Cyngor Llyfrau Cymru
Llif Coch Awst — 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016
Llif Coch Awst — 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi'r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A comprehensive collection of the poems of crowned and chaired bard Hywel Griffiths, comprising poems about Wales, its land and climate, its communities, history and myths.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781911584056
- Gwales Code
- gwales.com.9781911584056
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llif Coch Awst — 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016
- Sub Title
- 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016
- Awdur / Author
- Griffiths, Hywel
- Current Price ex VAT
- £7.50
- Current Price inc VAT
- £7.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-05-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau Barddas
- Editor
- Dafydd, Elis; Tudur, Marged
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 120 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Llif Coch Awst Fern Hill Lli ac Archan Mapio Cwm Elan Llifogydd Tyrfa Y daith i Orsedd y Cwmwl Gwylio Adar Argae Dymuniad ... Annibendod Dyfodol Y bluen eira Taflu Cerrig Addurno’r Goeden Atgof I Dylan Efyrnwy a Banwy 1914 Gair Gweithdy Dur Dic Gerallt Gwynfor Ynys Ffydd a phaent Clawdd terfyn Y gadair ddu Egin Y ferch sy’n byw ’da Padraig Pearse Gwanwyn yn Llangynog ‘Cofiwch Dryweryn’ Sêr Google Mars Dawns Wrth Sgwennu Dinasoedd Y lloerig Laitumkhrah Cyngor Teithio Y Gân Ogleddol Sut mae mynd i deml Tao Sgwâr St. Marko Ynghylch y tywydd drwg Mehefin 2016 Lens Disgwyl am y wawr Bore I fis Mehefin 2016 Trioedd Pwll y Tŵr I Dafydd Jones Hel arian papur Teilwyr Y map dwfn Croesi dros Gei Newydd Ebenezer I Osian Diymadferth Gwalia Deserta 2012 I Gareth ac Elin I Eurig a Rhiannon I Eurig yn 30 I Aran a Heledd Medi yn Aber Gwe
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
O Sir Gaerfyrddin y daw Hywel Griffiths yn wreiddiol ond mae'n byw yng Ngheredigion ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Dîm y Glêr a Thîm y Deheubarth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015, a chyn hynny, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Cyhoeddodd flodeugerdd o ganu gwleidyddol, Byw Brwydr gyda Chyhoeddiadau Barddas yn 2014 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Banerog , gyda'r Lolfa yn 2009. Y mae hefyd wedi ysgrifennu nofel i bobl ifanc.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Fel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd byd natur. Mae’n arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang ar eu hôl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod a’r gro mân a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y canrifoedd sy’n lliwio’r cerddi. Fe’i magwyd ar fferm i’r gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn cyfoethogi’r gyfrol; dyma’i Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantre’r Gwaelod, gresynai fod cymaint o’n cyfoeth diwylliannol o dan y môr a’i donnau. O gofio hyn, mae’n anochel i’w flynyddoedd fel myfyriwr gydredeg â chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac mae’r achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i Osian, un o’i hymgyrchwyr diweddaraf. Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gyda’i wraig, Alaw, ac yno yn Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddi’r gyfrol hon. Yno y ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn i’r llifogydd difrifol daro’r pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan Hedd, ac mae i’r tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau. Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd â llif yr afonydd hyn drwy gronni’r dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Mae’r naturiaethwr a’r Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn – a Chwm Elan ac Efyrnwy hefyd. Ac yntau bellach wedi dychwelyd gyda’i deulu at lannau Rheidiol yn Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo sy’n mapio’i ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn afonydd Cymru yn ei gwmni.
Share
