Cyngor Llyfrau Cymru
Gwyddoniadur y Beibl
Gwyddoniadur y Beibl
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Addasiad Cymraeg o The New Lion Encyclopedia of the Bible , sef cyfrol gynhwysfawr yn esbonio cefndir, prif themâu, digwyddiadau, cymeriadau a hanesion y Beibl, gyda mapiau a siartiau, diagramau a llinellau amser, cyfeiriadur a mynegai. 300 o luniau lliw.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A Welsh adaptation of The New Lion Encyclopedia of the Bible , being a comprehensive volume explaining the background, main themes, events, characters and stories of the Bible, with maps and charts, diagrams and time lines, directory and index. 300 colour illustrations.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781859947487
- Gwales Code
- gwales.com.9781859947487
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gwyddoniadur y Beibl
- Awdur / Author
- Beaumont, Mike
- Current Price ex VAT
- £19.99
- Current Price inc VAT
- £19.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-10-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau'r Gair
- Translator
- Davies, Olaf
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 224 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyfrol liwgar a deniadol arall gan Gyhoeddiadau’r Gair. Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg dan y teitl The New Lion Bible Encyclopedia . Nid llyfr i’w ddarllen o glawr i glawr yw hwn, ond cyfeirlyfr i bori yma ac acw ynddo. I’r sawl sydd am ddarganfod mwy am y Beibl, ei gefndir a’i gynnwys, mae’r gyfrol hon yn adnodd rhagorol i ddysgu am bobloedd, teithiau, lleoliadau, digwyddiadau a dysgeidiaeth yr Ysgrythur. Mae’n ddarllenadwy iawn ac yn llawn lluniau, mapiau, siartiau a thablau i helpu’r darllenydd i ddeall y cefndir. Mae saith adran i’r llyfr: 'Creu’r Beibl', 'Stori’r Beibl', 'Gwlad y Beibl', 'Cenhedloedd y Beibl', 'Bywyd yn y Beibl', 'Crefydd yn y Beibl' a 'Canolbwynt y Beibl – Iesu'. Ym mhob adran mae nifer o wahanol bynciau neu themâu yn cael eu trafod. Yna ar ddiwedd y gyfrol ceir mynegai a chyfeiriadur sy’n ddefnyddiol dros ben, sef deg tudalen ar hugain, bron, o bytiau byrion ar wahanol bynciau, lleoedd a phobl. Mae gan lawer o bobl gwestiynau, amheuon a rhagfarnau wrth feddwl am y Beibl. Mae eraill, wrth feddwl am ei ddarllen, yn dweud nad ydynt yn gwybod ble mae dechrau, ac yn cael rhannau helaeth ohono'n anodd iawn i’w deall. Mae’r cyfeiriadau ynddo at arferion diwylliannol a chrefyddol sy’n ddieithr i ni yn y Gorllewin yn achosi dryswch. Bydd Gwyddoniadur y Beibl yn help mawr i unrhyw un sydd am ddarllen y Beibl a deall y cyd-destun a’r cefndir yn well. Gellid dadlau mai’r Beibl yw'r llyfr mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd erioed. Bydd Gwyddoniadur y Beibl yn help i bawb sy’n awyddus i’w ddeall yn well – disgyblion ysgol uwchradd, pobl mae cynnwys y Beibl yn bur ddieithr iddyn nhw a’r rhai hynny sy’n tybio eu bod eisoes yn gyfarwydd â’i neges oesol.
Share
