Cyngor Llyfrau Cymru
Heb Law Mam
Heb Law Mam
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel am Efa sy'n cael trafferthion gyda chriw o 'ffrindiau' yn yr ysgol, tra bod ei mam yn yr ysbyty. Does neb yn deall Efa'n iawn, heblaw Mam. Nofel sy'n cynnwys themâu megis cyfeillgarwch ffug, problemau teuluol a charwriaethol, gyda digon o hiwmor a dwdls, yn steil y Dork Diaries . Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2020.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel about Efa who experiences difficulties among her school 'friends' while her mother is in hospital. No-one really understands her, apart from her mother. The novel deals with themes such as fake friendship, family and romantic problems, with a good dollop of humour and doodles, in the style of the Dork Diaries . Reprint. First Published in 2020.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784618513
- Gwales Code
- gwales.com.9781784618513
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Heb Law Mam
- Awdur / Author
- Tomos, Heiddwen
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2022-11-08
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Prif gymeriad y stori yw Efa, merch ysgol sy’n wynebu pob math o sialensau arferol yr arddegau fel ffrindiau (neu ddiffyg ffrindiau), tad embarrassing , bwlis, athrawon, ac wrth gwrs, y cariad cyntaf. Ar ben y rhain i gyd, mae ei mam ar fin rhoi genedigaeth ond hefyd yn dioddef o gancr y fron – mae’n rhyfeddol sut mae Efa’n ymdopi gyda’r holl bwysau. Er bod yna themâu dwys yma, ceir hiwmor drwyddi draw ac o ganlyniad cawn lyfr sy’n andros o hawdd ei ddarllen, gyda’r jôcs yn cydbwyso’r darnau trist yn effeithiol. Athrawes ysgol uwchradd ydi’r awdur, ac roedd hyn yn amlwg yn yr ysgrifennu. Mae’r ddeialog, y sefyllfaoedd a’r cymeriadau yn naturiol iawn – nid yw’n teimlo fel oedolyn yn ceisio sgwennu’n cŵl ar gyfer yr arddegau. Drwy dreulio cymaint o amser gyda phobl ifanc o’r oedran yma, mae hi’n nabod ei chynulleidfa i’r dim. Er ei bod hi’n nofel addas iawn ar gyfer pobl ifanc rhwng 11–14 oed, fel darllenwr hŷn, mi wnes i fwynhau hon yn fawr a chael fy atgoffa o’m dyddiau ysgol. Cafodd y rhamant rhwng Efa a Cai ei gyflwyno’n fedrus ac roedd yn hollol gredadwy – fel y ffordd mae hi’n gwirioni a chael gwefr jest o gyffwrdd blaen bys ag ef, neu’r sefyllfa lletchwith oedd rhwng y ddau wrth iddyn nhw ffarwelio gyda’r nos. Mae Efa druan yn cael amser caled gan ei “ffrind” Gwen, sy’n bell o fod yn gyfaill mewn gwirionedd. Hen sguthan o hogan ydi hi ac mae’n gymeriad y bydd sawl un ohonom yn ei gofio neu adnabod. Y person ’na sy’n smalio bod yn ffrind ond dach chi’n gwybod nad ydyn nhw’n gwneud daioni i chi. Gwyddai Efa hyn yn iawn ond bod yr angen am gwmni’n gryfach na bod ar ei phen ei hun. Mewn ffordd, ymdebyga Gwen i dyfiant y cancr – rhywbeth drwg oedd angen ei dorri ymaith … Os ydach chi am glywed hanes Gwen yn cael ei haeddiant, darllenwch y llyfr! Yn ôl Heiddwen Tomos, “neges y stori yw bod cyfnodau ym mywydau pawb yn gallu bod yn anodd, ond daw eto haul ar fryn”. Erbyn y diwedd, mae gan Efa rwydwaith o bobl i’w helpu i wynebu’r heriau a dwi’n falch fod yna rywfaint o obaith erbyn diwedd y nofel. Yn wahanol i rai straeon tebyg yn y genre , nid dyddiadur a geir yma ac felly cawn ddarlun ehangach, mwy amrywiol na safbwynt Efa’n unig; roedd hi’n ddiddorol edrych ar berthynas Cai a’i fam hefyd. Mae’r dŵdls yn ychwanegu rhywbeth hefyd, er, yn bersonol dwi’n meddwl basa’r llyfr wedi gallu gwneud efo mwy ohonyn nhw. Ceir yma’r cynhwysion i gyd ar gyfer stori berffaith i’r arddegau. Mae ’na ddigon o dristwch, emosiwn, anwyldeb a thynerwch i greu cymeriadau rydan ni’n malio amdanyn nhw, ac wrth gyfuno hyn â hiwmor, negeseuon testun, dŵdls a sefyllfaoedd credadwy, mae’r awdur wedi llwyddo i greu campwaith.
Share
