Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Kyffin dan Sylw / Kyffin in View

Kyffin dan Sylw / Kyffin in View

Regular price £12.99 GBP
Regular price Sale price £12.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o uchafbwyntiau o gyfres darlithoedd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams. Dwyieithog. 16 o ddelweddau lliw o waith yr arlunydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of highlights from the Kyffin Williams Trust lecture series. Bilingual. 16 colour images of the artist's work.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781785622663
Gwales Code
gwales.com.9781785622663
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Kyffin dan Sylw / Kyffin in View
Awdur / Author
Gomer
Current Price ex VAT
£12.99
Current Price inc VAT
£12.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-05-16
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Editor
Meredith, David
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
200 pages
Language Code
English
Categori / Category
CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Saesneg) | EN: Essays and Talks (in English)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ysgrifau (yn Saesneg) | EN: Essays (in English)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

John Kyffin Williams is probably the most pre-eminent, prolific and commercially successful landscape and portrait painter in the history of Wales, one who produced an extraordinary output of art work for more than sixty years. After the artist's death in 2006, the Sir Kyffin Williams Trust was formed in order to perpetuate his good name and to establish a gallery in his native county of Anglesey, a trust which three years later established an annual lecture, alternating between English and Welsh, to perpetuate his memory, each to be delivered by an acknowledged authority in his chosen field. This attractive volume from Gwasg Gomer publishes for the first time, to mark the centenary of Kyffin's birth in 1918, nine of these lectures, five in English and four in Welsh, all related in some way to the artist's life and work and delivered at Oriel Môn between 2009 and 2018. The volume has been meticulously edited by David Meredith, the present chairman of the Kyffin Williams Trust and one of the artist's closest friends and the author of several works about him. Of particular interest here, too, is a brief, well-crafted bilingual biography of Kyffin Williams which packs a great deal of fascinating information into a small space, and a good selection of some of his most attractive and well-known works. By far the most substantial contribution to this volume is a discussion of Kyffin's prolific portrait work by art historian Peter Lord who examines the key influences on his output and considers some of the finest examples of Kyffin's portrait work over the years. He concludes that, in spite of exhaustive research work, Kyffin the man remained a baffling total enigma to him. There is much else of great interest here too. Luned Roberts de González devotes her attention to the artist’s links with Y Wladfa, where he painted a large number of portraits, mainly during a four-month long vacation in South America in 1968–69. And two former Archbishops of Wales have impressive contributions here too. Dr Barry Morgan writes of Kyffin's close association with the equally enigmatic R. S. Thomas, while Dr Rowan Williams considers the spiritual aspects and dimensions of Kyffin's output. The volume's editor writes about Kyffin's close association with the city of Venice which he visited on innumerable occasions between 1950 and 2004, focussing on his work as an art historian who possessed a formidable knowledge of the artists and the architecture of the city. Jan Morris also considers Kyffin's links with Venice, London and other cities, focussing particularly on a landscape which he painted during his last ever visit to Venice in 2004. Historian Professor Prys Morgan examines Kyffin's role as the guardian of the heritage of Snowdonia, and Professor Tony Jones, writing from his Chicago base, evaluates the influences upon an oil painting called Tanygrisiau which he created