Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Gwyrddach - Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig — Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig

Gwyrddach - Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig — Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig

Regular price £4.95 GBP
Regular price Sale price £4.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llyfr lliw deniadol sy'n cynnig cynghorion defnyddiol i'n harwain tuag at fyw bywyd llai gwastraffus.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A visually attractive book offering tips which lead us gently into living our lives with less waste, and less plastic.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912173211
Gwales Code
gwales.com.9781912173211
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gwyrddach - Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig — Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig
Sub Title
Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig
Awdur / Author
Jones, Mari Elin
Current Price ex VAT
£4.95
Current Price inc VAT
£4.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-09-12
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
166 × 140 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Natur, Daearyddiaeth, Daeareg (yn Gymraeg) | EN: Nature Studies, Geography, Geology (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Yr Amgylchedd (yn Gymraeg) | EN: The Environment (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

A oeddech chi’n gwybod y credir y bydd mwy o blastig yn ein moroedd na physgod erbyn 2050? Dyma un o’r ffeithiau hynod drawiadol yn nhudalennau cyntaf y llyfr hwn, sy’n ceisio ein hannog i ddefnyddio llai o blastig. Mae’r llyfr yn cychwyn gyda strategaethau y gallwn ni oll eu defnyddio, fel lleihau faint o sbwriel rydym ni’n ei gynhyrchu trwy fabwysiadu’r strategaeth ‘Gwrthod, Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu, Pydru’. Mae’r tips cyntaf yn rhai mwy amlwg, efallai, fel cyfnewid poteli dŵr plastig a chwpanau coffi am rai ailddefnyddadwy, a chyfnewid bagiau siopau plastig am rai ailddefnyddadwy, ond yn yr holl adrannau – ‘Cartref’, ‘Yn y Gegin’, ‘Iechyd a Harddwch’, ‘Ffasiwn’, ‘Dathlu’ ac ‘Arafu’ – mae yna awrymiadau gwreiddiol a diddorol sy'n gallu ein helpu ni oll i fyw yn fwy cynaliadwy. Mae yna gynghorion ar sut i newid eich cyflenwyr ynni i rai gwyrdd, sut i olchi ffenestri â blawd ŷd, sut i greu menyn a sos coch, a sut i wneud balm mefus cartref a siampŵ sych, ymhlith degau o gynghorion defnyddiol eraill. Mae yna adran ar sut i wneud paned o de diblastig, sut i greu gwesty gwenyn, a sut i wneud eich ceglyn ( mouthwash ) eich hun adref. Ceir gwybodaeth am sut i drwsio tyllau mewn dillad, sut i gynnal parti yn wyrddach, a sut i lapio anrhegion mewn ffabrig. Mae’r llyfr yn gorffen ag adran ar ‘Arafu’, sy’n cynnwys syniadau am sut i dreulio amser yn ymlacio mewn ffordd gynaliadwy, a sut i werthfawrogi amser yng nghwmni byd natur a phobl eraill. Dyma lyfr pwysig iawn. Mae’n llawn syniadau am sut gallwn ni oll wneud ychydig yn fwy er mwyn byw’n wyrddach. Mae’n llyfr sy’n addas i bobl sydd megis dechrau ceisio byw’n wyrddach, yn ogystal â'r rheiny sydd eisoes yn gwneud ymdrech fawr. Hyfryd yw gallu cael yr holl wybodaeth ddefnyddiol yma mewn un lle trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r llyfr hwn wir werth ei ddarllen. Ar ddechrau’r llyfr mae Mari Elin yn dweud y gallwn ni fel unigolion wneud 3 pheth i helpu sefyllfa’r blaned, sef addysgu’n hunain, rhannu’r neges, a newid rhywbeth. Mae’r llyfr yma’n addysgiadol iawn, ac yn llawn cynghorion am sut i newid ein ffyrdd i fod yn fwy cynaliadwy. Byddai rhoi’r llyfr hwn yn anrheg yn syniad gwych er mwyn rhannu’r neges am sut i fyw’n wyrddach.

View full details