Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Lloerganiadau

Lloerganiadau

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Trysor o gyfrol o atgofion yr awdures amryddawn, Fflur Dafydd, a fu erioed yn syllu tuag at y lloer...

Disgrifiad Saesneg / English Description

A treasury of memoirs by talented author, Fflur Dafydd, who has always been seeking stars...

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784618735
Gwales Code
gwales.com.9781784618735
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Lloerganiadau
Awdur / Author
Dafydd, Fflur
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-11-30
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
148 pages
Size
130 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Merch o Landysul yw Fflur Dafydd. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, cyn ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia a PhD ar farddoniaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Mae'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn awdur a chantores-gyfansoddwraig ar ei liwt ei hun.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Hen air yn Shir Gâr am y lleuad yw’r ganaid, dyna air cain, un sy’n llawn canu. Ac mae cyfrol Fflur Dafydd yn llawn ceinder a chân hefyd – y lloer-ganiadau. Mae’r gyfrol delynegol, agos atoch hon yn un fydd yn sicr o swyno’r darllenydd. Mae’n gyfrol lawn hiwmor ac yn hynod feddylgar ar yr un pryd. Rhoddodd ei darllen hi bleser anferthol i fi. Alla i weld wyneb Fflur Dafydd yn wyneb y lloer yn y gyfrol. Yn wir, fe alla i weld fy wyneb fy hun yn y gyfrol loyw, arian byw, hon, ac fe wnewch chithau weld eich hun hefyd, wy’n addo. Ac o dan olau’r lleuad ry’n ni’n cael golwg ar bob wyneb o gylch y lloer drwy’r mis crwn. Ceir ysgrif fer, flasus am y gwahanol weddau ar y lloer cyn pob pennod – o’r lleuad newydd, y lleuad gilgant, hyd y lleuad lawn ac yn ôl – sy’n disgrifio’r lleuad ar ei thaith. Mae weithiau’n defnyddio gwyddoniaeth, weithiau farddoniaeth, i esbonio a darlunio’r berthynas hudol sydd rhyngom ni, ddynion y llawr, a’r lleuad, y llinyn arian sy’n ein clymu. Golwg ar ddarnau o fywyd Fflur a geir ymhob pennod, wedi’u cyflwyno i ni yng ngolau’r lloer. Ac o, maen nhw’n ysgrifau difyr i’w darllen. Y noson honno yr aeth hi a chriw bach o blant cynradd eraill allan adeg Calan Gaea a chael eu gadael yn ddiamddiffyn yng nghefn gwlad Ceredigion. Y cariad cyntaf. Teimladau cymhleth a lletchwith llencyndod. Y byw rhwng y ddau fyd wedi geni plentyn. Y noson pan gynhaliodd Fflur a’i brawd barti yn eu tŷ newydd pan oedd eu mam a’u tad oddi cartre, a drama’r canlyniadau erchyll. Mae’r straeon hyn i gyd yn ddarnau jig-so o fywyd yr awdur. Ac yn y bennod brydferth am sefyll ar fryn yng Ngheredigion rhywle tu fas i Dregaron gan aros i’r lleuad ymddangos, a hithau’n chwilio am ysbrydoliaeth ar drothwy ysgrifennu sioe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion na ddigwyddodd yn 2020, mae Fflur yn rhannu rhyfeddod deuoliaeth y ddaear â ni, ein bod ni bobol yn gawraidd o fawr ac eto’n bitw o fach a di-nod hefyd. Mae mwy, cymaint mwy yn y gyfrol hon. Hanes Silas Evans, y seryddwr diymhongar o Aberystwyth; Christa McAuliffe yr ofodwraig, ac atomau a golau’r ffurfafen. Planed o gyfrol yw hi, un sy’n pefrio arnom. Mynnwch gopi a’i darllen – mae tu hwnt i’r byd hwn.

View full details