Cyngor Llyfrau Cymru
Menywod Anweledig
Menywod Anweledig
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel ddystopaidd wedi'i gosod yn yr Unol Daleithiau yn y dyfodol agos, yn dilyn merched ifanc sy'n gorfod dilyn trywydd tanddaearol i fynnu'r hawl i ddewis beth sy'n digwydd i'w cyrff eu hunain.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A dystopian novel set in the United States in the near future, following young women who have to follow an underground path to demand the right to choose what happens to their own bodies.
Archebu o flaen llaw
Os nad yw’r teitl hwn wedi’i gyhoeddi eto, gallwch ei archebu o flaen llaw. Byddwn yn dosbarthu eich eitem cyn gynted ag y bydd ar gael gan y cyflenwr ac wedi cyrraedd atom. Gall dyddiadau cyhoeddi newid.
Pre-orders
If this title has not yet been published, you can order it in advance. We’ll dispatch it as soon as it is available from the supplier and has reached us. Publication dates may change.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845279929
- Gwales Code
- gwales.com.9781845279929
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Menywod Anweledig
- Awdur / Author
- Roberts, Rebecca
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Not yet published
- Availability Status (CY)
- Heb ei gyhoeddi
- Dyddiad argaeledd / Availability Date
- 2026-10-20
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2026-10-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 200 pages
- Size
- 130 × 200 mm; depth 15 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020071
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt , nofel i bobl ifanc a a enillodd wobr Tir Na n-Og a Llyfr y Flwyddyn. Mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg yBwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu. Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o'i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat , ei chyhoeddi gan wasg Gomer yn 2020. Cyhoeddwyd # Helynt , ei nofel gyntaf i bobl ifanc yn y Gymraeg, hefyd yn 2020, a’r dilyniant, Mwy o Helynt , yn 2023. Cyhoeddwyd Chwerwfelys , dilyniant i Mudferwi , yn 2021, a Curiad Gwag yn 2022. Mae cyfieithiad o Curiad Gwag , Rock on the Road , wedi ei gyhoeddi, a chyhoeddwyd y dilyniant, Diwedd y Gân , yng ngwanwyn 2025.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Yn Unol Daleithiau America yn y dyfodol agos, mae bywyd yn mynd yn gynyddol anoddach. Mae'r Wladwriaeth yn dilyn pob symudiad, a hawliau menywod yn diflannu, hyd yn oed dros eu cyrff eu hunain. Wrth iddiganfod ei hun mewn sefyllfa argyfyngus, mae'n rhaid i un ferch ifanc roi ei ffawd yn nwylo criw o ymgyrchwyr tanddaearol...
Share
