Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Griffith Davies - Arloeswr a Chymwynaswr

Griffith Davies - Arloeswr a Chymwynaswr

Regular price £16.99 GBP
Regular price Sale price £16.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Hanes bywyd a gwaith y mathemategydd a'r actiwari Griffith Davies yw'r gyfrol hon. Mae'r llyfr yn disgrifio ei addysg a'i waith, gan gynnig disgrifiad o gefndir cymdeithasol ac economaidd y cyfnod. Rhoddir sylw i'r cyfraniad sylweddol a wnaeth Griffith Davies i fyd addysg, i hawliau ei gyd-Gymry, ac i'r broses astrus o osod sylfaen i'w broffesiwn fel actiwari.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The life and work of mathematician and actuary Griffith Davies. The book describes his education and work and the social and economic background of the time. Attention is paid to the substantial contribution made by Griffith Davies to education, the rights of his fellow-Welshmen and the complex process of establishing the base for his profession as an actuary.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781837720316
Gwales Code
gwales.com.9781837720316
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Griffith Davies - Arloeswr a Chymwynaswr
Awdur / Author
Edwards, Haydn
Current Price ex VAT
£16.99
Current Price inc VAT
£16.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-04-28
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
276 pages
Size
138 × 216 mm; depth 15 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

Rhagair Golygydd y Gyfres Lluniau Diolchiadau Rhagair 1 Bore Oes 2 Y Chwarelwr 3 I Lundain a Dysgu 4 Yr Actiwari 5 Yr Ymgyrchydd 6 Yr Alltud 7 Arloesi ac Anrhydeddau 8 Y Penteulu 9 Addysg a Chymwynasau 10 Yr Hybarch 11 Cefnogi a Chrefydda 12 Pen y daith ac Epilog Nodiadau Mynegai

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Haydn E. Edwards yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn cemeg, addysg a rheolaeth.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

'Rydym yn ei ystyried fel tad yr hil bresennol o actiwarïaid' – Peter Hardy, ysgrifennydd Athrofa'r Actiwarïaid, ym 1849. Mae'r gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres nodedig Gwyddonwyr Cymru Gwasg Prifysgol Cymru yn rhoi sylw manwl i yrfa'r mathemategydd Griffith Davies (1788–1855), gŵr o gefndir cyffredin o ardal y chwareli o fewn plwyf Llandwrog yn Sir Gaernarfon, ac un a ddaeth ymhlith y disgleiriaf wrth ddilyn gyrfa fel actiwari yn ninas Llundain. Aeth yr awdur ati i ddarganfod ac asesu pob darn o wybodaeth bosib am Griffith Davies, a daeth o hyd i nifer o lawysgrifau perthnasol. Cedwir nifer o'i bapurau yn Llyfrgell yr Institute of Actuaries yn Llundain. Y mae rhai hefyd yn llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor, ond mae’n anffodus iawn nad oes dyddiaduron na llythyrau teuluol wedi goroesi. Mae'r bywgraffiad manwl hwn yn dilyn gyrfa broffesiynol Griffith Davies, gŵr a ddaeth yn un o addysgwyr amlycaf ei gyfnod, ac yn arweinydd byd ym maes asesu risg, a hefyd yn rhoi sylw i'w ddaliadau cadarn ym maes diwinyddiaeth a moeseg. Mae Haydn Edwards wedi meistroli'n llwyr gefndir teuluol ei wrthrych ac yn deall i'r dim y cyfnod y bu'n byw ynddo. Yn gynnar yn ei yrfa, oherwydd tlodi ar yr aelwyd, enillodd ei fara menyn yn gweithio ar ffermydd lleol ac mewn chwareli. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd. Pan fentrodd i Lundain yn 1809, roedd ei afael ar yr iaith Saesneg yn ansicr iawn, ac ychydig a wyddai am fathemateg, hyd yn oed. Eto i gyd, o fewn ychydig o flynyddoedd, roedd wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf ym maes mathemateg, ac mewn fawr o dro cafodd ei benodi i swydd fel prif actiwari o fewn un o gwmnïau amlycaf y maes. Drwy gydol y 1820au, daeth yn ffigwr blaenllaw a chynhyrchiol yn ei faes, gan wario'n helaeth o'i boced ar y prosiectau y bu'n eu cefnogi. Bu ei bersonoliaeth hawddgar a'i enw da o gymorth aruthrol iddo yn ei waith. Ymhlith ei gyhoeddiadau roedd ei gyfrol A New Theory of the Doctrine of Annuity , campwaith y bu'n gweithio arno am flynyddoedd. Gwnaeth gyfraniad arbennig wrth osod seiliau cadarn ar gyfer y maes hwn, ac derbyniodd nifer fawr o anrhydeddau i gydnabod ei gyfraniad clodwiw. Ar 16 Mehefin 1831 etholwyd ef yn FRS, anrhydedd nid bychan iddo. Etholwyd ef hefyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ystadegol Ffrainc yn 1833. Roedd yn chwarae rhan flaenllaw gyda nifer fawr o brosiectau amrywiol yn y brifddinas. Cawn ddarllen asesiad penigamp o'r digwyddiadau hyn o fewn y bywgraffiad hwn. Hefyd ceir cyfle i ddarllen am gyfraniad Davies yn mynd ati i sefydlu ysgolion, a'i waith yn darlithio'n helaeth ar bynciau gwyddonol a thechnegol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fel y cawn weld, roedd ganddo syniadau pendant am ddatblygiad yr iaith Gymraeg, a gwnaeth gyfraniad neilltuol i'w ardal enedigol. Serch hynny, mae ei enw wedi mynd yn dipyn o angof yno erbyn hyn. Enillodd barch cyffredinol ar gyfrif ei uniondeb, ei onestrwydd, ei dduwioldeb, a'i haelioni diarhebol. Yn ystod ei yrfa cadwodd at grefydd syml bro'i febyd, a bu'n weithgar gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan godi'n flaenor yn eglwys Jewin (MC), Llundain yn 1837, un o bileri'r enwad ledled y wlad. Bu'r enwad hwn yn bwysig dros ben iddo ers ei blentyndod. Aeth ati'n hynod o frwdfrydig i arwain cyfarfodydd o fewn y capel, cymryd rhan mewn seiadau a chyfarfodydd gweddi, a cheisio denu aelodau newydd at yr achos. Oherwydd ei ddoniau amlwg roedd modd iddo ymroi i'r gwaith ariannol a chyllidol o fewn y capel, a bu'n cyfrannu'n ogystal at waith gweinyddol yr enwad oedd mor bwysig iddo. Rhwng 1829 ac 1832 bu'n aelod blaenllaw o Gymreigyddion Llundain yn ogystal. Llwyddodd yr awdur i feistroli nifer o agweddau gwahanol ym mywyd Griffith Davies – fel mathemategydd ac actiwari, natur y cyfnod y bu'n byw ynddo, themâu crefyddol a gwleidyddol, elfennau chwarelyddiaeth, a nodweddion y cymdeithasau di-rif y bu Griffith Davies yn gysylltiedig â hwy. Cynhyrchir y gyfrol i'r safonau uchaf, a phleser yw pori yn y lluniau niferus a gynhwysir drwy gydol y gyfrol, yn eu plith llun lliw hyfryd o Griffith Davies ei hun. Gwledd i'r llygad a'r meddwl yn wir.

View full details