Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hanes yn y Tir — Hanes Gweledol Cymru o'r Cromlechi i'r Senedd

Hanes yn y Tir — Hanes Gweledol Cymru o'r Cromlechi i'r Senedd

Regular price £16.50 GBP
Regular price Sale price £16.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yn y gyfrol hon, mae'r hanesydd Elin Jones yn dangos bod olion gorffennol Cymru o'n cwmpas heddiw. Mae'n mynd â ni ar daith weledol drwy dros 5,000 o flynyddoedd o hanes ac o gwmpas Cymru gyfan. Llyfr hanfodol ar hanes Cymru i bob ysgol, disgybl ac athrawon.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845278311
Gwales Code
gwales.com.9781845278311
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hanes yn y Tir — Hanes Gweledol Cymru o'r Cromlechi i'r Senedd
Sub Title
Hanes Gweledol Cymru o'r Cromlechi i'r Senedd
Awdur / Author
Jones, Elin
Current Price ex VAT
£16.50
Current Price inc VAT
£16.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-09-07
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
222 pages
Size
140 × 216 mm; depth 20 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hanes - Cynradd (yn Gymraeg) | EN: History - Primary (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C114687

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Bu Elin Jones yn dysgu yn ysgolion uwchradd Preseli, Rhydfelen a Chwm Rhymni cyn cael ei phenodi’n swyddog addysg yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn y swyddi hyn i gyd roedd disgwyl iddi gynefino â phob cyfnod o hanes Cymru, a chafodd gyfle i gyd-weithio gydag arbenigwyr ac i baratoi adnoddau ar gyfer dysgwyr o bob oedran a gallu. Ym 1996 dechreuodd wneud gwaith ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, gyda chyfrifoldeb dros reoleiddio’r cymwysterau hanes, datblygu’r cwricwlwm hanes a’r dulliau o’i asesu, a chomisynu adnoddau dysgu hanes hefyd. Bu’n cadeirio’r tasglu oedd yn gyfrifol am baratoi’r adroddiad i’r Gweinidog Addysg ar Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru yn 2013. Mae’n westai poblogaidd wrth drafod straeon a chymeriadau o hanes Cymru ar raglenni Radio Cymru.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Elin Jones used to teach at Preseli, Rhydfelen and Cwm Rhymni secondary schools before being appointed education officer at the National Museum of Wales. In her work she had to be familiar with every period of Welsh history, and had to prepare resources for every age and ability. In 1966 she started work in an advisory role with the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales, with responsibility for regulating history qualifications and developing the curriculum for history as well as its assessment methods, and commissioning history teaching resources. In 2013 she chaired the taskforce that was responsible for preparing a report to the Education Minister on the Welsh Curriculum, history and the story of Wales. Elin Jones is a popular guest on Radio Cymru where she discusses stories and characters from Welsh history.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Oes, mae darnau o hanes mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd – ond maen nhw yma hefyd, mewn hen luniau, enwau lleoedd, ar fapiau ac mewn olion hen adeiladau ar lechwedd mynydd neu ar lan y môr. Bydd y llyfr hwn yn eich helpu i wybod ac i ddeall yr hanes, lle bynnag ydych chi yng Nghymru. Bydd yn sbardun ichi chwilio am ragor o ddarnau o’n gorffennol. Pwy oedd y bobl gyntaf oll i fyw yng Nghymru? Pam fod Glyndŵr mor bwysig i’r Cymry? Beth oedd rhan Cymru yn y fasnach gaethweision? Pa ddylanwad gafodd y môr ar ein hanes? Dewch i chwilio am rai o’r atebion!

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yes, you can find some history in museums and libraries – it is all around us too, in old photographs, in place names, on maps and in the remains of old buildings on a hillside or by the sea. Wherever you are in Wales, this book will help you to know and to recognise the history around you – and it will make you want to look for more. Who were the first people to live in Wales? Why is Glyndŵr so important to the Welsh? What part did Wales play in the slave trade? How has the sea influenced our history? Come to look for some of the answers!

View full details