Cyngor Llyfrau Cymru

Gwaith Ann Griffiths

Gwaith Ann Griffiths

Regular price £14.99 GBP
Regular price Sale price £14.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Bydd 2026 yn 250 mlwyddiant geni Ann Griffiths (1776–1805). Dyma olygiad newydd o'i llythyrau a'i hemynau i ddathlu'r achlysur gan awdurdod yn y maes, yr Athro E. Wyn James. Mae'r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd sylweddol sy'n cloriannu ei bywyd a'i gwaith ac yna'r emynau a'r llythyrau. Cynhwyswyd hefyd lythyrau cyfeillion a chofiant John Hughes, gyda nodiadau cyflawn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

2026 will be the 250th anniversary of the birth of Ann Griffiths (1776–1805). This is a new edition of her letters and hymns to celebrate the occasion by an authority in the field, Professor E. Wyn James. The volume includes a substantial introduction which evaluates her life and work followed by the hymns and letters. Also included were letters from friends and a biography of John Hughes.

Archebu o flaen llaw

Os nad yw’r teitl hwn wedi’i gyhoeddi eto, gallwch ei archebu o flaen llaw. Byddwn yn dosbarthu eich eitem cyn gynted ag y bydd ar gael gan y cyflenwr ac wedi cyrraedd atom. Gall dyddiadau cyhoeddi newid.

Pre-orders

If this title has not yet been published, you can order it in advance. We’ll dispatch it as soon as it is available from the supplier and has reached us. Publication dates may change.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800998360
Gwales Code
gwales.com.9781800998360
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gwaith Ann Griffiths
Awdur / Author
James, E. Wyn
Current Price ex VAT
£14.99
Current Price inc VAT
£14.99
Availability Status (EN)
Not yet published
Availability Status (CY)
Heb ei gyhoeddi
Dyddiad argaeledd / Availability Date
2027-02-01
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2027-07-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
240 pages
Size
140 × 215 mm; depth 19 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C020637

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Brodor o Droed-y-rhiw ger Merthyr Tudful yw’r Athro E. Wyn James. Graddiodd yn y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1972. Ar ôl cyfnod fel Swyddog Ymchwil yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth ac yn Ddirprwy Warden Neuadd Pantycelyn, treuliodd ddwy flynedd ar bymtheg fel Cyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994, ac arhosodd yn aelod o staff Ysgol y Gymraeg nes iddo ymddeol yn 2015. Mae’n cyhoeddi’n gyson ac yn derbyn gwahoddiadau yn aml i ddarlithio ac i ddarlledu. O ran ei waith ymchwil, mae’n canolbwyntio’n arbennig ar yr emyn, y faled a’r gân werin; diwylliant Cymraeg de-ddwyrain Cymru; awduron benywaidd; hanes argraffu a chyhoeddi; y mudiad i ddiddymu caethwasiaeth; a’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

View full details