog sy’n rhoi blas o naws y llyfr. Y tu mewn, mae’r lluniau’n realistig iawn ac yn cyfleu’r ystyron yn hynod o effeithiol a hynny gyda thinc direidus sy’n sicr o ddenu ymateb plentyn. Mae’r cynnwys yn eang, yn cwmpasu geirfa am deuluoedd a chartrefi, gwaith a hamdden, anifeiliaid a’r byd o’n cwmpas a llawer mwy. A dweud y gwir, ceir adrannau am y rhan fwyaf o agweddau o fywyd bob dydd, ac ambell i beth llai cyffredin, y bydd plant yn siarad amdanynt ac yn ymddiddori ynddynt. Dyma lyfr difyr iawn lle y gall plentyn fwynhau dysgu rhywfaint o eirfa rhai o brif ieithoedd Ewrop o oedran cynnar yng nghwmni oedolyn sy’n gallu ynganu’r ieithoedd hynny.

View full details