Cyngor Llyfrau Cymru
Mira a’r Trip Ysgol
Mira a’r Trip Ysgol
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yr ail yn y gyfres newydd sbon gan yr awdur Luned Aaron. Y tro hwn, mae Mira yn gorfod ymdopi â sefyllfa hollol newydd yn yr ysgol – treulio noson i ffwrdd o gartref wrth iddi hi a'i chyd-ddisgyblion fynd ar drip deuddydd! Mae'r stori hon wedi'i hanelu at blant 7 oed a throsodd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The second title in a brand new series by author Luned Aaron. This time, Mira has to cope with a new situation at school - spending a night away from home with her classroom peers on a two-day trip! This story is aimed at children aged 7 years and over.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781801063326
- Gwales Code
- gwales.com.9781801063326
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mira a’r Trip Ysgol
- Awdur / Author
- Aaron, Luned
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-09-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Darlunydd / Illustrator
- Cottell, James
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 84 pages
- Size
- 132 × 192 mm; depth 6 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C114687
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Llyfr o benodau byr gyda lluniau du a gwyn ar gyfer plant tua 6–9 oed yw'r nofel fach hon gan Luned Aaron, gydag arlunwaith gan James Cottell. Dyma’r ail yng nghyfres Mira, merch sy’n debygol o fod yn niwrowahanol, fe dybiwn i. Mae’n mwynhau bywyd ysgol ond yn casáu nofio, a phan mae’n clywed bod ei dosbarth yn mynd dros nos i ganolfan antur mae arni ofn. Dengys y stori sut mae’n gorchfygu ei phryder a darganfod bod gan hyd yn oed y genethod cŵl eu hofnau, a bod ganddi hi gryfderau sy’n ei galluogi i helpu’r lleill i ymdopi. Mae’n ddarlun byw a naturiol iawn, a bydd profiadau Mira’n siŵr o daro tant gyda nifer o blant. Yr unig air o rybudd – os oes gennych blentyn sensitif sy’n poeni am fynd ar drip cyffelyb, ydi bod profiadau Mira (fel peidio cael rhannu llofft efo’i ffrind gorau, ei gorfodi gan y plant eraill i fynd i’r dŵr oer a hwythau’n chwerthin, a chropian drwy le cyfyng yn y tywyllwch fel rhan o’r gweithgareddau) efallai yn mynd i godi mwy o ofn arnynt? Yr hyn sy'n bwysig yn y stori yw bod Mira’n mwynhau’n fawr ac yn magu hyder, felly mae’r neges yn gadarnhaol, a bydd y diwedd yn lleddfu unrhyw bryderon. Cyfrol ddifyr sy’n siŵr o gael croeso brwdfrydig mewn ysgolion.
Share
