Cyngor Llyfrau Cymru
Mali a'r Morfil
Mali a'r Morfil
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dilyniant i'r stori ganmoladwy Mali a'r Môr Stormus , sef stori emosiynol gan y meistri storïol a darluniadol Malachy Doyle ac Andrew Whitson am weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo creadur i ddychwelyd i'w gynefin.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A sequel to the acclaimed Molly and the Stormy Sea , this is a moving tale from master storyteller Malachy Doyle and illustrator Andrew Whitson about working together to help a creature to return to its habitat.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781914079313
- Gwales Code
- gwales.com.9781914079313
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mali a'r Morfil
- Awdur / Author
- Doyle, Malachy
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-11-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Graffeg
- Darlunydd / Illustrator
- Whitson, Andrew
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 250 × 250 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae gan Malachy Doyle dros 100 o lyfrau plant wedi eu cyhoeddi gan gyhoeddwyr blaenllaw Saesneg, Cymraeg a Gwyddelig, o lyfrau lluniau i nofelau pobl ifanc. Cyfieithwyd ei waith i 27 o ieithoedd, ac mae’n gyn-enillydd o Wobr Tir na n-Og ( Georgie ), Gwobr Llyfr Plant Nestle ( The Dancing Tiger ), Gwobr y Gymdeithas Saesneg am lyfr ffeithiol ( Cow ) a nifer o wobrau eraill yn y DU ac UDA. Mae Andrew Whitson wedi darlunio llyfrau ar agweddau amrywiol o chwedloniaeth Iwerddon gan gynnwys The Creatures of Celtic Myth , The Field Guide to Irish Fairies a The Dark Spirit . Yn 2011, derbyniodd Andrew wobr anrhydeddus Bisto am ddarlunio llyfrau.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Malachy Doyle has over 100 children's books published by leading English, Welsh and Irish publishers, from picture books to teenage novels. His work has been translated into 27 languages and he is a previous winner of the Tir na n-Og Award ( Georgie ), the Nestle Children's Book Award ( The Dancing Tiger ), the English Association Award for Non-Fiction ( Cow ) and many other awards in the UK and USA. Andrew Whitson has illustrated books on various aspects of Irish mythology including The Creatures of Celtic Myth , The Field Guide to Irish Fairies and The Dark Spirit . In 2011, Andrew received the Bisto honorary award for book illustration.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau. Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub. Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser. Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan. Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref.
Share
