Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hel Hadau Gwawn

Hel Hadau Gwawn

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o gerddi telynegol sy'n archwilio themâu amser a lle trwy gyfrwng cerddi caeth a cherddi rhydd. Dyma'r gyfrol gyntaf o gerddi i Annes Glynn ei chyhoeddi, cyfrol sy'n drwm dan ddylanwad Ynys Môn ei magwraeth.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of lyrical poems by Annes Glynn exploring themes of time and space through the medium of both strict and free metres. This first collection reflects the authoress's upbringing on the island of Anglesey.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584032
Gwales Code
gwales.com.9781911584032
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hel Hadau Gwawn
Awdur / Author
Glynn, Annes
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-04-24
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
68 pages
Size
depth 6 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

Man gwyn Llwybr Ynni Yn nyddiau derwyddon Haelioni mam Pŵer Parys Fel y gwynt Ar war y don Y gaer sydd ar y gorwel Daw yno nerth adenydd ‘Ynys Ynni’ Mynydd Dyffryn Ogwen Mynd â ’ngwynt i Ein Hanthem Genedlaethol Cymru Rydd? Blas Ffynnon Pris Protest Plant drwg Storïwr ‘Bandijis ydy geiriau’ Llais Un Nos Ola Leuad Cyffwrdd Hatch, match – dispatch Aros Cysgod Dychwelyd Clawdd Terfyn Niwlen Haf Trwsio Ochr arall y ffens Cariad cyntaf Hogyn wrth y til ‘Marw i fyw ...’ Hwiangerdd yr oriau mân Cwrlid mam Gwylnos Rhwng Angladd Mai ‘Marw Prifardd’ Cwlwm ‘Dewch yn nes’ Wyneb yn wyneb O dan yr wyneb Gwlith Cylch Colli ffrind, a mwy Wyneb Taith I Robin McBryde Gerallt Adenydd beirdd Gerallt Colli Gwyn Thomas Y Mabinogi Glöyn Tlws yr Eira Clychau’r Gog Tachwedd Machynlleth, Rhagfyr 2012 Croesffordd Disgwyl Pen-blwydd Hen ofn Cyrraedd Cylch Rhodiwn lle gynt y rhedai Eban Hedd Twm Elis Aniela Menai Lena Mari Nico Macsen Y Gamp Dysgwr Neuadd Brecwast Rhwyg Newyddion ddoe Arf Cywydd o fawl i bob ‘Anti’ Rhwng Pedair Wal Y Genhinen Bedr Gynhenid Gymreig I Manon I Elinor Troi’r Cloc

