Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Llwch yn yr Haul

Llwch yn yr Haul

Regular price £8.95 GBP
Regular price Sale price £8.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel lawn hiwmor a ffresni i oedolion, wedi'i lleoli ar ynys Cyprus yn bennaf. Mae'r cyfrinachau lu rhwng aelodau teulu'r diweddar Trefor a'i gilydd yn creu pob math o broblemau!

Disgrifiad Saesneg / English Description

A humorous novel for adults, set mainly in Cyprus, with untold secrets between family members of a deceased man causing all kind of problems!

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742821
Gwales Code
gwales.com.9780860742821
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Llwch yn yr Haul
Awdur / Author
Samuel, Marlyn
Current Price ex VAT
£8.95
Current Price inc VAT
£8.95
Availability Status (EN)
Out of print
Availability Status (CY)
Allan o brint
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-09-26
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
224 pages
Size
129 × 198 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma nofel gan awdures newydd sbon ond yn amlwg awdures sy’n sylwi ar bobol, eu harferion a’u sgwrs. Nid wyf am ddatgelu gormod ondyn fras mae Trefor Morris wedi gorchymyn i’w lwch gael ei wasgaru yng Nghyprus a hynny am iddo wasanaethu’r fyddin yno ac felly mae’r diwrnod wedi cyrraedd lle mae’r teulu yn mynd i dalu’r gymwynas olaf. Ond ni ellir mynd i Gyprus mewn diwrnod ac felly mae’r teulu wedi llogi villa am wythnos. Yn ôl y disgwyl, mae ‘na densiynau. Dyw pethau ddim yn rhy hawdd ar Dilys gan ei fod newydd golli ei gŵr ac mae’r ddwy ferch yn go wahanol i’w gilydd. Mae Elen yn hoff iawn o gyfforddusrwydd y bywyd dosbarth canol ac y mae hi a’i gŵr Geraint a’u dau blentyn (bachgen a merch wrth gwrs) yn cynrychioli gwerthoedd y bywyd hwnnw. Dyw pethau ddim mor hawdd ar Nerys. Roedd ei thad wedi gobeithio cael bachgen yr ail dro ond Nerys a ddaeth – a rywsut mae elfen o anfodlonrwydd wedi bod yn ei chylch o’r dechrau. Ar ben popeth mae hi’n caru ag actor di-waith Phil – ie gall pethau ond fynd o chwith er mor foethus a dymunol y villa. On chwarae teg i’r awdures dyw’r stori ddim yn gwbl amlwg. Mae yna ddwy stori gref yn cydredeg a’i gilydd ac y mae’r naill a’r llall yn hynod ddifyr. Yr hyn sy’n arbennig yn y nofel hon yw ryw sylwadau bach craffog – rwy’n siwr bod Marlyn Samuel wedi treulio lot fawr o amser yn `people watching’ ac o bosib yn gwrando, yn ddiarwybod, ar sgyrsiau pobl! Mae’r iath yn ffres ac yn ystwyth – a mae’n nofel sy’n eich cymell i ddarllen hyd y diwedd. Mae yma yfed, rhyw, ‘affairs’, chwerthin a chrio! Ydi wir, mae’r cyfan yn hynod gyffrous ond efallai fod y diwedd bach yn ry ‘dylwyth tegaidd’ a bod y digwyddiadau ola wedi digwydd braidd yn rhy sydyn. Fy marn i yw hynny – ond dyma nofel i’w mwynhau yn fawr. Edrychwn ymlaen at y nesaf gan Marlyn Samuel.

View full details