Cyngor Llyfrau Cymru
Gwyddoniadur y Pethau Pwysig Iawn
Gwyddoniadur y Pethau Pwysig Iawn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol ddelfrydol ar gyfer ymchwilwyr ifanc sydd am wybod y cyfan! Darllena gannoedd o ffeithiau cyffrous, dysga bopeth am bobl y byd, am anifeiliaid anhygoel, a dod o hyd i ryfeddodau di-ri ein planed ni, a llawer, llawer mwy! Addasiad Cymraeg Siân Lewis o Encyclopedia of Very Important Things .
Disgrifiad Saesneg / English Description
This book is perfect for children from 6 years of age. It provides all the information they need and much more! A mixture of breath-taking photography and charming illustrations ensure a perfect visual balance for this golden age. Sian Lewis's Welsh adaptation of Encyclopedia of Very Important Things is bursting with knowledge and loads of very important things.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781804163597
- Gwales Code
- gwales.com.9781804163597
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gwyddoniadur y Pethau Pwysig Iawn
- Awdur / Author
- Mitchem, James
- Current Price ex VAT
- £12.99
- Current Price inc VAT
- £12.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-10-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Lewis, Siân
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 224 pages
- Size
- 213 × 255 mm; depth 5 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Gwyddoniaduron a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Encyclopaedias and Dictionaries (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C018179
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Gwyddom oll fod plant yn chwilfrydig a’u hawch i ddysgu yn ddiddiwedd. Wel, dyma’r llyfr perffaith i ddiwallu’r awch hwnnw! Mae gwybodaeth mor bwysig i blant i ddeall y byd a’u lle ynddo, ac mae croeso bob amser i wyddoniadur mor lliwgar a deniadol â hwn. Mae’r holl bynciau y byddech yn eu disgwyl mewn gwyddoniadur yma – y ddaear a’r gofod, y tywydd a'r tirwedd, mapiau a gwybodaeth am wledydd y byd, mamaliaid ac amffibiaid, deinosoriaid a hanes yr hen fyd, sut mae’r corff yn gweithio, yn ogystal ag ychwanegiadau difyr iawn megis rhifo a lluosi, arwyddion y Sidydd a horosgopau’r Tsieineaid. Ceir yma ddigonedd o wybodaeth a ffeithiau i sicrhau sawl sesiwn bleserus o ddarllen gyda phlant, yn ogystal â bod yn ddigon hwylus i fedru darganfod yr union dudalen wrth chwilio am bwnc arbennig. Ond nid oes gormod o ffeithiau yma, chwaith, i orlethu’r darllen. Mae’r brawddegau byrion a’r lluniau lu yn golygu bod y darllen yn rhwydd ac yn ddifyr, ac yn wir gall hefyd fod yn ymarfer darllen da ynddo’i hun i ddarllenwyr hyderus chwech oed a hŷn. Mae’r lluniau a gosodiad y tudalennau mor amrywiol a lliwgar, ac mae troi pob tudalen yn bleser i weld y cyfoeth gweledol gwahanol. Mae’r dyluniad yn sicr yn ychwanegu at y dysgu, er enghraifft gosod tyrau uchaf y byd yn ymyl ei gilydd i gymharu eu huchder, a’r trac rasio i’n helpu i ddeall cyflymder creaduriaid. Mae amrywiaeth y teip a’r defnydd amrywiol o brint trwm a phriflythrennau hefyd yn helpu i wneud y darllen yn haws. Mae’r addasiad yn un clodwiw, a’r Gymraeg yn llifo’n rhwydd a naturiol. Yr unig drueni, wrth gwrs, yw bod Cymru yn cael cam mewn gwyddoniadur cyffredinol fel hwn (map y Deyrnas Unedig sydd yma, e.e. ac nid un Cymru), a gwych o beth fyddai cael gwyddoniadur cystal yn sôn am yr holl bethau pwysig am Gymru.
Share
