Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Geiriau Gorfoledd a Galar

Geiriau Gorfoledd a Galar

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o ddarnau o lenyddiaeth, rhai wedi eu cyfansoddi'n wreiddiol yn Gymraeg, eraill wedi eu cyfieithu o ieithoedd eraill, yn arbennig ar gyfer yr achlysuron pwysig hynny ym mywydau pob un. Mae'r gyfrol yn cynnwys pytiau addas i'w darllen neu i'w rhoi mewn cerdyn adeg geni, priodi a marw.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An anthology of poems, some original Welsh compositions, and others translated from other languages. They are all linked to those momentous occasions in a lifetime - birth, marriage and death.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785620744
Gwales Code
gwales.com.9781785620744
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Geiriau Gorfoledd a Galar
Awdur / Author
Lewis, D. Geraint
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-02-04
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Size
168 × 197 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Brodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, yw D. Geraint Lewis. Llyfrgellydd ydyw o ran ei alwedigaeth; gwnaeth gyfraniad enfawr i'n diwylliant yn ei fywyd proffesiynol ac fel aelod o rai o gyrff llywodraethol Cymru – yn arbennig felly Cyngor Llyfrau Cymru. Ers blynyddoedd, bu'n byw a gweithio yng Ngheredigion; mae ef a'i wraig Delyth yn byw yn Llangwyryfon ger Aberystwyth. Mae Geraint yn awdur toreithiog ac mae ei weithiau niferus yn cynnwys geiriaduron, llyfrau gramadeg a chasgliadau diddorol ac amrywiol sy'n torri tir newydd yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfrol o ganeuon gwerin, casgliad o garolau a llyfr o ffeithiau unigryw. Yn ogystal â bod yn llyfrbryf o ieithgi a chwilotwr o fri, y mae hefyd yn gerddor da ac yn ei amser hamdden bydd yn mwynhau canu'r corn Ffrengig.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Tybed sawl gwaith y cawsoch chi drafferth dod o hyd i'r peth iawn i'w ddweud ar achlysur arbennig? Dyna brofiad pob un ohonom ar ryw adeg neu'i gilydd, mae’n siŵr: sut mae mynegi llawenydd ar adegau o orfoleddu, cydlawenhau a dathlu; a mynegi tristwch ar adegau o rannu gofid, galar ac ansicrwydd? Sut wedyn y mae cynnig gobaith a chysur ar adegau pan fydd angen annog eraill i ddal ati? Yn y casgliad unigryw hwn o farddoniaeth a rhyddiaith, mae modd dod o hyd i'r union air a'r union deimlad ar gyfer pob cam ar hyd siwrnai bywyd – 'o gri ein geni hyd ein holaf gŵyn'. Dyma gyfrol anhepgorol i rai sy'n cymryd rhan mewn achlysuron cyhoeddus – pan fydd galw ar rywun i ddweud gair doeth mewn bedydd, priodas neu angladd, mewn parti pen-blwydd arbennig neu ar adeg ymddeol. Mae yma hefyd ddigonedd o ddyfyniadau priodol i'w hysgrifennu ar gerdyn – geiriau o gadernid, o lawenydd ac o gysur ar gyfer holl droeon mawr bywyd. Ond cewch rhwng y cloriau hyn hefyd drysorau i dreulio orig dawel ar eich pen eich hun yn eu cwmni. Yn wir, unrhyw adeg y bydd arnoch angen gair yn ei bryd – boed ar achlysur mawr cyhoeddus neu mewn ennyd bersonol – dyma’r llyfr i chi.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

An anthology of poems, some original Welsh compositions, and others translated from other languages. They are all linked to those momentous occasions in a lifetime - birth, marriage and death. The selections in this volume are suitable for readings in a service, or as quotes to write in a card. Reprint; first published in May 2007.

View full details