Cyngor Llyfrau Cymru
Llinyn Trôns
Llinyn Trôns
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel gyfoes ddifyr i ieuenctid gan nofelwraig boblogaidd yn adrodd hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch, methiannau a llwyddiannau criw brith o fyfyrwyr TGAU wrth iddynt ddysgu cydweithio ar gwrs mewn canolfan awyr agored. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2000. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2001.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Llinyn Trôns is contemporary novel for young people by a popular novelist relating the frictions and friendships, failures and successes of a mottley crew of GCSE students as they learn to co-operate on an open-air adventure course. Reprint; first published in 2000. Tir na n-Og Award winner 2001.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780862435202
- Gwales Code
- gwales.com.9780862435202
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llinyn Trôns
- Awdur / Author
- Gwanas, Bethan
- Current Price ex VAT
- £4.95
- Current Price inc VAT
- £4.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-01-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 128 pages
- Size
- 182 × 123 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
- DEWEY code
- National Library of Wales Dewey Code
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn y nofel hon dilynwn hynt a helynt criw o bobl ifanc, sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU, tra maent ar gwrs tridiau mewn canolfan awyr agored. Llion Jones, neu Llinyn Trôns, sy'n adrodd yr hanes a thrwyddo ef y down i adnabod y prif gymeriadau sef Gwenan, Olwen, Nobi, Gags, Dei a Donna eu hyfforddwraig. Er mwyn adeiladu cymeriad rhaid iddynt ddysgu cydweithio a dibynnu ar ei gilydd er mwyn cyflawni tasgau arbennig dringo, canŵio, abseilio ac ati. Mae hyn yn profi'n anodd iawn ar brydiau, yn arbennig i Llion a oedd, yn yr ysgol, yn fachgen distaw a hoffai ei gwmni ei hun ac a gâi ei fwlio gan Nobi a Gags. Ond mae'r tridiau yn agoriad llygad iddo ac mae'n dysgu llawer amdano'i hun ac am bobl eraill hefyd. Stori fodern sydd yma gyda chymeriadau byw, crwn, wedi'u darlunio'n effeithiol. Mae'r nofel yn llifo'n gyflym o un dasg i'r llall, gan roi inni stori afaelgar mewn iaith raenus. Er y gallai'r problemau (personol yn ogystal â phroblemau'r tasgau) fod braidd yn drwm i'r darllenydd, nid felly o gwbl yma. Mae'r cyfan yn ddoniol ac ysgafn, hyd yn oed y digwyddiadau difrifol. Ond mae'r diweddglo yn eithaf annisgwyl. Yn sicr mae yma stori 'bril' ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau, yn arbennig felly bechgyn. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2001 am y Ffuglen Gymraeg orau.
Share
