Cyngor Llyfrau Cymru
Llawlyfr y Wladfa
Llawlyfr y Wladfa
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dewch ar daith i Batagonia, gan ddechrau ym Mhorth Madryn a dilyn yr haul tua'r gorllewin hyd at yr Andes gyda'r llyfr hyfryd, llawn lluniau lliw, mapiau a gwybodaeth diddorol hwn. Dyma'r llyfr cyntaf o'i fath ar hanes a lleoliadau difyr yn y Wladfa ar gyfer teithwyr ac eraill sydd â diddordeb yn y testun.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Take a trip to Patagonia, from Porth Madryn in the east to the Andes in the west. This beautiful book is full of colour photographs, maps and interesting snippets of information about the history of the land and on entertaining places. A must for travellers and others interested in the subject.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784615734
- Gwales Code
- gwales.com.9781784615734
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llawlyfr y Wladfa
- Awdur / Author
- MacDonald, Delyth
- Current Price ex VAT
- £14.99
- Current Price inc VAT
- £14.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-08-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 240 pages
- Size
- 210 × 200 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (yn Gymraeg) | EN: Travel, Tourism, Guide Books (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Yn wraig i Elvey MacDonald o’r Wladfa yn wreiddiol, ganed Delyth yn Llundain, lle’r oedd ei thad yn Weinidog ar gapel Wood Green. Symudodd y teulu yn ôl i Gymru pan oedd yn naw oed. Graddiodd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n dysgu mewn nifer o ysgolion cynradd Ceredigion cyn cael ei phenodi’n Bennaeth Ysgol Llanfarian tan ei hymddeoliad yng Ngorffennaf 2012.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn 1970, priododd Delyth MacDonald â ‘hogyn o’r Wladfa’. Ar y pryd, roedd ei gwybodaeth am hanes Patagonia yn gyfyngedig i ddarllen Bandit yr Andes, nofel antur i blant gan R. Bryn Williams. Wrth gwrdd ag ymwelwyr o’r Wladfa, ymweld â’r lle a gwrando ar ei theulu-yng-nghyfraith, daeth i wybod a deall rhagor. Ymunodd ag Elvey, ei gŵr, ar nifer o deithiau i’r Dyffryn a’r Andes, gan dywys ymwelwyr o Gymru i fannau o ddiddordeb yn stori’r Wladfa. Cafodd ei swyno yn llwyr wrth glywed yr hanesion a’r storïau, a theimlodd y byddai’n braf rhoi yr un cyfle i eraill. Pwrpas y llawlyfr hwn yw cyfoethogi profiad ymwelwyr y dyfodol â’r Wladfa, a’r sawl sy’n arwain teithiau i’r wlad. Gobeithio y bydd o ddiddordeb i’r rhai a fu yno eisoes, i’w hatgoffa am eu taith, a hefyd i deithwyr cadair-freichiau na fu ym Mhatagonia.
Share
