Cyngor Llyfrau Cymru
Geiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer
Geiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yn y geiriadur lliw newydd hwn ar gyfer plant 7-8 oed ceir 1000 o ddiffiniadau a thua cant o luniau. Cyflwynir enwau (unigol a lluosog), ffurfiau cwmpasog cymharu ansoddeiriau a rhannau ymadrodd Cymraeg gan adeiladu ar gynnwys y geiriadur blaenorol, Geiriadur Pinc a Glas Gomer , ar gyfer plant 6-7 oed. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A picture-word dictionary for 7-8 year old children comprising 1000 definitions and 100 pictures for nouns (singular and plural) and adjective comparisons, which builds on the first title in the series, Geiriadur Pinc a Glas Gomer for 6-7 year old children. Reprint. First Published in 2014.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848517684
- Gwales Code
- gwales.com.9781848517684
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Geiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer
- Awdur / Author
- Lewis, D. Geraint
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-10-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 68 pages
- Size
- 210 × 297 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Gwyddoniaduron a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Encyclopaedias and Dictionaries (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Brodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, yw D. Geraint Lewis ac mae ei ddiddordeb mewn iaith a gramadeg yn ddiarhebol ac yn heintus. Cyhoeddodd nifer o eiriaduron a llyfrau gramadeg ac hefyd casgliad o garolau, caneuon gwerin a llyfr o ffeithiau unigryw. Ef yw awdur Geiriadur Cynradd Gomer, Mewn Geiriau Eraill :Thesawrws i Blant a Geiriadur Gomer i’r Ifanc ac fel geiriadurwr o’r radd flaenaf, mae ganddo’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth sy’n sylfaen gadarn i gyfres o eiriaduron i blant.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ydych chi, fel fi, yn cywiro cenedl neu dreiglad eich plentyn hyd at syrffed? Wel, efallai mai dyma’r ateb i’r broblem – geiriadur newydd sbon gan yr arch-eiriadurwr D. Geraint Lewis. Mae Gwasg Gomer i’w chanmol yn fawr am ei geiriaduron ac yn ôl y cyflwyniad mae’r geiriadur hwn yn addas i blant 7–8 oed, ond mi fydden i'n dweud y byddai’n ddefnyddiol i blant hŷn na hynny er mwyn sicrhau fod cenedl pob enw'n gywir. Ceir rhyw fil o ddiffiniadau yn y geiriadur hwn, pob un wedi'i osod yn hynod glir ar y dudalen. Nodir ai benywaidd neu wrywaidd yw gair nid trwy ddefnyddio’r ffurfiau cymleth 'eg' neu 'eb' ond trwy nodi 'hwn', 'hon' neu 'hyn'. Mae’r diffiniad yn gymharol syml – am y gair 'botwm' dywedir 'darn bach crwn, caled, fel arfer, sy’n cau crys neu got'; nodir mae 'hwn' yw e ac mae 'botymau' yw'r ffurf luosog. Mae pob llythyren yn cael lliw gwahanol ar ymyl y ddalen ac yn ganllaw i nifer o’r geiriau mae lluniau addas. Cyflwynir y plant hefyd i ansoddeiriau (gan gynnwys graddau o’r ansoddair) ac i rifau megis ‘pedwar ar bymtheg’ a ‘pedair ar bymtheg’. Eglurir yn ogystal y gall y gair fod yn dreiglad os nad yw ar y dudalen y mae'r darllenydd ifanc yn disgwyl ei weld – er enghraifft, ar ddiwedd geiriau yn y llythyren ‘o’ nodir os nad yw’r gair dan sylw i'w weld yno, efallai ei fod yn dreiglad o air sy’n dechrau â’r llythyren G. Dyma eiriadur clawr caled hynod o ddefnyddiol yn y Gymru sydd ohoni – 68 tudalen lawn gwybodaeth am £7.99 a sylfaen dda i blant ifanc a’u rhieni.
Share