around 1958 with a mixture of brush and palette knife and which adorned the art room of Quakers Yard Grammar School in Treharris. And R. S. Thomas surfaces once again in the last contribution to this volume penned by Professor M. Wynn Thomas who considers Thomas's Too Brave to Dream , which is described here as a collection of 'painting poems' much influenced by the poet's close association with the artist. From cover to cover, these essays are an absorbing read and constitute a worthy memorial to the extraordinary life and work of Kyffin Williams. Mae'n debyg mai John Kyffin Williams yw'r amlycaf, y mwyaf cynhyrchiol a'r mwyaf llwyddiannus o safbwynt masnachol o’r holl artistiaid a fu yn hanes y genedl Gymreig erioed, un a fu'n gyfrifol am greu gweithiau celf am dros chwe deg o flynyddoedd. Ac yn dilyn marwolaeth yr artist yn 2006, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams i goffáu ei enw da ac i sefydlu oriel gelf o fewn ei sir enedigol, sef Sir Fôn, ymddiriedolaeth a aeth ati dair blynedd yn ddiweddarach i gynnal darlith flynyddol, yn Saesneg a Chymraeg bob yn ail flwyddyn, gyda phob darlith i'w thraddodi gan awdurdod cydnabyddedig yn ei faes. Mae'r gyfrol hardd hon gan Wasg Gomer yn cyhoeddi am y tro cyntaf testun naw o'r darlithiau hyn, pump ohonynt yn Saesneg a phedwar yn yr iaith Gymraeg, pob un â rhyw gysylltiad â Kyffin ac wedi eu traddodi yn Oriel Môn rhwng 2009 a 2018. Mae pob un o'r rhain yn gymorth inni gofio a gwerthfawrogi ymhellach yr elfennau craidd yng nghynnyrch yr arlunydd, a'r cerrig milltir amlycaf yn ei fywyd. Golygwyd y gyfrol gan David Meredith, cadeirydd presennol Ymddiriedolaeth Kyffin Williams, un o gyfeillion agosaf yr arlunydd ac awdur nifer o weithiau amdano. O ddiddordeb mawr yma hefyd yw'r cofiant dwyieithog i Kyffin, darn sydd yn crynhoi llawer iawn o wybodaeth ddifyr, ynghyd ag atgynhyrchiadau o nifer o’i weithiau mwyaf deniadol ac adnabyddus. Y cyfraniad helaethaf i'r gyfrol yw'r dadansoddiad meistrolgar o bortreadau Kyffin Williams gan yr hanesydd celf Peter Lord. Mae Peter yn cynnig arolwg ar rai o'r dylanwadau pwysicaf ar waith Kyffin ac yn rhoi sylw manwl i rai o'i bortreadau mwyaf godidog. Mae'n dod i'r casgliad, er iddo ymchwilio â chrib fân a chasglu ynghyd toreth o nodiadau, fod Kyffin yn dal yn ddirgelwch llwyr iddo. Mae llawer iawn o gyfraniadau eraill diddorol yma hefyd. Mae Luned Roberts de González yn rhoi sylw i gysylltiadau Kyffin gyda'r Wladfa, lle bu'r arlunydd wrthi'n creu nifer o bortreadau yn ystod ei fisoedd o wyliau yn Ne America, 1968–69. Mae dau gyn-Archesgob Cymru wedi llunio cyfraniadau gafaelgar ar gyfer y casgliad hwn hefyd. Mae'r Dr Barry Morgan wedi mynd i'r afael â pherthynas agos Kyffin ag R. S. Thomas, gŵr arall anodd ei ddehongli a'i ddirnad. Ac mae'r Dr Rowan Williams yn ystyried agweddau a dimensiynau ysbrydol cynnyrch Kyffin, ynghyd â rhai arlunwyr eraill. Mae golygydd y gyfrol yn ysgrifennu am gysylltiad agos Kyffin gyda dinas Venice, un y bu'n ymweld â hi ar nifer fawr o achlysuron rhwng 1950 a 2004. Prif ffocws y cyfraniad hwn yw gwaith Kyffin fel hanesydd celf a oedd yn rhyfeddol o wybodus ynghylch artistiaid enwog a phensaernïaeth Venice fel ei gilydd. Ac mae Jan Morris hefyd yn ystyried cysylltiadau Kyffin gyda Venice, Llundain a dinasoedd eraill, gan roi sylw arbennig i baentiad o dirwedd a greodd yn ystod ei ymweliad olaf â Venice yn 2004. Mae'r hanesydd Prys Morgan yn troi ei sylw at swyddogaeth Kyffin Williams fel un a oedd yn gwarchod treftadaeth ardal yr Eryri, ac mae'r Athro Tony Jones, yntau'n ysgrifennu o'i gartref yn Chicago, yn mynd ati i olrhain y gwahanol elfennau a ddylanwadodd ar baentiad olew o'r enw Tanygrisiau , gwaith a grëwyd tua 1958 ac a oedd i’w weld yn ystafell gelf Ysgol Ramadeg Quakers Yard yn Nhreharris. Daw R. S. Thomas i'r amlwg unwaith yn rhagor yng nghyfraniad yr Athro M. Wynn Thomas, sef darn sydd yn rhoi sylw i waith enwog y llenor, Too Brave to Dream , cyfrol a ddisgrifir yma fel casgliad o 'gerddi paentio', gwaith y bu dylanwad Kyffin yn drwm arno. O glawr i glawr, mae'r erthyglau hyn yn arbennig o ddifyr ac maent yn deyrnged hollol deilwng o fywyd a gwaith Kyffin Williams.

View full details