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

O Frynsiencyn y daw Annes yn wreiddiol ac mae ei chyswllt â’i hynys enedigol mor agos ag erioed, er iddi ymgartrefu yn Arfon ers dros ddeugain mlynedd. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a chyhoeddodd hefyd nofel yn dwyn y teitl Canu’n y Co’ (Gomer). Ond barddoni a wna yn bennaf, bellach; bu'n aelod o Dîm Talwrn Yr Howgets a Thîm Glannau Menai am rai blynyddoedd ac y mae newydd ymuno gyda Chriw'r Ship, Caernarfon. Enillodd goron a chadair Eisteddfod Môn. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Derwydd Gweinyddol Gorsedd Beirdd Môn.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Efallai mai fel awdur rhyddiaith y mae Annes Glynn yn fwyaf adnabyddus i ni, ond mae pori mewn cyfrolau o gyfansoddiadau a beirniadaethau ambell Eisteddfod Genedlaethol a gwrando ar Dalwrn y Beirdd yn dangos i ni ei bod hi’n fardd galluog iawn yn y mesurau caeth a rhydd hefyd. Pleser mawr, felly, yw gweld cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi, a hwnnw’n gasgliad amrywiol iawn o ran cynnwys ac o ran mesurau. Cydnabyddir ar ddechrau’r gyfrol fod nifer o’r cerddi hyn wedi’u cyhoeddi eisoes mewn amryw gylchgronau, a hefyd mewn cyfrolau o Gyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Er enghraifft, bu tair o’r cerddi’n fuddugol yn Eisteddfod Sir Gâr, 2014, sef ‘Taith’, ‘Neuadd’ a ‘Storïwr’. Ymddangosodd eraill yn Pigion Talwrn y Beirdd 12 . Pan gyhoeddwyd Symudliw , sef y gyfrol o lên meicro a gipiodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004, fe welsom ddawn yr awdur i gyflwyno llawer mewn ychydig eiriau. Mae hynny’n sicr yn wir am gerddi’r gyfrol hon hefyd. Fel y dywedodd Gruffydd Aled Williams wrth feirniadu cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro, 2011, mae’r bardd ‘yn gallu cyfleu byd o brofiad mewn ychydig eiriau'. Ac o sôn am Eisteddfod Wrecsam, daeth y bardd yn agos iawn at gipio’r Gadair yno. Cafodd ei chasgliad o gerddi, ‘Clawdd Terfyn’, ganmoliaeth uchel gan y tri beirniad, a braf yw gweld bod y gyfres honno o gerddi wedi’i chynnwys yn y gyfrol hon. Geiriau eraill canmoliaethus a ddaeth o law’r beirniaid oedd fod gan y bardd ‘ddawn delynegol ddiamheuol’ (Emyr Lewis), a bod ganddi ‘arddull agos-atom ddeniadol’ (Donald Evans). Ceir dwy gyfres arall gyffelyb o gerddi byrion yma, sef ‘Ynni’ a ‘Croesffordd’. Fel y nodwyd, mae yma amrywiaeth sylweddol o ran mesurau. Yn ogystal â mesurau cyfarwydd fel yr englyn, y cywydd a’r hir-a-thoddaid, ceir hefyd amrywiadau ar y mesurau hyn. Ceir yr un amrywiaeth hefyd o fewn i’r cerddi rhydd. Daw cariad at wlad a bro i’r amlwg mewn nifer o’r cerddi, gyda Môn yn hawlio lle blaenllaw. Mae Eryri a mannau fel Dyffryn Ogwen hefyd yn agos at galon y bardd, ac yn y gerdd ‘Blas’ mae’n nodi fel y mae mannau yng Nghymru yn apelio fwy ati na lleoedd tramor hudolus. Ond mae’n ymwybodol iawn hefyd o’r problemau a’r anawsterau sy’n wynebu’r Gymru wledig gyfoes. Yn y gerdd ‘Pris’ mae’n cyfeirio at y modd y mae prisiau tai mewn llawer man bellach y tu hwnt i gyrraedd y bobl leol. Cwestiwn dyrys a dadleuol cau ysgolion bach y wlad yw byrdwn yr hir-a-thoddaid ‘Protest’. Mae’r gyfres o gerddi ‘Ynni’ yn trafod rhai o’r cwestiynau sy’n codi ym Môn ynglŷn â chynhyrchu ynni; er enghraifft, codi ffermydd gwynt oddi ar arfordir yr ynys, a’r ddadl ynglŷn ag ynni niwcliar a dyfodol safle’r Wylfa. Ceir nifer o gerddi sy’n cofio ac yn hiraethu am anwyliaid a gollwyd. Bu colli ei thad yn brofiad ingol, a chofir yn annwyl iawn amdano mewn cerddi megis ‘Hatch, Match, Dispatch’, ‘Cysgod’, a’r englyn campus ‘Aros’. Cerddi eraill sy’n sôn am rai a gollwyd yw ‘Taith’ a ‘Colli Ffrind a Mwy’ (Sian Owen); ‘Marw Prifardd’ (Iwan Llwyd) ac ‘Adenydd Beirdd’ (Olwen Dafydd). Ar ddechrau’r gyfrol dywedir ei bod yn cael ei chyflwyno ‘i’r genhedlaeth nesaf’, sef pump o wyrion, ac ar dudalennau 56 a 57 caiff y pump ohonynt englyn yr un. Yn wir, mae anwyldeb ac agosatrwydd yn nodweddu’r englynion hyn. Ar gefn y gyfrol dywedir i’r gynghanedd fod yn ‘atyniad anodd iawn ei wrthsefyll’, ac o ganlyniad ‘barddoni’n bennaf a wna bellach’. Mae siawns go dda felly y gwelir eto gyhoeddi cyfrol o gerddi crefftus fel y rhain yn y dyfodol.

View full details