Cyngor Llyfrau Cymru
Llyfr Mawr Rwdlan
Llyfr Mawr Rwdlan
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr anrheg i ddathlu pen-blwydd Cyfres Rwdlan yn 30 oed eleni. Cyfrol clawr caled yn cynnwys posau, lluniau i'w lliwio, ryseitiau, storïau newydd a gwybodaeth newydd am y cymeriadau o Wlad y Rwla. Addas ar gyfer plant 2-7 oed.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A gift book to celebrate the 30th anniversary of the Rwdlan book series, comprising puzzles, pictures to colour, recipes, new stories and information about the popular characters of Gwlad y Rwla, for 2-7 year old children.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847717412
- Gwales Code
- gwales.com.9781847717412
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llyfr Mawr Rwdlan
- Awdur / Author
- Tomos, Angharad
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-11-15
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 80 pages
- Size
- 210 × 297 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau Lliwio, Posau a Chwisiau (yn Gymraeg) | EN: Colouring Books, Puzzles and Quizzes (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dathlu Pen-blwydd Rwdlan, y Wrach Fach Ddireidus Mae gwasg y Lolfa wedi cyhoeddi llyfr anrheg newydd sbon gan Angharad Tomos i ddathlu pen-blwydd Cyfres Rwdlan yn 30 oed eleni. Mae Llyfr MAWR Rwdlan yn gyfrol clawr caled ar ffurf annual , sy’n addas i blant 2 - 7oed. Mae’r llyfr yn cynnwys llond gwlad o bosau, lluniau i’w lliwio, ryseitiau, storïau a gwybodaeth newydd am gymeriadau Gwlad y Rwla. Lansiwyd y gyfrol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Lyfrau’r Morlan, a chynhaliwyd gweithdai i blant lleol gan Angharad Tomos ei hun yng nghwmni Rala Rwdins (Mair Tomos Ifans). Bu’r bardd Eurig Salisbury hefyd yn helpu criw o bobl ifanc i gyfansoddi cerdd arbennig i ddathlu pen-blwydd y dewiniaid, sydd i’w darllen isod. “Ym 1983 es i ddosbarth celf, a thynnu llun gwrach glen efo cath o’r enw Mursen - gelwais i hi yn Rala Rwdins,” eglura’r awdures boblogaidd, Angharad Tomos. “Awgrymodd yr athrawes y dylwn wneud ffrind iddi, a dyna sut y ganwyd Rwdlan, y wrach fach ddireidus, oedd yn seiliedig ar fy chwaer fach. Yr haf hwnnw, mewn carafán, daeth llawer mwy o gymeriadau i Wlad y Rwla. Haf prysur iawn oedd 1983! “Argraffodd y Lolfa'r llyfr cyntaf y flwyddyn honno, a bellach mae 16 o lyfrau yng Nghyfres Rwdlan. Buont yn ddrama ar y radio ac ar lwyfan, ac erbyn 1994 roeddent ar S4C. Erbyn 2003, roedd gen i hogyn fy hun, a hwnnw eisiau dysgu darllen. Dyna sut ddaeth cyfres Darllen Mewn Dim i fod.” Pen-blwydd Hapus, Rwdlan Am fod Cyfres Rwdlan yn dri deg oed, Dyma’r anrhegion gorau erioed – Fe rown ni’n bresant gwych i Rwdlan, Cacen siocled yn lle cawl rwdan. I’r Dewin Dwl, llond Morlan o fêl, A straighteners i’w wallt ar ei ben siâp pêl. Rhown fadarch blasus i’r Dewin Doeth, Telesgôp a chwpan o siocled poeth, Ac i Ceridwen, llond Llyfrgell Gen O lyfrau iymi i lenwi’i phen. Crochan newydd i Rala Rwdins, I ferwi cawl a chant o bwdins, A hyd yn oed Strempan caiff bibell ddŵr (O addo bod yn ferch dda, siŵr), Ac yn olaf, peidiwch anghofio, I’r Llipryn Llwyd, fe rown i’w gwtsho Dedi bach newydd i fynd i bob lle I’w gadw yn gynnes a’i gysuro fe. Diolch i chi i gyd am anrheg gampus, A nawr cawn weiddi ‘Pen-blwydd Hapus’!
Share
