Cyngor Llyfrau Cymru
Ifor Bach
Ifor Bach
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Bu gaeaf 1158 yn arw ym mhob ystyr. A'r eira'n drwch, mae'r gwalch glas yn chwilio am fwyd, ac mae dyfodol llys Gelli-gaer yn beryglus o fregus. A fydd Ifor yn llwyddo i amddiffyn ei gastell, ei bobl a'i deulu rhag y gelyn? A phwy yn union yw'r gelyn? Nofel am frad, am fygythiad ac am gwlwm teulu, sy'n ein hatgoffa bod y gwir i'w ganfod, yn aml, yn y mannau mwyaf annisgwyl.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Winter 1158 was harsh in every meaning of the word. With snow falling heavily, the peregrine falcon searching for food, and the future of Gelli-gaer Court hanging by a thread. Will Ifor be able to protect his castle, his people and his family from their enemies? A novel of betrayal, of threat and of family ties, which reminds us that the truth is often found in unexpected places.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848519879
- Gwales Code
- gwales.com.9781848519879
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Ifor Bach
- Awdur / Author
- Salisbury, Eurig
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-08-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Jones, Jac
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 228 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Nofel gyffrous am ffigwr hanesyddol, Ifor ap Meurig, arglwydd Senghennydd (gŵr byr iawn a dewr iawn, yn ôl yr hanes) yw Ifor Bach gan Eurig Salisbury. Er bod y nofel yn seiliedig ar y briwsion o hanes a geir am y gŵr hwn yng nghronicl Brut y Tywysogion, sef hanes Cymru rhwng 682 ac 1282, a chofnod Gerallt Gymro, ffrwyth dychymyg byw yr awdur yw’r rhan fwyaf o’r stori. Fe’n tywysir ganddo i Gymru gythryblus y 12fed ganrif – cyfnod o frwydro gwyllt a gwaedlyd rhwng y Cymry a’r Normaniaid. Heb ddatgelu gormod, cawn yn y nofel hon hanes Ifor yn adennill mawredd Senghennydd. I’r sawl sydd, fel fi, yn anobeithiol am gofio enwau, mae’r awdur wedi darparu coeden achau ar ddechrau’r gyfrol sy’n dweud pwy sy’n perthyn i bwy. Yn ogystal, ceir gwybodaeth gyd-destunol hynod ddefnyddiol yng nghefn y gyfrol – gwybodaeth am Ifor Bach a’r cyfnod – sy’n cyfoethogi’r profiad darllen. Llwydda Eurig Salisbury i ddod â’r cyfnod yn fyw i’r darllenydd â’i bortreadau lliwgar a chrwn o ffigyrau hanesyddol. Er mai Ifor Bach yw arwr amlwg y stori, mae’r awdur yn rhoi llais i Nest, gwraig Ifor, a’i ferch, Gwenllïan, dau gymeriad benywaidd cryf ac arwresau urddasol sy’n herio syniadau’r batriarchaeth am safle cymdeithasol y ferch. Hawdd iawn yw ymgolli yn nisgrifiadau bywiog yr awdur o olygfeydd megis y wledd yng Ngelli-gaer, sef gwledd arbennig i ddewis pencerdd i lys Senghennydd. Cefais fy hun yn gwirioni ar enwau’r beirdd – Iocyn ap Tegeryn Foethus, Llosgwrn Llew a Pyll Hyll, er enghraifft – a’r disgrifiadau ohonynt yn cystadlu am y fraint o gael eu dyrchafu’n bencerdd. Er mor ddieithr, dirgel a phell mewn hanes yw Cymru’r 12fed ganrif i’r darllenydd, mae disgrifiadau’r awdur o’r beirdd yn canu mawl ac yn dychanu ei gilydd yn rhwym o’n hatgoffa o ddigwyddiadau barddol cyfoes fel Bragdy’r Beirdd. Disgrifir Ifor Bach fel nofel i blant a phobl ifanc, ond hyderaf y bydd pawb o bob oedran yn ei mwynhau. Drwy stori antur gyffrous, dysgais lawer am berthynas y Cymry a’r Normaniaid, y traddodiad barddol, y gymdeithas a’r drefn wleidyddol yng Nghymru’r 12fed ganrif ac, wrth gwrs, am Ifor Bach ei hun. Er mawr cywilydd imi, doeddwn i ddim yn gyfarwydd â hanes y gŵr hwn cyn darllen y nofel, ac er astudio yng Nghaerdydd am dair blynedd, ni roddais fawr o ystyriaeth i’r Ifor a roddodd ei enw i’r clwb nos adnabyddus ar Stryd Womanby. Y tro nesaf, felly, y clywaf myfyrwyr y ddinas yn galw Clwb Ifor Bach yn ‘Welsh Club’, byddaf yn cael fy nhemtio i adrodd hanes epig Ifor ap Meurig wrthynt!
Share
