Cyngor Llyfrau Cymru
Llyfrau Llafar Gwlad: 89. Pen-blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt
Llyfrau Llafar Gwlad: 89. Pen-blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol o eiriau a dywediadau hynod, yn amrywio o eiriau yn ymwneud â phethau pob dydd megis y cartref, dillad, bwyta ac yfed, i ddywediadau yr amaethwr a'r chwarelwr, dywediadau am y tywydd, pysgota, byd natur, termau chwarae snwcer a marblis, hen feddyginiaethau, llên gwerin, enwau lleoedd a llawer mwy.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A book of unusual Welsh words and sayings, reflecting various aspects of life in Wales, including old remedies, folklore, place names and much more.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845275587
- Gwales Code
- gwales.com.9781845275587
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llyfrau Llafar Gwlad: 89. Pen-blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt
- Awdur / Author
- Owain, Steffan ab
- Current Price ex VAT
- £6.50
- Current Price inc VAT
- £6.50
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-06-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 112 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: 19eg Ganrif (yn Gymraeg) | EN: 19th Century (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Deall pob gair o'r Gymraeg? Tybed yn wir? Bûm yn meddwl fy mod innau yn gyfarwydd iawn â'n hen iaith hyd nes y deuthum ar draws rhai o emau'r Gymraeg mewn hen gyhoeddiadau a chlywed rhai ar lafar gwlad dros y blynyddoedd. Dyma fynd ati i nodi rhai nad oedd yn y geiriaduron. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys trawsdoriad da o bynciau, a'r rheiny yn amrywio o eiriau yn ymwneud â phethau pob dydd – megis y cartref, bwyta ac yfed, dillad a gwisg, i ddywediadau yr amaethwr a'r chwarelwr, y tywydd, pysgota, byd natur, termau chwarae snwcer a marblis, hen feddyginiaethau, llên gwerin ac enwau lleoedd ac ati. Tybed faint ohonoch sydd yn gyfarwydd â geiriau'r teitl i ddechrau arni? A beth am y dywediadau hyn – cerdded y lôn las , brecwast ceiliog chwadan, bodia llwyd, potes penradell, palfa gefal? Beth yw pren baich, cwrt mawr y brain, sil y bodiau a tân tramp? Ymhle y mae Lloegr Siôn Cwmorthin a Carreg corn gwddw ceffyl? Pa bryd yr oedd dydd Sadwrn pwt, ac ymhle y ceid haul Thomas Parri a llanw coch Awst? Dyma rai o'r geiriau a'r dywediadau a drafodir yn y gyfrol – y mae llawer mwy! A phwy a ŵyr, o'i darllen, efallai y bydd yn anogaeth i chithau gofio am enghreifftiau nad yw'r rhelyw ohonom yn eu defnyddio.
Share
