Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hi Oedd fy Ffrind

Hi Oedd fy Ffrind

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dilyniant hirddisgwyliedig i'r nofel 'Hi yw fy Ffrind' a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Ceir mwy o helyntion y ddwy ffrind Nia a Non yn y Brifysgol, ond wedi'r hwyl a'r meddwi colegol daw diweddglo ysgytwol. Adargraffiad.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The long-awaited sequel to 'Hi yw fy Ffrind', which was shortlisted for the 2005 Book of the Year Award. The two friends, Nia and Non are now at University, but after the fun and drink we reach a shocking conclusion. Reprint.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862439224
Gwales Code
gwales.com.9780862439224
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hi Oedd fy Ffrind
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-09-10
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
254 pages
Size
120 × 180 mm; depth 19 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Daw Bethan o Ryd-y-main, Meirionydd ychydig filltiroedd o fferm Gwanas lle y’i magwyd. Graddiodd mewn Ffrangeg yn Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi, yn cynnwys gweithio gyda’r VSO yn Nigeria. Mae ar hyn o bryd yn cyflwyno’r rhaglen ‘Ar y Lein’ ar S4C.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Bethan is from Rhyd-y-main, Meirionnydd a few miles from Gwanas farm where she was raised. She graduated in French in Aberystwyth before doing various jobs such as working with the VSO in Nigeria. She's currently presenting the programme 'Ar y Lein' on S4C.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Braf oedd cael fy nhywys drwy goridorau gwallgof fy nyddiau yn neuadd Pantycelyn wrth ddarllen y nofel hon. Portread real ydyw o hynt a helynt y dyddiau hynny, y meddwi, y bitsio, yr hangovers a’r chwerthin. Mae’r diffyg sôn am unrhyw beth academaidd hefyd yn arwyddocaol iawn. Fe gwrddwn eto â Nia a Non, dwy hen ffrind nofel flaenorol Bethan Gwanas, Hi yw fy ffrind . Fe gawn eu hanes, wrth i un fynd i’r coleg yn Aberystwyth gan adael y llall yn ôl gartref yng nghefn gwlad Meirionnydd. Gwelwn y berthynas yn chwalu’n llwyr o achos bradychiad dwfn wrth i’r nofel agor gyda Nia yn cael ei dal yn y gwely gyda chariad Non. Mae hyn yn rhoi diwedd sydyn i’w cyfeillgarwch. Ac felly fe welwn y ddwy yn ceisio ymdopi â’u bywydau newydd heb gefn a chymorth eu ‘chwaer gwaed’. Fe welwn yn ddiweddarach yn y nofel ailadeiladu perthynas wedi i dad Non farw, gan ddod â’r ddwy yn ôl at ei gilydd. Ymgartrefa Non i fywyd domestig gwraig fferm, wrth i Nia geisio ennill ei phlwyf wedi graddio fel actores yn y ddinas. Fe welwn y ddwy yn tyfu ac yn aeddfedu drwy’r stori. Lleisiau gonest y ddwy sy’n siarad yn y nofel, yn hollol agored am bob agwedd o’u bywydau. Nid angel mo’r un o'r ddwy, ac nid yw un ohonynt, o reidrwydd, yn gymeriad hoffus. Serch hynny, maent yn sicr yn gymeriadau y gall unrhyw ferch yn ei hugeiniau cynnar (neu unrhyw ferch a fu unwaith yn ei hugeiniau cynnar!), uniaethu â hwy. O’r herwydd, fe awn yn fodlon ar y siwrnai gyda hwy, hyd at ddiweddglo echrydus o annisgwyl. Llyfr o sex, booze a suicide yw hwn, ac mae’r ysgrifennu ffraeth yn gwneud ei ddarllen yn hollol hwylus a didrafferth. Chwa o awyr iach ydyw sydd yn sicr am apelio at y rheini ohonom sydd yng nghanol ffwlbri’r dyddiau hynny, yn ogystal â’r rheini sydd am ymgolli yn yr hiraeth am y dyddiau hynny a fu.

View full details