Cyngor Llyfrau Cymru
Gwaddol
Gwaddol
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma'r unig gasgliad o gerddi gan y diweddar Gwynfor ab Ifor - bardd cadeiriol a chyfrannwr cyson i gylchgrawn Barddas ar hyd y blynyddoedd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is the only collection of poems by the late Gwynfor ab Ifor - chaired bard and regular contributor to the periodical Barddas for many years.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781911584292
- Gwales Code
- gwales.com.9781911584292
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gwaddol
- Awdur / Author
- Ifor, Gwynfor ab
- Current Price ex VAT
- £7.95
- Current Price inc VAT
- £7.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-07-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Editor
- Wyn, Ieuan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 120 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Roedd y Prifardd Gwynfor ab Ifor yn fardd amlwg a'i gerddi'n britho'r cylchgrawn Barddas am flynyddoedd. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006 am ei awdl ar y thema 'Tonnau'. Yn wreiddiol o Sling ger Tregarth, Gwynedd, roedd ardal Dyffryn Ogwen a'i filltir sgwâr yn bopeth iddo. Bu farw yn 2015.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn 2006 yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, enillodd Gwynfor ab Ifor y Gadair am ei awdl ‘Tonnau’. Bu farw naw mlynedd yn ddiweddarach yn 61 oed, ac mae’r gyfrol hon yn un i’w thrysori fel crynhoad o’i gyfraniad gwerthfawr i fywyd llenyddol Cymru. Mae’n fardd sy’n gofyn cwestiynau mawr ynglŷn â natur ein bodolaeth. Ai’r funud hon yn unig sy’n cyfrif? Onid oes gennym i gyd ein cân i’w chanu a gwaddol i’w adael ar ein hôl? Cyn mynd ati i bori yn y gyfrol mae’n werth darllen cyflwyniad goleuedig Ieuan Wyn a rhagair Elin Gwyn, un o ferched y bardd. Cewch arweiniad gan Ieuan Wyn i hanes a gyrfa Gwynfor ab Ifor, a sylwadau ar ei grefft a’i themâu gan un a fu’n cyd-dalyrna ac yn cydymrysona ag ef. Dwys ar y cyfan yw cywair y cerddi, er bod yna rai cerddi hwyliog a doniol hefyd. Crynhoir y naws dywyll mewn englyn o ran gyntaf ei awdl ‘Tonnau’, sy’n adrodd am frad a thor perthynas: Hwyliaf heb geisio golau – ni hawliaf Wên yr haul i’m llwybrau; Ond i’r don ddigalon gau Drosof fel clepian drysau. Yn sicr mae yn yr awdl ymwybyddiaeth o farwoldeb dyn – ‘Nid yn hir caiff dyn aros’ – sy’n atgoffa rhywun o thema fawr R. Williams Parry – ‘Marwolaeth nid yw’n marw – hyn sydd wae’: Fe oerwn o’n llafurwaith; – diflannu O wên ein teulu, o fryniau’n talaith. Mwy gobeithiol yw’r awdl ‘Gwaddol’ ar ddiwedd y gyfrol, oherwydd mae’r bardd yn mynnu bod yna gân inni ei chanu tra byddwn yma, a’r gân honno yw’r gwaddol a adawn ar ein hôl. Dyma ddwy thema fawr Gwynfor ab Ifor – byrhoedledd dyn a’r gwaddol y gall ei adael ar ei ôl. Mae fel petai’r ddwy thema’n cystadlu am oruchafiaeth yn ei waith. Ceir y pwyslais ar y gwaddol a adewir gan ddyn a chymdeithas yn yr hir a thoddaid ‘Aberffraw’, sy’n gorffen â’r awgrym bod hanes tywysogion Gwynedd yn dal i’n hysbrydoli. Ond ‘Heddiw yw’r oll a feddwn’ meddai yn y cywydd ‘Ar Hanner Brawddeg’. Ac eto, ‘Rhyw lafn yn rhywle o hyd / O heulwen fyn ddychwelyd’ yw ei brofiad yn ‘Myfyrdod ym Mathrafal’. Rhaid pwysleisio’r ysgafnder a geir yn y gyfrol hefyd, gan un a allai fod yn ‘dipyn o gymeriad’ yn ei ieuenctid, er enghraifft yn y cerddi ‘Yn Un ar Hugain Oed’ a ‘High Noon’. Ac weithiau cawn gip ar lawenydd; yn y gerdd ‘Drych’ am yr Archentwraig o dras Gymreig Sarah Jones Macdonald, ceir golwg sydyn ar y llawenydd a oedd yn nodwedd gref o’i phersonoliaeth, lle mae’r bardd yn edrych gyda’i hwyrion ‘ar lun o lawenydd / yn nhawelwch y paith’. Wrth ddarllen, byddwch yn sylwi ar feistrolaeth y bardd ar amrywiaeth o fesurau. Mae’r mesurau caeth yn amlwg ac mae’r gyfrol yn cynnwys adran sylweddol o englynion; mae yma hefyd gywyddau a hir a thoddeidiau yn ogystal â’r awdlau. Ond mae nifer dda o gerddi rhydd hefyd, yn delynegion, sonedau afreolaidd a mesurau emynyddol eu naws. Mae sawl cerdd grefyddol ac emynyddol a fyddai’n addas i’w defnyddio mewn oedfaon, e.e. ‘Drws Agored’: Mae dy ddrws yn llydan ’gored A’th oleuni’n tywynnu’n gry’, Pam na allaf weled ynddo Drwy’r tywyllwch ar bob tu? Sonia Ieuan Wyn am feistrolaeth Gwynfor ab Ifor ar lenyddiaeth Gymraeg. Un o bleserau darllen y gyfrol i mi oedd sylwi ar y cyfeiriadau yma ac acw at gerddi arwyddocaol beirdd eraill. Yn y cwpled a ddyfynnais uchod o ‘Myfyrdod ym Mathrafal’ (‘Rhyw lafn yn rhywle o hyd / O heulwen fyn ddychwelyd’), mae adlais amlwg o waith Dic Jones sy’n gweld ‘darn o haul draw yn rhywle’. Ac nid yw’n syndod clywed adleisiau o Caradog Prichard hefyd, yn enwedig yn un o’r cerddi gorau, ‘Y Bryniau Hyn’. Mae llinellau olaf y gerdd yn adleisio ‘Cân yr Afon’ Caradog Prichard o’i bryddest ‘Y Briodas’. I mi mae yma adlais hefyd o gerdd Waldo, ‘Geneth Ifanc’ a chadarnhad o gred y bardd mewn gwaddol: ‘Cadarnach y tŷ anweledig a diamser / Erddi hi ar y copâu hyn.’ Cyd-ddigwyddiad hapus yw gweld yn y gyfrol dri englyn ‘I Gyfarch T. James Jones, Bardd y Gadair 2007’, 12 mlynedd cyn i Jim ennill ei ail Gadair yn Llanrwst eleni. Mae’r ail englyn yn dechrau â’r llinell ‘Ei ddawn i greu wna i ddyn grio,’ sy’n troi ar ei phen linell ddwys ac enwog Dic Jones, ‘Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth’. Chwedl T. H. Parry-Williams, ‘Dagrau sy’n creu holl gelfyddydwaith dyn’; gall y gelfyddyd honno yn ei thro ennyn dagrau. A chreu gwaddol.
Share
