Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu - Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere — Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu - Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere — Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yr astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri'r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau'r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Molière yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na chyfieithydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The first study of the translation work of Saunders Lewis, one of the giants of Welsh drama. His translations of the works of French playwrights Samuel Beckett and Molière reveal a new aspect of the writer, known mainly as a playwright, novelist and politician rather than a translator.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781786830944
Gwales Code
gwales.com.9781786830944
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Her a Hawl Cyfieithu Dramâu - Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere — Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière
Sub Title
Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière
Awdur / Author
Jewell, Rhianedd
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-07-11
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
250 pages
Size
138 × 216 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

Rhagymadrodd 1. Cyflwyniad 2. Datblygiad Cyfieithu Dramâu yng Nghymru 3. Saunders Lewis ac Ewrop 4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i'r Llwyfan 5. Cyfieithu'r Clasurol 6. Cyfieithu'r Abswrd 7. Casgliad

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell. Mae ei chefndir ym maes ieithoedd modern, ac mae hi’n darlithio mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

‘Cyn iddo arddel ei ffydd Gatholig neu ganfod ei lais fel gwleidydd a bardd a dramodydd, roedd Saunders Lewis eisoes yn gyfieithydd – a daliodd i drosi hyd at drothwy ei bedwar ugain oed. Dengys y gyfrol ddisglair hon pa mor ganolog oedd cydberthynas ieithoedd iddo – a pha mor allweddol y dylai hynny fod i’n dealltwriaeth ohono.’ - Dr T. Robin Chapman, Prifysgol Abersytwyth ‘Y mae Rhianedd Jewell wedi dwyn cyfieithiadau Saunders Lewis o ddramâu Molière a Beckett o gysgodion yr ymylon a’u gosod yn ddadlennol yn syth ar ganol theatr ei yrfa fel llenor ac fel deallusyn. Ar ôl trafod hanes cyfraniad pwysig cyfieithiadau ac addasiadau i ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a gwerthuso dyled drom Saunders i ddiwylliant Ffrainc, y mae’n ystyried holl oblygiadau cymhleth y grefft amwys o drosi cyn gorffen gyda dadansoddiadau trylwyr a threiddgar o Doctor ar Ei Waethaf ac Wrth Aros Godot. Dyma gyfrol arloesol sy’n chwyldroi ein hadnabyddiaeth o Saunders Lewis yr awdur.’ - Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe ‘Dyma astudiaeth dreiddgar o gyfieithiadau Saunders Lewis, sydd yr un pryd yn goleuo ei feddwl a’i waith yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, mae’n gyflwyniad difyr i astudiaethau cyfieithu – maes newydd yn y Gymraeg – a chyfraniad nodedig i hanes y ddrama yng Nghymru.’ - Ned Thomas

View full details