Cyngor Llyfrau Cymru
Mêts Maesllan: Bwgan y Bryn
Mêts Maesllan: Bwgan y Bryn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma llyfr rhif pymtheg yn y gyfres Mêts Maesllan. Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Here is book fifteen in the Mêts Maesllan series. The series follow the adventures and interests of a lively group of friends - Mim, Ben, Sam, Wil (and Bob the dog) who lives in Maesllan. The series includes a pack of 32 cross-curricular books that includes some fictional, some factual and some on the form of rhyme.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781783900404
- Gwales Code
- gwales.com.9781783900404
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mêts Maesllan: Bwgan y Bryn
- Awdur / Author
- Clement, Bethan; Thomas, Marian; Ryder, Nanna
- Current Price ex VAT
- £2.99
- Current Price inc VAT
- £2.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-07-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Canolfan Peniarth
- Darlunydd / Illustrator
- Sparks, Rhiannon; Christopher, Helena
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 17 pages
- Size
- 147 × 208 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli lythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonnel Eirfaol' (Hughes, 1978). Mae'r llyfrau yn lyfrau byr rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig, www.canolfanpeniarth.org/metsmaesllan ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir. Mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Lefel 1 (glas) - 6 llyfr yn canolbwyntio ar eiriau cytsain/llafariad/cytsain; Geirfa Lefel 1: Cytseiniaid unigol; llafariaid byr; llafariaid hir; geiriau c-ll-c yn bennaf; geiriau allweddol:a'i, a'r, ei, i'r, i'w, mynd, o'r, wedi, y, yn, yna, yr. Treigladau Lefel 1: Ambell dreiglad meddal p-b, t-d, c0g, b-f, m-f; ambell dreiglad trwynol b-m, d-n; Cystrawen Lefel 1: Brawddegau byr, un cymal; ailadrodd cyson; cysylltair 'a'i gysylltu enwau e.e. Sam a Mim sillgoll 'r, 'n; amser presennol y ferf - dyma, mae, ydw, ydy/yw, dydw, dydy, oes; gorchmynion syml - cod, cer Lefel 2 (gwyrdd) - 8 llyfr yn canolbwyntio ar lythrennau dwbl e.e. ff, ch, rh; Geirfa Lefel 2: Geiriau unsill gyda chytseiniaid clwm, e.e. dant, cefn, ofn; llythrennau dwbl - ch, dd, ll, th, rh, ng, ff, si, ph; geiriauamlsillafog - deusill yn bennaf. Treigladau Lefel 2: Treiglad meddal; treiglad trwynol; dechrau cyflwyno'r treigladau llaes. Cystrawen Lefel 2: Brawddegau cytbwys - dau gyma; defnydd o gysyllteiriau - a, ond; peth ailadrodd; amser amherffaith y ferf. Lefel 3 (oren) - 7 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o gytseiniaid Geirfa Lefel 3: Cytseiniaid Clwm; geiriau amlsillafog, e.e. aderyn, anifieiliaid, anhygoel Treigladau Lefel 3: Treiglad Llaes Cystrawen Lefel 3: Brawddegau hirach a chystrawen ychydig yn fwy cymhleth; ailadrodd patrymau llai cyfarwydd; ffurf gryno'r ferf yn yr amser gorffennol - 3ydd person yn bennaf, e.e. gwelodd, cafodd, clywodd; amser dyfodol - byddaf, bydd. Lefel 4 (coch) - 10 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o lafariaid. Geirfa Lefel 4; Geirfa yn hytrach na thestun mwy heriol; llafariaid clwm, e.e. traed, dwylo, gwyn, Korea; dyblu 'n' a 'r'; geiriau lluosog gyda llafariaid clwm, e.e. ffeithiau, streipiau, mynyddoedd. Treigladau Lefel 4: Treiglo'n ehangach. Cystrawen Lefel 4: Brawddegau mwy cymhleth; defnydd helaeth o briod-ddulliau; ffurf gryno'r ferf yn y gorffennol, e.e. gwelais, rhedais; ffurf amhersonol gorffennol, e.e. darllenwyd, penderfynwyd; cymharu ansoddeiriau - y radd eithaf; rhedeg arddodiad. ******************************* Nod y pecyn: - hybu diddordeb mewn llyfrau a mwynhad wrth ddarllen; - cyflwyno adnoddau darllen sy'n apelio at fechgyn yn ogystal â merched; - cyflwyno'r plant i ddeunydd darllen sydd â diwyg diddorol a chyfoes; - datblygu sgiliau'r plant hynny sydd ag anawsterau dysgu penodol a'r rhai sy'n profi anawsterau cyffredinol wrth ddatblygu sgiliau darllen yng Nghyfnod Allweddol 2 yn bennaf; - cyflwyno rhai llyfrau sy'n addas ar gyfer brig y Cyfnod Sylfaen ac wrth bontio i Gynfod Allweddol 3 gan ddibynnu ar lefel sgiliau darllen yr unigolyn; - darparu amrwyiaeth o wahanol ffurfiau o destun gan ynnwys llyfrau ffeithiol sy'n ddefnyddiol ar gyfer pob disgybl yn y dosbarth oherwydd natur y testun; - darparu llyfrau a gweithgareddau i annog cwestiynu pellach gan oedolion er mwyn datblygu sgiliau meddwl.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Bwgan y bryn is part of the Mêts Maesllan series. The series is designed to help children in Key Stage 2 who have specific learning difficulties in mastering literacy in Welsh. The series centre on phonetic and linguistic patterns based on 'O Gam i Gam' (Griffith, updated by Thomas and Jones, 2009) and Ffynhonnell Eirfaol (Hughes, 1978).
Share
