Cyngor Llyfrau Cymru
Gwyllgi
Gwyllgi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yr olaf yn y drioleg o nofelau am anturiaethau'r cymeriad Oswyn Felix, y perchennog tafarn o Fangor wrth iddo fentro ar antur gymhleth arall sy'n plethu gwleidyddiaeth a phêl-droed, gangsters a phuteiniaid. Dilyniant i Pwll Ynfyd a Tarw Pres .
Disgrifiad Saesneg / English Description
The final novel in the trilogy about Oswyn Felix, the Bangor pub landlord who ventures on another complex adventure which interweaves politics and football, gangsters and prostitutes.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848517158
- Gwales Code
- gwales.com.9781848517158
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gwyllgi
- Awdur / Author
- Cob, Alun
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-11-19
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 254 pages
- Size
- 127 × 192 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Oswyn Felix wedi ei glymu wrth gadair. Yn y stafell gydag e mae putain a llofrudd. Pan mae Oswyn yn meddwl na allai pethau waethygu, dyma ddyn yn ymddangos ac yn saethu’r tri ohonyn nhw. Wedi’r fath agoriad bachog doedd yna ddim dewis ond parhau i ddarllen. Mae Alun Cob yn mynd â ni yn ôl i ddechrau’r helynt. Mae Felix yn cael ei gyflogi gan gyfaill i ddatrys achos o flacmel allai ddinistrio gyrfa un o’i gleientau. Wedi ychydig o waith ditectif mae Felix yn cael ei hun mewn iard dacsis ar gyrion Manceinion, ac mae pethau’n mynd o chwith yn gyflym iawn. Does fawr o groeso i Felix yn yr iard dacsis, ac yn fuan mae’n darganfod nad fe yw’r unig berson sy’n chwilio am y blacmelwyr ... Mae byd Gwyllgi yn wahanol iawn i’r un sy'n cael ei bortreadu yn y mwyafrif o nofelau Cymraeg. Dyma fyd o gyffuriau, rhyw, gwleidyddion llwgr, pêl-droedwyr cyfoethog, drylliau, seicopath o lofrudd a llawer iawn o drais. Mae’n fyd ciaidd lle mae trais a bygythiadau mor naturiol ag anadlu. Camp Alun Cob yw creu isfyd cwbl gredadwy, er bod rheolau’r bobl yn y byd hwnnw yn wahanol i brofiad y rhan fwyaf o'i ddarllenwyr (gobeithio!). Yr unig anhawster bach ges i oedd ymgodymu â'r Saesneg mewn acen ogleddol a hwnnw wedi’i ysgrifennu yn ffonetig. Dydw i ddim wedi darllen y ddwy nofel gyntaf yn y gyfres yma, ond doedd hynny ddim o bwys. Mae’r cymeriadu’n dda a does dim angen gwybod llawer am orffennol Felix i werthfawrogi’r stori. Ac am fod sawl haen i’r chwedl, a’i bod yn cael ei hadrodd o safbwyntiau gwahanol, rydyn ni’n carlamu’n ddi-stop tuag at uchafbwynt gwaedlyd, heb fod yn siŵr beth i'w ddisgwyl nesa. Mae’n siom cael gwybod mai dyma’r olaf o’r tair nofel am Oswyn Felix. Peidiwch â'i darllen os ydych yn berson sensitif neu os oes gennych stumog wan, ond mae’n hynod ddarllenadwy, ac yn bortread o fyd sydd ddim i’w weld yn aml mewn llenyddiaeth Gymraeg. Falle mod i’n eu darllen nhw yn y drefn anghywir ond dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y ddwy nofel gyntaf yn y gyfres.
Share
