Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hunllef o Anrheg

Hunllef o Anrheg

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Aled yn poeni lot ac, iddo fo, mae dechrau mewn ysgol newydd mewn ardal anghyfarwydd yn codi ofn mawr arno! Hynny yw nes i'r Bwbach roi anrheg annisgwyl iddo: Bwci Bo! A Chalan Gaeaf yn nesáu'n gyflym, mae Aled yn dysgu y gall ddarganfod ffrindiau yn y llefydd mwyaf rhyfedd, ei fod yn ddewr, a beth yn union sy'n digwydd i blant drwg!

Disgrifiad Saesneg / English Description

Aled worries a lot and, for him, starting at a new school in an unfamiliar place is terrifying! That is until a mischievous Bwbach presents him with an unlikely gift: a Bwci Bo! With Halloween fast approaching, Aled soon learns that friends can be found in the strangest of places, just how brave he can be, and exactly what happens to naughty children!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785623165
Gwales Code
gwales.com.9781785623165
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hunllef o Anrheg
Awdur / Author
Howells, Graham
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-10-22
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Translator
Gwanas, Bethan
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
127 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae teitl a chlawr y gyfrol hon yn ein harwain yn syth at yr hyn sydd dan sylw – cymysgedd o dda a drwg yr hunllef a’r anrheg, gyda dyrnaid go dda o ymweliadau gan greaduriaid syfrdanol! Cawn ein cyflwyno yn y lle cyntaf i fachgen digon cyffredin, a diwrnod pwysig iddo, sef ei ddiwrnod cyntaf mewn ysgol newydd lle nad yw’n adnabod unrhyw un. Mae’n Ddiwrnod Calan Gaeaf, ac wrth gyrraedd drysau’r ysgol ar ei ben ei hun, mae Aled yn gwneud dymuniad i’r ysgol fod yn garedig ag ef, ac iddo beidio bod ag ofn. Sylwa Miss Ceridwen ar siom Aled gyda’r dasg gyntaf, sef ysgrifennu stori ar thema Calan Gaeaf, ac mae’n cwestiynu ei agwedd. Heb feddwl, mae Aled yn dweud wrthi fod ysgrifennu am bethau nad ydynt yn wir yn wastraff amser. Mewn ymateb i’r farn hon, mae Miss Ceridwen yn ei anfon i’r storfa yng nghefn yr ystafell ddosbarth gydag amlen wedi’i selio â chwyr. Yn sydyn iawn, darganfydda’r bachgen ei hun mewn awyrgylch anghyfarwydd gyda Bwbach yn rhythu arno! Cyn i Aled gael cyfle i ddianc o’r hunllef arswydus, ymddangosa creadur rhyfedd gyda llygaid melyn, milain o nunlle, cyn newid ei edrychiad yn chwim o gorryn anferthol i fop, yna broga, a llwy ... ac yn ola, draig fach flewog. Ydy – mae Aled wedi glanio mewn byd o hud a lledrith. Ymhen dim, mae’n cwrdd â’r ci hyllaf a bleraf erioed (un gyda llygaid melyn, milain hefyd); bryn sy’n tyfu ac yn gallu siarad; gwrach; Ladi Wen a chŵn sy’n hofran; yna hanner ceffyl, hanner draig sy’n tynnu cerbyd rhyfel; a merch heb ben mewn dillad hynafol ar gefn hwch fawr ddigynffon! Does dim stop ar y rhyfeddodau y mae Aled yn eu hwynebu ar ei antur fyrhoedlog y Dydd Calan Gaeaf hwnnw. Tybed ydy e dal yn ofni unrhyw beth? A beth am ei gred am bethau sydd ‘ddim yn wir’? Os mai antur hud a lledrith gydag elfen o arswyd a hunllef sy’n mynd â’ch bryd chi, yna mae’r stori hon ar eich cyfer! Drwyddi draw, ceir darluniau lliwgar a phwerus sy’n atgyfnerthu’r stori ac yn gymorth i’r dychymyg. Mae’r stori wedi’i hadrodd mewn arddull gyflym sy’n annog y darllenydd i ddarllen y gyfrol mewn un eisteddiad gan nad oes penodau. Mae’r arddull hefyd yn llawn ansoddeiriau a disgrifiadau diddorol, gyda sawl brawddeg neu gymal yn onomatopeig neu’n odli, gan gyfoethogi’r dweud, megis ‘wedi dychryn yn rhacs ac yn crynu a chlecian’ ac ‘ymgryma a chryna’. Mae’r awdur hefyd wedi cynnwys cwpwl o dudalennau yn y cefn sy’n rhoi ychydig o wybodaeth gefndirol am y mathau gwahanol o gymeriadau a chreaduriaid yn y gyfrol, rhai sydd â’u gwreiddiau yn llenyddiaeth Cymru o’r oesoedd a fu, gan sicrhau bod y stori hon yn ychwanegu at ein casgliad Cymreig cyfoethog o straeon mytholegol, cyfoethog.

View full details