Cyngor Llyfrau Cymru
Hoff Gerddi Natur Cymru
Hoff Gerddi Natur Cymru
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Casgliad o ddewis pobol Cymru o'u hoff gerddi am fyd natur, yn cynnwys trawstoriad o dros gant o gerddi sy'n diddanu, yn codi gwên ac yn anesmwytho wrth adlewyrchu tlysni a chreulondeb natur.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An anthology of poems, nominated by members of the public, and inspired by the natural world. A cross-section of over 100 poems to entertain, raise a laugh and to discomfort the reader while reflecting the beauty and cruelty of nature.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848513600
- Gwales Code
- gwales.com.9781848513600
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Hoff Gerddi Natur Cymru
- Awdur / Author
- Gomer
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-10-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Editor
- Mair, Bethan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 124 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Natur IDRIS REYNOLDS 1 Mêl EMYR LEWIS 2 O LiliWen Fach TRADDODIADOL 3 Blodau’r Gwynt I. D. HOOSON 4 Eirlysiau WALDO 5 Eirlysiau CYNAN 6 Cenhinen GWYN THOMAS 7 Daffodil I. D. HOOSON 8 Clychau’r Gog R.WILLIAMS PARRY 9 Gwanwyn (Detholiad) DIC JONES 1o Rhyfeddodau’rWawr R.WILLIAMS PARRY 19 Difiau Dyrchafael SAUNDERS LEWIS 2o Mai 1972 SAUNDERS LEWIS 21 Haf Cynnar GWYN THOMAS 22 Y Llwynog R.WILLIAMS PARRY 23 Y Draenog GWENALLT 24 Carw DAFYDD AP GWILYM 25 Yn Mynd i’r Siew NANTLAIS 26 Tân yn y Dwr EINIR JONES 27 Ar lan y môr mae rhosys cochion TRADDODIADOL 28 Cocos EINIR JONES 29 Diwrnod Cneifio yn Enlli TWM MORYS 3o Y Ddawns GARETH ALBAN DAVIES 31 Y Ci Defaid THOMAS RICHARDS 33 Fy Ngwedd Geffylau Olaf ALUN CILIE 34 Brenin Gwalia JOHN RODERICK REES 35 Diwrnod Lladd Mochyn DONALD EVANS 36 Diofal yw’r Aderyn ANHYSBYS 38 Be Gefaist ti’n Fwyd? J. GLYN DAVIES 39 Tylluanod R.WILLIAMS PARRY 4o Cornicyllod DIC JONES 41 Hen Bennill ANHYSBYS 42 Hen Bennill ANHYSBYS 43 Gwanwyn T. ROWLAND HUGHES 44 70550_Hoffi_Gerddi_Natur:Layout 1 27/9/11 09:58 Page ix Y Bioden CERIWYN JONES 45 Marwnad yr Ehedydd TRADDODIADOL / CYNAN 46 Y Drudwy DAFYDD ROWLANDS 47 Y Drudwy R. E. JONES 48 Erithacus rubecula DAFYDD ROWLANDS 49 Gwenoliaid T. GWYNN JONES 5o Crëyr yn y Cae IWAN LLWYD 51 Y Fwyalchen T. LLEW JONES 52 Yr Eos GWILYM R.TILSLEY 53 Glas y Dorlan I. D. HOOSON 54 Glas y Dorlan RHYS DAFIS 56 Y Ceiliog HARRI GWYNN 57 Y Gwyddau R.WILLIAMS PARRY 58 Yr Hebog uwch Felindre ALAN LLWYD 59 Y Cudyll Coch I. D. HOOSON 61 Y Ceiliog Ffesant R.WILLIAMS PARRY 62 Deg o Elyrch Gwynion ROBIN LLWYD AB OWAIN 63 Gwyn y Gwêl y Frân ei Chyw GERAINT LO/VGREEN 64 Brain EUROS BOWEN 65 Nyth ROGER JONES 66 Byd yr Aderyn Bach WALDOWILLIAMS 67 Yr Adar Bach IWAN LLWYD 68 Alarch y Lleuad EINIR JONES 69 Swn T. LLEW JONES 7o Coed R. GERALLT JONES 71 Enwau WALDOWILLIAMS 72 Blodau’r Grug EIFIONWYN 73 Gwyddfid J.T. JONES 74 Cân GWYN ERFYL 