Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Geiriadur y Gair / A Biblical Dictionary

Geiriadur y Gair / A Biblical Dictionary

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Geiriadur Beiblaidd unigryw, wedi ei greu gan y geiriadurwr profiadol D. Geraint Lewis, sy'n rhoi diffiniadau o eiriau yn y Beibl, nid mewn geiriau esboniadol, ond gydag adnodau o'r Beibl, sy'n gymorth i ni ddeall yr ystyr a'r cyd-destun.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A unique Biblical dictionary, created by experienced lexicographer D. Geraint Lewis. It offers definitions of words found in the Bible, not in explanatory words, but with Biblical verses, which assist us in understanding the meaning and context.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781859949542
Gwales Code
gwales.com.9781859949542
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Geiriadur y Gair / A Biblical Dictionary
Awdur / Author
Lewis, D. Geraint
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-09-14
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau'r Gair
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
172 pages
Size
210 × 148 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Rhaid bod yna beiriant cudd yn llechu yng nghartref Geraint Lewis yn Llangwyryfon cyn ei fod yn llwyddo i droi allan eiriaduron mor swmpus sy’n gaffaeliad i lawer. Yn 2022 ymddangosodd y gyfrol hon, a diolch amdani. Fel y gŵyr y cyfarwydd, byddaf yn cynnal aml i oedfa ar y Sul ac mae cael adnodd fel yma wrth fy mhenelin tra ’mod i’n paratoi yn amhrisiadwy. Gynt, byddwn yn dibynnu i raddau helaeth ar gyfrolau Saesneg a’u cyfieithu, gan nad yw’r trysor ‘Geiriadur Charles’ yn fy meddiant. Cawn wybodaeth am darddiad teitlau rhai cyfrolau enwog yn y Gymraeg fel Dail Pren Waldo Williams o Lyfr y Datguddiad: “Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren bywyd, ac yr oedd dail y pren er iachad y cenhedloedd”. Hefyd, O Tyn y Gorchudd Angharad Price o Lyfr Exodus: “Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar ol iddo siarad a Duw. Pan fyddai’n mynd o flaen yr Arglwydd i siarad ag ef byddai’n tynnu’r gorchudd nes iddo ddod allan.” O gofio cefndir yr awdur Angharad Price a chynnwys y gyfrol daw emyn mawr Hugh Jones Maesglasau i’r cof: “O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn ...” Byddaf bob amser yn edmygu person sy’n medru dyfynnu ymadroddion beiblaidd ac o ganlyniad yn cyfoethogi sgwrs. Ar adegau byddwn yn sôn am gefndir person drwy ddweud iddo fod yn ffyddlon i’w wreiddiau neu i’r graig y’i naddwyd ohoni. Dyma’r adnod gyntaf o Esaia 51: “Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd ohoni ac ar y chwarel lle’ch cloddiwyd.” Gwelwn enghreifftiau addas hefyd sy’n berthnasol iawn i’r dyddiau dreng yma a brofwn ar hyn o bryd. Daw’r adnod o lythyr cyntaf Timotheus. Pennod 6 ac adnod 10: “Gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian.” Daw ambell ddyfyniad â gwên i’r wyneb ac mae toreth ohonynt yn Llyfr y Diarhebion. Beth am hon? “Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch felly mae gwraig brydferth heb synnwyr.” Oes, mae yma berlau. Rhai o’m hoff ddyweddiadau sy’n siarad cyfrolau yw : “Dyn dau-ddyblyg ei feddwl sy’n anwastad yn ei holl ffyrdd”. Mor wir ac yn wers inni gyd! Hefyd: “Mae enw da yn well na chyfoeth mawr, a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.” Rhaid nad oedd awdur Llyfr y Diarhebion yn or-hoff o ferched, fel y tystia’r adnod hon: “Mae gwraig gecrus yr un fath â diwrnod pan mae hi’n glawio’n ddi-stop. Mae rhoi taw arni fel ceisio stopio’r gwynt rhag chwythu neu ddal olew yn y llaw”. Mae ei agwedd yn newid tua diwedd y llyfr: “Gwraig sy’n parchu’r Arglwydd sydd yn haeddu cael ei chanmol. Rhowch glod iddi am beth mae wedi gyflawni, a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.” I bawb a fu a sydd yn Ysgol Tregaron (Ysgol Henry Richard erbyn hyn), cofiwn am yr arwyddair “Mewn llafur mae elw”. Oes, mae tarddiad beiblaidd i’r arwyddair hwn hefyd ac am emyn mawr y cyn-Brifathro D. Lloyd Jenkins sy’n cloi fel hyn ac yn pwysleisio neges yr arwyddair. “Dduw holl bresennol, rhown ein cân Yn offrwm gwiw ar d’allor lân, A boed holl elw’n llafur ni Yn gymeradwy gennyt Ti.” Anogaf unrhyw un i brynu’r gyfrol werthfawr a defnyddiol hon. Gall osgoi llawer o grafu pen a phori wrth chwilio am ddyfyniad bBeiblaidd addas. Diolch i Geraint Lewis unwaith eto am ei gymwynas fawr.

View full details