Cyngor Llyfrau Cymru
Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd
Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Byd creulon y ddau ryfel byd wedi ei ddehongli gan yr hanesydd Catrin Stevens yn y gyfres Hanes Atgas. Digon o ffeithiau ffiaidd a ffrwydrol am ymgyrchoedd ynfyd, arwyr arswydol, menywod mentrus, bwlis bril, creaduriaid cythreulig, troseddau trasig, cosbau creulon, rheolau rhyfeddol, tictactau trawiadol, ystadegau ysgytwol a dial dieflig.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The cruelties of the two world wars are interpreted by the historian Catrin Stevens in this book in the Hanes Atgas series. Includes plenty of horrible and explosive facts about crazy campaigns, inspirational heroes, adventurous women, cruel punishments, amazing regulations, remarkable tactics, scary statistics and repulsive revenge.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848512962
- Gwales Code
- gwales.com.9781848512962
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd
- Awdur / Author
- Stevens, Catrin
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-05-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Howells, Graham
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Size
- 130 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Cynnwys / Table of Contents
Y Rhyfel Byd Cyntaf Enbyd Dechrau yn y Dechrau – Sut i Ddenu’r Werin Wirion i’r Fyddin Fawr A Dyma Nhw Yno – Yn Uffern ar y Ddaear Awr Fawr y Cymry? Rhaid Cymryd y Coed Portread Parchus o Arwr Arswydol Trosedd a Chosb yn y Rhyfel Byd Cyntaf Enbyd ‘Nôl yng Nghymru fach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Enbyd A Dyna Ddiwedd y Rhyfel Mawr O Ryfel i Ryfel Yr Ail Ryfel Byd Enbyd Oriel yr Eiconau Eithriadol Fflamia Abertawe Carcharau Cythreulig Cyffro’r Ffrynt Cartref Menywod yn Ystod yr Ail Ryfel Byd: Mâs o’r Gegin ‘na Nawr! Gwael neu Gwych? Effeithiau Ffiaidd yr Ail Ryfel Byd Enbyd
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cydnabyddir Catrin Stevens o Gasllwchwr, Abertawe, nid yn unig fel awdures doreithiog ond hefyd fel addysg wraig ac awdurdod ar agweddau o draddodiadau a hanes Cymru. Dehonglir y testun yn glyfar yng nghartŵnau doniol Graham Howells o Lanelli.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Brwydro, bomio, llosgi a lladd... Darlun erchyll o ryfel a ffeithiau am gyfraniad Cymry i’r ddau ryfel byd welir yng nghyfrol ddiweddaraf yr hanesydd Catrin Stevens o Gasllwchwr. Hanes Atgas:Y Ddau Ryfel Byd Enbyd yw pedwerydd teitl y gyfres arbennig sy’n dehongli hanes o berspectif cwbl Gymreig. Darlunnir y llyfr gan Graham Howells o Lanelli a thrwy ei luniau a’r cartwnau daw gwedd ysgafn ar ambell i bwnc astrus mewn hanes. Nodwedd arbennig cyfres Hanes Atgas yw’r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi hanes. Gall gynnwys cwis, llinell amser, amserlen diwrnod, llun wedi ei labeli, poster, rysáit, stribed cartŵn, pwyntiau pwysig, deialog, baled, portread, dyddiadur neu lythyr. Ni feiddiai milwr ysgrifennu’r gwir mewn llythyr o’r ffosydd. Heb y sensor, mae’n siŵr y byddai ei lythyr yn cofnodi rhywbeth fel hyn. ‘Mae bywyd yn erchyll yma... Mae’n debyg iawn i gae tatws yma, yn stêcs ofnadwy, ond nid tatws sy’n tyfu yn y caeau yma ond coesau a phennau dynion wedi marw. Dy’n ni’n byw fel anifeiliaid mewn tyllau yn y ddaear. Ac mae’n drewi yn annioddefol yma rhwng y baw a’r llaid, y chwys, y tai bach a’r cyrff marw.’’ Bu 272,000 o Gymry yn ymladd dros Brydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf, nifer arswydus o uchel ac erbyn 1916 doedd dim llawer o ddynion yn fodlon bod yn filwyr. Felly penderfynodd y llywodraeth basio deddf i orfodi pob dyn ifanc rhwng 18 a 45 i ymuno â’r fyddin. Roedd gorfodaeth fel hyn yn amhoblogaidd iawn a dechreuodd dynion ifanc guddio i osgoi cael eu gorfodi i fod yn filwyr. Nid yw’r drefn hon yn bod bellach ym Mhrydain ond mae gorfodaeth milwrol yn dal mewn grym yn nifer o wledydd y byd heddiw. Gan fod y Rhyfel Byd Cyntaf mor enbyd, roedd pawb yn dweud mai hwn fyddai’r rhyfel mawr olaf am byth...tan yr Ail Ryfel Byd! Abertawe ddioddefodd y blits gwaethaf yn hanes Cymru ym mis Chwefror 1941. Cafodd 56,000 o fomiau tân a 1,273 o fomiau ffrwydrol eu gollwng ar y dref gan ddinistrio ffyrdd, 15 ysgol, 171 o siopau, y farchnad, gwneud 6,500 yn ddi-gartref a lladd tua 230 ac anafu 409 o bobl. Mae hanesion hunllefus carcharorion yr Ail Ryfel Byd yn debyg o godi gwallt eich pen. Carcharau’r Japaneaid oedd y gwaetha o bell ffordd. Bu farw David Ellis Roberts, morwr o’r Bermo o newyn gan fwyta chwyn o’r jyngl a dwyn crwyn bananas o fwyd y moch am ei fod bron â llwgu. Pe bai carcharor yn syllu ar y gardiau gormesol, byddai’n cael ei guro â chansen bambŵ ac am beidio ag ufuddhau i’r gardiau, byddai’n cael ei guro i farwolaeth. Faciwîs, bois Bevin, cuddio mewn llochesau, dogni diflas – dyna rai o’r pynciau eraill sy’n gysylltiedig â’r cyfnod. Cafodd Rhyfel 1939-45 effaith ar y byd i gyd. Rhannwyd y byd i orllewin (America a’i ffrindiau) a dwyrain (Rwsia a’i ffrindiau). Gorfododd Rwsia holl wledydd dwyrain Ewrop i fod yn Gomiwnyddion am 40 mlynedd ac i ddial ar yr Almaen codwyd wal Berlin. Cafodd yr Iddewon wlad iddyn nhw’u hunain yn Israel a ffurfiwyd y Cenhedloedd Unedig i geisio rhwystro rhyfeloedd erchyll fel hyn eto. Datblygodd technoleg newydd a fyddai’n newid y byd: pŵer niwclear, cyfrifiaduron a’r peririant jet. Cerdd ‘Das Ende’ (Y Diwedd) sy’n cloi’r llyfr ac meddai’r cwpled olaf ‘A dyna paham na ddylem anghofio Dathlu heddwch, nid rhyfel, ar ‘Sul y Cofio’. Nid llyfr i blant yn unig yw Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd ond llyfr i oedolion hefyd sydd am wybod ffeithiau am gyfraniad Cymry i’r ddau ryfel byd.
Share