75 Brawddegau wrth gofio Hiraethog T. GLYNNE DAVIES 76 Gwyn Fyd y Grifafolen ALUN LLYWELYN-WILLIAMS 77 Y Cynhaeaf DIC JONES 78 Medi ISFOEL 87 Hel Mwyar Duon GERWYNWILLIAMS 88 Gweld y Môr Gyntaf MENNA ELFYN 9o Gwyn ap Nudd ELFED 91 Lle BachTlws T. GWYNN JONES 92 Y Cwm TWM MORYS 93 Cwm Pennant EIFIONWYN 94 CwmAlltcafan T. LLEW JONES 95 Nant yr Eira IORWERTH C. PEATE 96 Aberdaron CYNAN 97 Hardd yw Conwy ANHYSBYS 98 Tair Afon T. HUGHES JONES 99 Llynnoedd J. R. JONES 100 Llynnoedd Eryri GWILYM COWLYD 101 Llyn y Gadair T. H. PARRY-WILLIAMS 102 Y Grib Goch T. ROWLAND HUGHES 103 Machlud yn Eryri IWAN LLWYD 104 Glaw yng Nghaerdydd NEST LLOYD 105 Yr Enfys EIFIONWYN 106 Gwynt HUW MEIRION EDWARDS 107 Datgymalu Cylymau Cymylau GWYNETH GLYN 108 Y Storm T. LLEW JONES 109 Dawns y Dail T. LLEW JONES 110 Henaint ANHYSBYS 111 Dysgub y Dail CRWYS 112 Mae’r Coed yn Marw RHYDWENWILLIAMS 113 Yr Eira ar y Coed CYNAN 114 Brigau’rTymhorau BRYAN MARTIN DAVIES 115 Arlunwyr Cwm Cil-faen MEIRION EVANS 116 Y Fedwen T. LLEW JONES 117 Dangosaf i ti Lendid DAFYDD ROWLANDS 118 Y Border Bach CRWYS 12o Deall TUDUR DYLAN JONES 122 Hawl MYRDDIN AP DAFYDD 123 Yr Hen Lwybrau W. RHYS NICHOLAS 124
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Hoff Gerddi Cymru, yn Naturiol Mae cyfrol newydd sbon o gant o Hoff Gerddi Natur Cymru wedi cyrraedd silffoedd y siopau ac yn cynnwys cerddi hen a newydd, cerddi ysgafn a difrifol, yn englynion, sonedau, limrigau ac awdlau, ond i gyd yn dathlu ac yn ymateb i ryfeddod natur o’n cwmpas. Mae yma gerddi gan feirdd o bob cwr o Gymru. Hon yw’r chweched gyfrol o gasgliad Hoff Gerddi Cymru, sydd wedi’i olygu gan Bethan Mair, sydd erbyn hyn yn byw yn Rhydaman ac a fagwyd ym Mhontarddulais, ble yr ymdrochwyd hi mewn barddoniaeth. Meddai Bethan Mair, “Roedd mam yn canu llawer o gerdd dant ac roedd y cerddi oedd ganddi ar ei chof yn ‘llyfrgellaidd’. Roedd gan Taid hefyd gof eithriadol ac yn gallu dyfynnu awdlau cyfan ar ôl eu darllen unwaith. Roedd gan Taid nifer fawr o lyfrau barddoniaeth hefyd ac roeddwn i’n dwli pori drwyddyn nhw. Roedd gan fy mhrifathro yn Ysgol Gynradd Bryniago hefyd ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth. “Dw i yn wastad wedi bod yn sylwgar o’r byd natur o’m cwmpas ac yn un o’r bobl hynny sy’n adnabod enwau’r blodau a’r coed, felly roedd yn fodd i fyw i mi i hel y casgliad hwn at ei gilydd.” Ond nid ar ei phen ei hun yr aeth Bethan Mair ati i ddethol a dewis cerddi’r gyfrol. Yn ystod y gwanwyn trefnwyd ymgyrch i gael y cyhoedd i enwebu eu hoff gerddi a chafwyd ymateb wrth bobl o bob cwr o’r wlad. Meddai Bethan Mair, “Roedd yn amlwg wrth yr ymateb pa rai yw’r cerddi mwyaf poblogaidd – Y Llwynog, R. Williams Parry a Daffodil, I.D.Hooson i enwi ond dau. Ond cefais ambell i enwebiad annisgwyl, un o’r rhain oedd Gwyddfid gan J. T. Jones. Doeddwn i erioed wedi clywed am y gerdd ond ar ôl ei ddarllen a dwli arni, yn wir mae’r englyn wedi’i gynnwys yn y gyfrol.” Er mai