Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hunanbortread David Griffiths

Hunanbortread David Griffiths

Regular price £9.50 GBP
Regular price Sale price £9.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Bomiau Hitler a yrrodd teulu'r David Griffiths ifanc o lannau Merswy i fyw ym Mhwllheli. Hynny, meddai, yn yr hunangofiant hynod a darllenadwy hwn, a'i gwnaeth yn arlunydd wrth iddo dderbyn arweiniad gan Elis Gwyn, ei athro yn yr Ysgol Ramadeg.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The autobiography of the portrait artist David Griffiths, who was inspired to paint under the tutelage of his school art teacher, Elis Gwyn, after moving to Pwllheli to escape Hitler's bombs on the banks of the Mersey.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845278359
Gwales Code
gwales.com.9781845278359
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hunanbortread David Griffiths
Awdur / Author
Griffiths, David
Current Price ex VAT
£9.50
Current Price inc VAT
£9.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-09-17
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Editor
Davies, Arfon Haines
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
164 pages
Size
138 × 215 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Treuliodd bedair blynedd yn Ysgol Gelf y Slade yn Llundain ac wedi cyfnod fel athro celf, agorodd oriel ym Mhwllheli yn 1964. Y flwyddyn ganlynol, roedd ganddo ran allweddol yn sefydlu oriel yr Albany yng Nghaerdydd. Yn fuan wedi hynny, gwireddwyd ei freuddwyd i fod yn artist amser llawn. Yn ystod ei yrfa, peintiodd bortreadau o rai o wynebau enwocaf Cymru gan gynnwys Gwynfor Evans, Rhodri Morgan, Dafydd Wigley, Cynan, Syr Geraint Evans, Syr Bryn Terfel, Shane Williams, Barry John, Siân Phillips ac yn fwyaf diweddar Elin Jones, Llywydd y Senedd. Mae’n ddiddorol hefyd clywed ei atgofion am nifer o artistiaid eraill y cyfnod gan gynnwys Kyffin Williams, Ceri Richards, Donald McIntyre, Josef Herman, Charles Wyatt Warren a Wil Roberts. Un o’i gomisiynau cyntaf oedd portreadu Cynan. Cawn gip ar y bersonoliaeth a’r bywyd teuluol yr ochr draw i ganfas yr arlunydd gan David Griffiths ac mae’i atgofion am Cynan yn nodweddiadol o hynny: ‘Cefais groeso gwresog gan Cynan a Mrs Jones cyn iddi esgusodi ei hun i fynd i baratoi cinio. Gofynnodd Cynan i mi os oeddwn yn ffansïo diod gan agor cabinet coctel gyda dewis cynhwysfawr o ddiodydd. Teimlais ei bod hi’n well gwrthod rhag iddo gael y syniad anghywir am artist ifanc a oedd yn mynd i’w ddarlunio. Treuliais ychydig amser yn braslunio ac yn tynnu lluniau gyda fy nghamera. Y peth nesaf a wyddwn oedd bod Mrs Jones yn rhedeg i mewn i’r stafell yn hynod o ypsét. ”Dwi wedi llosgi’r cinio!” meddai. “Y pryd cyntaf i mi baratoi iddo ... dwi wedi llosgi cinio Cynan!” Teimlais ei bod hi’n amser i mi wneud fy esgusodion a gadael!’

View full details