Cyngor Llyfrau Cymru
Gofal ein Gwinllan — Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru I'n Llên A'n Hanes A'n Diwylliant
Gofal ein Gwinllan — Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru I'n Llên A'n Hanes A'n Diwylliant
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r gyfrol hon yn cynnwys 14 pennod sy'n disgrifio ac yn dadansoddi cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lên a hanes a diwylliant y genedl rhwng 1567, blwyddyn cyhoeddi cyfieithiad Richard Davies a William Salesbury o'r Testament Newydd Cymraeg, a diwedd y ddeunawfed ganrif.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This volume comprises 14 chapters describing and analysing the contribution of the Church in Wales to the literature and history of the Welsh nation from 1567 - the year of the publication of the Welsh translation of the New Testament by Richard Davies and William Salesbury - to the end of the eighteenth century.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800994553
- Gwales Code
- gwales.com.9781800994553
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gofal ein Gwinllan — Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru I'n Llên A'n Hanes A'n Diwylliant
- Sub Title
- Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru I'n Llên A'n Hanes A'n Diwylliant
- Awdur / Author
- Lolfa, Y
- Current Price ex VAT
- £12.00
- Current Price inc VAT
- £12.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-07-07
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Editor
- Lake, A Cynfael; Morgan, D Densil
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 208 pages
- Size
- 170 × 250 mm; depth 15 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Y cyfieithwyr Beiblaidd cynnar gan E. Gwynn Matthews Dr John Davies Mallwyd. Beibl 1620 gan Ceri Davies. Y Salmau Cân yn eu cyd-destun gan Adrian Morgan. Bydoedd Dr John Davies Mallwyd gan Dylan Foster Evans. Carol, Cwndid a Halsing gan E. Wyn James. Y Ficer Prichard a Cannwyll y Cymry gan Christine James. Ellis Wynne a'i Weledigaethau gan A. Cynfael Lake. Iachawdwriaeth, rhagluniaeth a hanes: Theophilus Evans a Drych y Prif Oesoedd gan Huw Pryce Griffith Jones. Llanddowror a’r SPCK gan D. Densil Morgan. Menywod a'r Eglwys Anglicanaidd yn y ddeunawfed ganrif gan Eryn M. White. Y canu rhydd cynganeddol gan Rhiannon Ifans. Yr Anglicaniaid a'r emyn yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed gan Rhidian Griffiths. Eglwyswyr oeddent i gyd: Goronwy Owen. Morysiaid Môn gan John Richard Williams. Edward Richard a Ieuan Fardd gan Gerald Morgan.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae'r gyfrol hon, y gyfrol gyntaf mewn cyfres, yn cynnwys 14 pennod sy'n disgrifio ac yn dadansoddi cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lên a hanes a diwylliant y genedl rhwng 1567, blwyddyn cyhoeddi cyfieithiad Richard Davies a William Salesbury o'r Testament Newydd Cymraeg, a diwedd y ddeunawfed ganrif. Fe'u seiliwyd ar gyfres o weminarau a drefnwyd gan Yr Eglwys yng Nghymru ar y cyd ag Athrofa Padarn Sant. Mae'r gyfrol yn cynnwys astudiaethau o unigolion allweddol fel Dr John Davies, Mallwyd, Edmwnd Prys, awdur Y Salmau Cân, Rhys Pritchard a Channwyll y Cymry, Ellis Wynne, Theophilus Evans, Griffith Jones Llanddowror, ac o blith y beirdd Goronwy Owen ac Evan Evans 'Ieuan Fardd'. Ymhlith y themâu a grybwyllir y mae cyfieithiadau cynnar o'r Beibl, hanes y Llyfr Gweddi Gyffredin, dulliau addoli mewn carol, cwndid ac emyn, clasuron rhyddiaith y ddeunawfed ganrif a chyfraniad merched i grefydd y cyfnod. Mae'r holl awduron yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn dra hyddysg ym myd ysgolheictod a'r diwylliant Cymraeg. Er yn canoli ar ffigyrau o'r Eglwys yng Nghymru, mae rhychwant yr astudiaethau yn eang a bydd y gyfrol o ddiddordeb i bawb sy'n trysori etifeddiaeth ddiwylliannol y genedl. Bydd Cyfrol 2 yn dilyn y stori o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Share