cerddi am adar ac anifeiliaid, blodau a choed, moreodd a thymhorau a geir yma, maent hefyd yn ymwneud ag ymateb pobl i’r byd o’n cwmpas. Ni ellir osgoi mai dehongliad beirdd o natur a rhyfeddod y cread yw cynnwys y gyfrol. Daeth gwaith llawer o hoelion wyth barddoniaeth Gymraeg o bob cwr o Gymru i’r brig gan gynnwys Waldo, Dic Jones, R. Williams Parry, Gwyneth Glyn, T. Llew Jones, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd. Mae yma hefyd gerddi gan feirdd llai adnabyddus, ond sydd â’r cerddi unigol wedi gafael. Mae’r rhan fwyaf o gerddi’r gyfrol hon yn perthyn i’r ugeinfed ganrif, er bod yr hynaf yn dyddio nôl dros fil o flynyddoedd a’r diweddaraf wedi’i chreu o fewn y flwyddyn ddiwethaf. Mae yma hefyd gerddi traddodiadol fel Ar lan y môr mae rhosys cochion ac O Lili Wen Fach. Meddai Bethan Mair, “Rhyfedd mor ddigyfnewid yw ymateb y beirdd i’r byd o’n cwmpas ar hyd y canrifoedd hynny. Ac eto, ai rhyfedd mewn gwirionedd? Yr un peth sefydlog am fyd natur yw ei hirhoedledd. Bu yma bob math o goed, blodau a chreaduriaid ar y blaned, heb sôn am fynyddoedd, afonydd a moroedd am filiynau o flynyddoedd cyn bod yr un sôn am homo sapiens. Byd natur yw’r trosiad mwyaf uniongyrchol sydd gennym am ein marwoldeb ni ein hunain.” Hyd yn oed i’r rhai hynny ohonom nad ydynt yn ystyried ein hunain yn ‘naturiaethwyr’ o hanfod, mae’r gyfrol hefyd am bobl - y pethau sy’n ein cyfareddu a’r pethau sy’n ein tristhau, ein gallu i synnu ac i werthfawrogi a’n gallu i gymryd un delwedd a phrofiad a’i ategu at sefyllfaoedd eraill. Meddai Bethan Mair, “Enghraifft dda o hyn yw’r gerdd Y Bioden gan Ceri Wyn Jones ble mae’r bardd, mewn deialog, yn tynnu ein sylw at liwiau plu’r bioden, maent yn fwy na mond du a gwyn, maent yn liwiau glas, piws a gwyrdd prydferth ond mynn yr atebydd yn y diwedd, er ei gyflyrru’n wahanol, mai du a gwyn yw’r lliwiau. Mewn cerdd fel hon, sydd ar yr wyneb yn syml ac am fyd natur, mae Ceri Wyn Jones yn codi sawl pwynt amdanom ni fel pobol.” Mae rhai cerddi yn canu clodydd i natur ac yn haeddu eu lle oherwydd yr orchest honno yn unig, tra bod nifer fawr yn cyfleu ystyr ehangach ac yn cynnig haenen ychwanegol i ni fyfyrio yn ei gylch. Ers y flwyddyn 2000 mae Gwasg Gomer wedi bod yn cyhoeddi Hoff Gerddi Cymru ac mae’r casgliad erbyn hyn yn cynnwys Hoff Gerddi Cymru (2000), Hoff Gerddi Serch Cymru (2002), Hoff Gerddi Nadolig Cymru (2004), Hoff Gerddi Digri Cymru (2006), Mwy o Hoff Gerddi Cymru (2010) ac wrth gwrs Hoff Gerddi Natur Cymru (2011). Meddai Bethan Mair: “Mae’r casgliad hwn o gyfrolau yn dangos cynifer o gerddi poblogaidd a chofiadwy sy gennym yn y Gymraeg ac mae eu gosod mewn cyfrolau fel hyn yn sicrhau eu bod yn hawdd i ni fel darllenwyr fynd atynt. Mi gefais i’r syniad yn wreiddiol pan sylweddolais nad oedd gennym ni yng Nghymru y fath gasgliad er ein bod yn wlad sydd dan ei sang o feirdd. Mae’r Eisteddfodau a’r talyrnau’n para’n boblogaidd gyda’r safonau heddiw mor uchel ag erioed.”
