Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hela

Hela

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela . Ceir hanes criw o ffrindiau - Callum, Babo, Jac Do a Saim Bach - sy'n gorfod tyfu i fyny'n gyflym iawn wrth i'r gymuned, ei phobl a phob dim sy'n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu'n yfflon.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel about friendship, deception and community. We follow a group of friends - Callum, Babo, Jac Do and Saim Bach - who have to learn to grow up quickly as their community, its people and all that is familiar to them shatter.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800991026
Gwales Code
gwales.com.9781800991026
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hela
Awdur / Author
Hughes, Aled
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-09-13
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
224 pages
Size
131 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Un o Ben Llýn yw Aled yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Sir Fôn. Bu’n gweithio fel gohebydd newyddion, cyn cyflwyno ei raglen foreol ei hun ar Radio Cymru o fore Llun i Iau. Mae wedi cyflwyno ar y teledu hefyd, ar raglenni fel Rhannu a Waliau’n Siarad . Hela yw ei nofel gyntaf.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Pentre bach ar arfordir gogledd-orllewin Cymru yw Porth Milgi. Y math o le sy’n hudo ymwelwyr haf. Ond rhyw ‘dwll din byd’ ydi o i rai o’r trigolion sy’n byw yno’n barhaol. Un o’r rhai sy’n ysu am ddianc o’r lle yw’r bachgen ysgol, Callum. Mae o wedi byw yno, ar stad Cae Gwyn, ar hyd ei oes efo’i fam a Carl ei frawd iau. Yr hyn sy’n gwneud bywyd yn oddefol iddo yw cwmni ei ffrindiau Bobo, Jac-Do a Saim Bach. Pan ddarganfyddir corff Branwen Williams, merch sydd wedi bod ar goll ers bron i ugain mlynedd, mae bywydau’r bechgyn, a phawb arall yn y gymuned, yn cael ei droi ben i waered. Ar hap, bron, mae’r bechgyn yn cael eu hunain yng nghanol yr helynt ac yn ymdrybaeddu mewn byd o lygredd, twyll a rhagrith. Mae yma enghreifftiau o gam drin merched ifanc, gwyrdroi cwrs cyfiawnder, hunanladdiad ac arestio ar gam. Buan y down i ddeall na ellir ymddiried yn y sawl sydd mewn awdurdod, boed blismon, athro neu weinidog yr efengyl. Mae’r cyfan yn gwneud i fân bechodau Callum (megis dwyn pres casgliad o’r capel) ymddangos yn hynod ddiniwed. Y pedwar bachgen (yn hytrach na’r heddlu) sydd yn datrys y dirgelwch yn y diwedd, a hynny mewn modd digon dyfeisgar. Ond fe ddatgelir llawer o wirioneddau anghyfforddus ac anghynnes am y gymdeithas cyn i hynny ddigwydd. Synhwyraf fod y wasg yn marchnata Hela fel nofel i oedolion, ac nid oes dim o’i le ar hynny. Ond fe gredaf fod yna ddadl gref iawn dros dargedu cynulleidfa iau, yn arbennig bechgyn yn eu harddegau (rhai nad ydynt dros y blynyddoedd wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn darllen llyfrau Cymraeg). Tybed ai’r nofel hon yw’r eithriad? Nid yn unig mae rhai o’r pynciau a drafodir yn ymwneud â bywydau pobl ifanc heddiw, ond mae cymeriadau fel Callum, Bobo, Jac-Do a Saim Bach yn siŵr o apelio atynt. Rhaid dweud bod yma stori wirioneddol afaelgar. Mae Aled Hughes eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun fel darlledwr. Fe fydd bellach yn ennill bri fel awdur hefyd.

View full details