Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Mei Ling a Meirion

Mei Ling a Meirion

Regular price £6.95 GBP
Regular price Sale price £6.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel sy'n pendilio rhwng y chwedegau - a'r adeg pan ddaeth Gregory Peck a channoedd o Tsieineaid i ffilmio ym mynyddoedd Eryri - a heddiw, gan adrodd hanes hogyn o Borthmadog a merch o dras Tsieineaidd o Lerpwl. Mae'r nofel fer hudolus hon yn stori garu fydd yn eich cyffwrdd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

This novel moves between the 1960s and the present day, and tells the story of a boy from Porthmadog and a girl of Chinese extraction from Liverpool. It recalls the time when Gregory Peck and hundreds of Chinese people arrived to shoot a film in the mountains of Snowdonia. You will be touched by this short, magical novel.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742623
Gwales Code
gwales.com.9780860742623
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Mei Ling a Meirion
Awdur / Author
Williams, Gareth F.
Current Price ex VAT
£6.95
Current Price inc VAT
£6.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-05-24
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Size
129 × 198 mm; depth 13 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma nofel sy’n adrodd hanes unigolion arbennig yn ogystal â rhoi cipolwg i ni o gyfnod cyffrous diwedd y chwedegau. Mae hi’n nofel sy’n symud yn gelfydd o le i le ac o gyfnod i gyfnod gan ddal sylw’r darllenydd gyda naratif gafaelgar a deialog ffraeth. Craidd y nofel yw’r berthynas glòs a sensitif sy’n cael ei ffurfio rhwng dau gymeriad o gefndiroedd go wahanol – Mei Ling o Lerpwl a Meirion o Borthmadog. Mae Meirion mewn cadair olwyn wedi damwain ddifrifol ac yn dal i ymgyfarwyddo â’i amgylchiadau newydd pan mae’n cyfarfod Mei Ling yn 1968. Mae Mei Ling, fel cannoedd o Tsieiniaid eraill, yng ngogledd Cymru i ffilmio ffilm newydd gyda Gregory Peck ym mynyddoedd Eryri. Dysgwn fod Mei Ling yn ceisio dianc oddi wrth rai o gymeriadau brith ei bywyd yn Lerpwl a phan mae pethau yn cychwyn mynd yn drech na hi, daw Meirion a’i ffrind ar ei thraws. Penderfyna Meirion gynnig lloches iddi yng nghartref ei deulu am gyfnod a dyma yw cyd-destun eu perthynas fer. Mewn gwirionedd, cryfder y nofel yw’r modd y disgrifir perthynas y cymeriadau oll â’i gilydd. Gwelwn rwystredigaeth Gwenllian oherwydd ei theimladau tuag at Meirion a’i ymateb yntau iddi a’r modd y mae hyn yn arwain at ddiweddglo tawel y nofel. Mae ffyddlondeb Dewi Stiffs, ffrind Meirion, a’r ddeialog rhyngddynt yn ystod adferiad Meirion yn annwyl ac yn ddiffuant. Mae dyfodiad Mei Ling yn peri anesmwythder yng nghartref y teulu ac er na fanylir ar hyn, mae’r awgrymu sydd yma yn gynnil iawn. Nofel fer yw hi nad yw’n gofyn am ormod o fuddsoddiad o ran amser na meddwl i’w mwynhau’n llawn. Nid beirniadaeth o’r nofel yw dweud hyn - mae’n cynnig darlun real o gyfnod diddorol ac o fewn tudalennau’r nofel mae cyfnod y chwedegau yn fyw yn ei gerddoriaeth, ei sain a’i liw. Defnyddia cymeriadau’r nofel dafodiaith Porthmadog ac mae rhegfeydd yn britho deialog ffraeth y gŵr ifanc. Mae adnabyddiaeth yr awdur o’r ardal, ei hiaith a’r cyfnod yn amlwg ac yn ychwanegu llawer at y darlun byw a gawn yma. Mwynheais y nofel yn fawr – roedd y cymeriadau byw, y berthynas rhyngddynt a’r disgrifiadau o gyfnod mor ddiddorol yn apelio’n fawr. A hithau’n haf, dyma nofel wych i’w darllen ar y traeth neu ar brynhawn braf yn yr ardd – ar yr un pryd, cewch eich cludo yn ôl mewn amser i Borthmadog ddiwedd y chwedegau.

View full details