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Favourite Welsh Poems, Naturally A new collection of a 100 Welsh language nature poems in a volume entitled Hoff Gerddi Natur Cymru (Favourite Welsh Nature Poems) has just been published, celebrating the wonderful world of nature, by poets from all corners of Wales. This is the sixth volume in a series of favourite Welsh poems edited by Bethan Mair who now lives in Ammanford and who was born and raised in Pontarddulais where she was immersed in poetry. Bethan Mair said, “My mother sang a lot of ‘cerdd dant’ and the poems she had memorised were ‘librarish’. My grandfather also had an exceptional memory and could recite long odes after just one reading. He had a great number of poetry books and I would love to browse through them. My headteacher at Bryniago Primary School also had a great interest in poetry. “I have always been conscious of the world of nature around me and I am one of those people who know the names of flowers and trees. It was a delight for me therefore to compile this collection.” But Bethan Mair did not do all the collecting and selecting on her own. A campaign was organised during the spring to encourage members of the public to nominate their choices, and a response was received from all parts of the country. Bethan Mair said, “It was obvious from the response which poems were the most popular – Y Llwynog (The Fox), by R. Williams Parry and Daffodil by I. D. Hooson to name only two. But I received a few unusual nominations, one of which was a poem entitled Gwyddfid (Honeysuckle) by J. T. Jones. I had never seen the poem previously but I became quite enamoured after just the first reading, and indeed the four lined poem – an englyn – has been included in the volume.” Though the chosen poems are about birds and animals, flowers and trees, the sea and the seasons, they also reflect people’s response to the world around us. The volume contains the poets’ own interpretation of nature and the wonder of creation. Poems by many of the leading Welsh language poets from all parts of Wales were chosen such as Waldo, Dic Jones, R. Williams Parry, Gwyneth Glyn, T. Llew Jones, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Twm Morys and Myrddin ap Dafydd. Included as well are poems by lesser-known poets whose individual poems have created an impression. Most of the poems in this volume were written in the 20th century though the oldest dates back over a thousand years and the latest was written within the last year. Included as well are traditional poems such as Ar lan y môr mae rhosys cochion and O Lili Wen Fach. Bethan Mair said, “It is strange how little the response of the poets to the world around us has changed through the centuries. Then again, is really that strange? The one stable factor about nature is its longevity. The same types of trees, flowers and animals have existed on the planet for millions of years just as the mountains, rivers and oceans were here long before the emergence of homo sapiens. The world of nature is the most direct metaphor we have of our own mortality.” Even for those of us who do not consider ourselves to be ‘naturalists’, the volume is also about people – the things that enthral us and other matters that sadden us, and at the same time our ability to wonder and appreciate, plus our ability to take one image and experience to be attributed to other circumstances. Bethan Mair said, “A good example of such a poem is Y Bioden (The Magpie) by Ceri Wyn Jones where the poet, through dialogue, draws our attention to the colour of the magpie’s feathers, they are more than just black and white, they are various shades of blue, puce and beautiful greens but the respondent finally insists, though he has been told differently, that the colours are just black and white. In such a poem, that appears on the outset to be simply about the world of nature, Ceri Wyn Jones raises several notions about us as people.” Some poems sing the praises of nature and deserve to be included on that criteria alone while many others convey a wider meaning and offer us an added layer of contemplation. Since 2000 Gomer Press has published several volumes in the series Hoff Gerddi Cymru – Favourite Welsh Poems – which includes Hoff Gerddi Cymru (2000), Hoff Gerddi Serch Cymru (2002) - Favourite Welsh Love Poems, Hoff Gerddi Nadolig Cymru (2004) - Favourite Welsh Christmas Poems, Hoff Gerddi Digri Cymru (2006) – Favourite Welsh Humourous Poems, Mwy o Hoff Gerddi Cymru (2010) – More Favourite Welsh Poems, and of course Hoff Gerddi Natur Cymru (2011). Bethan Mair said: “This collection of volumes showcases the vast number of popular and memorable poems we have in Welsh, and by publishing them in such volumes as these it will be easy for us as readers to access them. The original idea came to me when I realised we did not have such a collection in Wales though we are a country almost overrun by poets. The Eisteddfodau and competitive contests remain popular and the standard remains as high as ever.”
Share
