Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Llyfrau Hanes Byw: Canrif a Mwy o'r Babell Lên

Llyfrau Hanes Byw: Canrif a Mwy o'r Babell Lên

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfres Llyfrau Hanes Byw 4. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o gonglfeini'r diwylliant Cymraeg - ac i lawer o eisteddfodwyr pybyr, y Babell Lên, yn hytrach na'r Pafiliwn yw'r lle pwysicaf ar y Maes. Syndod felly, nad oes neb erioed wedi cynnig ysgrifennu hanes y Babell Lên cyn hyn, a hithau newydd ddathlu'i chanmlwyddiant. Ond dyna nod y llyfr hwn.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A book celebrating one of the most important places on the maes of the National Eisteddfod, the Literature Tent.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845277970
Gwales Code
gwales.com.9781845277970
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Llyfrau Hanes Byw: Canrif a Mwy o'r Babell Lên
Awdur / Author
Glyn, Ifor ap
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2026-07-10
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
150 pages
Size
148 × 210 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Hanes - Arall (yn Gymraeg) | EN: History - Other (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Magwyd Ifor ap Glyn yn Llundain i rieni Cymraeg, a daeth i astudio yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd cyn setlo a chodi teulu yng Nghaernarfon. Mae'n enwog am berfformio'i gerddi o flaen cynulleidfaoedd byw - o'r Babell Lên i ben draw'r byd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith ac mae'n dalyrnwr, yn awdur nifer o gyfrolau o farddoniaeth a llyfrau eraill a bu'n Fardd Plant Cymru ac yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Sefydlodd, gydag eraill, gwmni cynhyrchu ffilm a theledu o'r enw Cwmni Da, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith ym maes rhaglenni hanes a ffeithiol.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Saunders, Kate, y Blew … Hywel Teifi, Ffion Dafis, Eric Ngalle … Dyma rai yn unig o’r miloedd sydd wedi ymddangos ar lwyfan y Babell Lên. Byth ers 1920 mae wedi bod yn gartref i lenorion, i feirdd, ac i lawer o bobl ddiddorol eraill ar faes yr Eisteddfod, ond dyma’r tro cyntaf i neb geisio crynhoi hanes cyfoethog y lle hwn mewn cyfrol. Yn ôl gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol: ‘Mae’n debyg mai Y Babell Lên yw’r adeilad enwocaf ar y Maes, ar ôl y Pafiliwn’. Yma cewch wybod pam. O’r ymryson i’r darlithiau, o’r beirniadu i’r darlledu, o’r stiwardiaid i gynllun y lle ei hun, dyma flas ar hanes y Babell Lên.

View full details