Cyngor Llyfrau Cymru
Mwy o Hoff Gerddi Cymru
Mwy o Hoff Gerddi Cymru
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ddeng mlynedd ers cyhoeddi Hoff Gerddi Cymru , dyma ddilyniant yn cynnwys mwy o gerddi sy'n annwyl gan y genedl. Bydd y casgliad yn rhychwantu'r digrif a'r difrifol, cerddi hir a cherddi byr, hen ffefrynnau a thrysorau newydd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A sequel to an anthology of the favourite poems of the people of Wales. Another anthology of one hundred diverse and popular poems, reflecting the intensity and humour, the romantic and challenging mood of 20th century Welsh poetry.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848512955
- Gwales Code
- gwales.com.9781848512955
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mwy o Hoff Gerddi Cymru
- Awdur / Author
- Gomer
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-11-05
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Editor
- Reynolds, Elinor Wyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 140 pages
- Size
- 149 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Y CYMRY’N DEWIS MWY O’U HOFF GERDDI Ddeng mlynedd wedi cyhoeddi’r gyfrol hynod boblogaidd Hoff Gerddi Cymru , mae Gwasg Gomer wedi mynd ati i gasglu mwy o ffefrynnau’r genedl mewn ail gyfrol. Yn Mwy o Hoff Gerddi Cymru , ceir bron i gant o gerddi llon a lleddf, digri a dwys. O gerddi traddodiadol i hen benillion, ac o gerddi prifeirdd megis Dic Jones, Mererid Hopwood, T. James Jones a Ceri Wyn Jones i waith gan Iwan Llwyd, Angharad Jones, Twm Morys a Geraint Lovgreen ynghyd â hen ffefrynnau gan T.H. Parry Williams, R. Williams Parry, Gwenallt a Waldo, dyma drysor arall o gyfrol i fwynhau drwy’r Nadolig ac ymhell tu hwnt. Un o aelodau newydd tîm golygyddol y wasg, Elinor Wyn Reynolds, aeth i’r afael â’r dasg anodd o ddethol cerddi ar gyfer y gyfrol: “Mae’n anodd coelio bod deng mlynedd wedi mynd heibio ers y gyfrol gyntaf. Ers hynny, mae menyw wedi ennill y gadair, mae sawl un o’n beirdd a’n llenorion anwylaf wedi’n gadael ni ac mae’n golwg ar y byd wedi newid,” meddai. Wrth reswm, ni fu’n bosib cynnwys pob ffefryn yn y gyfrol gyntaf, felly roedd y gyfrol ddiweddaraf yn gyfle i unioni’r ‘cam’ hwnnw ac yn gyfle i’r wasg ofyn i’r cyhoedd am eu ffefrynnau unwaith eto: “Daeth ymateb o bob cwr o’r wlad, drwy lythyr, dros y ffôn ac mewn e-bost,” meddai Elinor. “Roedd pobl hyd yn oed yn fy stopio ar y stryd i rannu. Gwerthfawrogwyd pob gohebiaeth, a’r rhesymau a’r profiadau preifat y tu ôl i’r dewisiadau.” Mae’r amrywiaeth o gerddi a geir yn y casgliad hwn yn adlewyrchu rhychwant y profiad dynol: cerddi serch, cerddi galar, cerddi cofio, cerddi gwlatgarol a cherddi digri. Ac yn ôl y golygydd, mae cerddi’n arddull berffaith ar gyfer yr unfed ganrif ar ddeg: “Mae cerdd yn rhywbeth arbennig iawn, geiriau wedi’u distyllu a’u hidlo sy’n gwneud cerdd, mae pob gair yn gorfod gweithio’n galed i ennill ei le,” meddai. “Mae cerddi’n debyg i Pot Noodle, yn fach, yn fuan ac yn llenwi bwlch. Yn yr oes dechnolegol gyflym hon mae cerddi’n siwtio i’r dim, a cherddi’n dal i ganu’n ein byd global ni." A pham fod cerddi’n dal i apelio cymaint i ni? “Yn amlach na heb, mae cerdd yn cofnodi digwyddiad mawr ym mywyd rhywun, y cerrig milltir - caru, priodi, geni, marw - ac mae medru dwyn i gof y profiadau dwys a dwfn mewn geiriau cofiadwy yn rhoi cysur neu’n dwyn llawenydd i bobl. “Dyna pam mae cerddi’n bwysig i ni, maen nhw’n frawddegau o fywyd sy’n cyfleu llawer mwy na nifer y geiriau. Mae i farddoniaeth ryw hud a lledrith a’r gallu diamheuol i ddweud pethau weithiau sydd y tu hwnt i eiriau. “Mae barddoniaeth yn byw ynom, yn cydgerdded â ni bob un. Yn aml cawn ein synnu gan yr adegau hynny pan fo geiriau cerdd yn ymrithio o nunlle yn ein pennau yn mynnu sylw a DYNA pam mae Mwy o Hoff Gerddi Cymru’n gyfrol mor bwysig, mae’n dangos yr hyn sydd yn ein calonnau ni fel cenedl.”
Share
