Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i Blant — Thesawrws i Blant

Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i Blant — Thesawrws i Blant

Regular price £12.99 GBP
Regular price Sale price £12.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Thesawrws cynhwysfawr wedi ei saernïo'n gelfydd, ynghyd â mynegai defnyddiol, ar gyfer plant oedran cynradd gan y geiriadurwr D. Geraint Lewis. Mae'r holl eiriau a nodir yn y gyfrol yn ymddangos naill ai yn Geiriadur Cynradd Gomer yn achos y geiriau mwyaf cyfarwydd, neu yn Geiriadur Gomer i'r Ifanc yn achos y geiriau llai cyfarwydd. Cyhoeddwyd yn 2011.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A comprehensive thesaurus for primary school children, compiled by the lexicographer D. Geraint Lewis. All the words included in the volume appear in either Geiriadur Cynradd Gomer in the case of the most familiar words, or in Geiriadur Gomer i'r Ifanc in the case of less familiar words. Reprint; first published in 2011.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781843238614
Gwales Code
gwales.com.9781843238614
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i Blant — Thesawrws i Blant
Sub Title
Thesawrws i Blant
Awdur / Author
Lewis, D. Geraint
Current Price ex VAT
£12.99
Current Price inc VAT
£12.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-02-08
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
245 × 165 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Gwyddoniaduron a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Encyclopaedias and Dictionaries (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Thesawrws y Geiriadurwr Prysur Geiriadura yw un o ddiddordebau pennaf D. Geraint Lewis o Langwyryfon ger Aberystwyth. Mewn geiriau eraill, mae’n byw a bod yng nghwmni geiriau a dyna deitl ei thesawrws newydd i blant a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Mae’r gyfrol Mewn Geiriau Eraill: Thesawrws i Blant yn ychwanegiad arbennig at y llu o lyfrau iaith defnyddiol o eiddo’r awdur toreithiog. ‘Beth am air arall yn lle neis?’ meddai’r athro wrth y disgybl. Wedi meddwl a phendroni am amser, mae’n cynnig gair. Ond pe byddai copi o thesawrws wrth ei ochr, byddai modd iddo gynnig nifer o eiriau mewn byr amser! Dyna rym thesawrws sy’n gyfrwng i gyfoethogi iaith. Yn y gyfrol Mewn Geiriau Eraill cynhwysir y prif air mewn brawddeg esboniadol a nodir geiriau eraill y gellir rhoi yn ei le mewn blychau coch. Nodir geiriau croes eu hystyr gyda chroes werdd a cheir llun chwyddwydr yn nodi ‘Edrychwch hefyd dan..’. Os oes yna ddywediadau neu ymadroddion perthnasol i’r gair dan sylw, rhestrir rheiny hefyd. Mae yna gyfoeth rhwng cloriau’r llyfr hwn a ddyluniwyd yn glir a hwylus. Ar gyfer plant oed cynradd mae’r gyfrol Mewn Geiriau Eraill yn bennaf ac yn gymar perffaith i Geiriadur Cynradd Gomer . Ond gall plant o bob oed, dysgwyr ac oedolion ddysgu llawer am yr iaith Gymraeg drwy fodio tudalennau’r llyfr cynhwysfawr. Mae ein diolch yn fawr i D. Geraint Lewis, brodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, am fynd ati i ddysgu Cymraeg ei hun yn y lle cyntaf ac yna rhoi cymaint o’i amser yn ymwneud â nodweddion arbennig yr iaith.

View full details