Cyngor Llyfrau Cymru
Hoff Gerddi Serch Cymru
Hoff Gerddi Serch Cymru
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Casgliad amrywiol o hoff gerddi serch y Cymry, yn cynnwys 73 o gerddi yn y mesurau caeth a rhydd yn rhychwantu wyth canrif, o'r 13eg ganrif hyd ddiwedd yr 20fed ganrif. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Mai 2002.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A diverse collection of the best-loved Welsh love poems, comprising 73 poems in free and strict metre encompassing a period from the 13th to the end of the 20th century. Reprint. First published in May 2002.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781843230144
- Gwales Code
- gwales.com.9781843230144
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Hoff Gerddi Serch Cymru
- Awdur / Author
- Gomer
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-01-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Editor
- Mair, Bethan
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 100 pages
- Size
- 140 × 215 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)
- DEWEY code
- National Library of Wales Dewey Code
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ydi, mae Robin yn swil, fel y cawn ein hatgoffa gan gerdd Talhaiarn yn y gyfrol hon, ond beth am ei gyd-Gymry? O'i chymharu âi rhagflaenydd, Hoff Gerddi Cymru Gwerthwr gorau barddoniaeth Gymraeg yn ôl y blyrb methwyd â threfnu cynnwys y flodeugerdd hon yn nhrefn ffafriaeth gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniodd sawl cerdd; y golygydd ei hun, Bethan Mair, a ddewisodd ambell un arall. A hynny yn nyddiau Tabŵ a Procar Poeth pan fo Cymry, hen ac ifanc, yn fodlon brolio ac arddangos eu campau rhywiol gerbron y genedl! Pwy felly yw Casanovar beirdd, ar sail tystiolaeth Hoff Gerddi Serch Cymru ? Wel, ac yntaun awdur pedair o blith y 73 o gerddi rhwng cloriaur gyfrol hon, Dafydd ap Gwilym syn hawlior llysenw hwnnw. Ei gywydd llatai ysblennydd ir wylan ynghyd â Rhieingerdd, telyneg John Morris-Jones, a Lleucu Llwyd, cân bop Dewi Pws, ywr teitlau a enwyd amlaf gan y rhai a enwebodd gerddi ar gyfer y llyfr. Maen gasgliad eclectig, felly: saif Fy Newis Riain Firain Deg gan Hywel ab Owain Gwynedd or drydedd ganrif ar ddeg gyferbyn â Ceidwad y Goleudy Emyr Huws Jones or ugeinfed ganrif; daw Myfanwy Fictoraidd o flaen dyfyniad o araith Llywelyn i Siwan o ddrama glasurol Saunders Lewis. Rhan or hwyl gyda blodeugerdd fel hon yw gweld i ba raddau y mae dyn yn cyd-fynd âr dewis a pha gerddi y byddai ef ei hun wediu cynnwys. Un on prif feirdd serch na chynrychiolir mohono fan hyn, a hynny am mai ysbrydol rhagor cnawdol ywr serch y maen canu amdano, yw William Williams, Pantycelyn: Rwyn edrych dros y bryniau pell / Amdanat bob yr awr; / Tyrd, fy Anwylyd, maen hwyrhau, / Am haul bron mynd i lawr ... Ond gan fod rhan o ddrama fydryddol arall ganddo wedii dyfynnu, mi fyddwn i wedi neilltuo cryn dipyn o ofod ar gyfer drama fwyaf nwydus yr iaith, sef Blodeuwedd Saunders Lewis: araith glo Blodeuwedd ar ddiwedd yr act gyntaf, er enghraifft, ei haraith yn yr ail act (Maen cyrff ni yn ddihysbydd...) a geiriau Llew Llaw Gyffes, Di ferch y blodau ... yn yr un act. Cerddi eraill y byddwn i wedi sicrhau lle ar eu cyfer drwy fodloni ar ddetholiad yn unig o awdl Robin Llwyd ab Owain, dyweder, yn hytrach nai chynnwys yn ei chyfanrwydd fyddai Concwest a Saesnes Siôn Eirian or dilyniant a enillodd iddo Goron 1978 ac un or cerddi serch salmaidd a enillodd i Meirion Evans y Goron y flwyddyn ganlynol; Telyneg Elin ap Hywel yn Pethau Brau ; o leiaf un o englynion T. Arfon Williams iw briod; a Llygad fy Nghariad Bobi Jones (Brown yw dolygon megis ffos ar agor ...) a fyddai wedi gwrthgyferbynnu â serch delfrydoledig Rhieingerdd Morris-Jones (Dau lygad disglair fel dwy em ...). Ond waeth heb â chodi pais: onid oedd gwahoddiad i minnau enwebu cerddi petawn i am ddal ar y cyfle? A chalon fawr goch yn sws glec ar ganol ei chlawr, gwnâir gyfrol anrheg pen-blwydd iawn ar gyfer cariad. Nid llyfr bwrdd coffi mohono llyfr erchwyn gwely, efallai ...
Share
