Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hufen Afiach

Hufen Afiach

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Ymunwch â Sali Seimllyd, Seimon Smwt, Poli Peswch Pen Ôl a Wili Silibili wrth iddyn nhw geisio achub trigolion Cwm Cwstard rhag y cawr, Beli Bola Mawr!

Disgrifiad Saesneg / English Description

An imaginative novel full of wit and humour about four wonderful characters who form a powerful group to save the inhabitants of their community!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912261574
Gwales Code
gwales.com.9781912261574
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hufen Afiach
Awdur / Author
Sion, Meilyr
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-03-06
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Darlunydd / Illustrator
Aaron, Huw
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
104 pages
Size
207 × 130 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma i chi stori ffantasi gampus yng nghwmni Beli Bola mawr y cawr ffyrnig, Poli Pesychu Pen-ol, Seimon Smwts, Sali Seimllyd a Wili Silibili! Wel, dwi wedi chwerthin llond fy mol am yr enwau cofiadwy a gwreiddiol yma ar y cymeriadau anturus. Dyma nofel ddychmygus sy’n llawn hwyl a hiwmor am bedwar cymeriad gwych. Mae Meilyr Siôn yn dangos ei ddawn arbennig wrth ddisgrifio’r pedwarawd pwerus, sef Sali Seimllyd sydd â gwallt hir sy’n gadael trywydd seimllyd ar ei hôl, Wili Silibili sydd yn enwog drwy’r fro am adrodd straeon, Poli sy’n dioddef o besychiad pen-ôl pan fydd yn teimlo’n nerfus neu'n gyffrous, a Seimon Smwts sy’n rhy brysur yn pigo’i drwyn! Mae’r lluniau du a gwyn gan Huw Aron yn ddoniol ac yn fywiog i’r darllenwyr. Bydd y clawr melyn yn denu sylw’r darllenwyr a'u croesawu i Gwm Cwstard i gyfarfod â’r cawr ffiaidd Beli Bola Mawr. Cawn gymeriaethau gwych ac mae’r awdur yn defnyddio iaith loyw. Er enghraifft, ‘bloeddiodd yn orfoleddus wrth ddawnsio yn yr unfan’. Mae digonedd o hiwmor a chawn ambell jôc ddoniol hefyd! Yn eu tro mae’r Pedwarawd Pwerus yn ceisio dianc rhag Beli Bola Mawr. Gyda chymorth y gwylanod, Barbra, Bob a Beti mae’r pedwarawd pwerus yn ceisio wynebu'r cawr ffiaidd. Ond bywydau pwy fydd yn gweddnewid yn llwyr? Darllenwch y llyfr i ddarganfod yr ateb! Rydw i’n argymell y llyfr yma i blant rhwng 8 ac 11 oed, neu unrhyw un sydd eisiau mynd i Gwm Cwstard i flasu hufen iâ blas bacwn a mefus! Dyma i chi lyfr gwych fel anrheg i fachgen neu ferch sydd yn hoffi straeon llawn hiwmor a chymeriadau gwahanol hollol unigryw. Mwynhewch!

View full details