Cyngor Llyfrau Cymru
Mwy o Straeon o'r Mabinogi
Mwy o Straeon o'r Mabinogi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma'r dilyniant i gyfrol arobryn Gwobr Tir na n-Og 2016, Pedair Cainc y Mabinogi . Cynhwysir tair stori allweddol yn y llyfr hwn: 1. Y Tywysog a Merch y Cawr - Stori Culhwch ac Olwen; 2. Lludd a Llefelys; 3. Breuddwyd Macsen Wledig. Dyma greadigaeth swynol arall gan y tîm arobryn, yr awdures Siân Lewis a'r arlunydd Valériane Leblond.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is the follow-up book to the 2016 Tir na n-Og award-winning title, Pedair Cainc y Mabinogi . Three key stories are featured in this book: 1. The Prince and the Giant's Daughter - The Tale of Culhwch and Olwen; 2. Lludd and Llefelys; 3. The Emperor's Dream. Created by the award-winning team of author Siân Lewis and illustrator Valériane Leblond.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781804163450
- Gwales Code
- gwales.com.9781804163450
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mwy o Straeon o'r Mabinogi
- Awdur / Author
- Lewis, Siân
- Current Price ex VAT
- £12.99
- Current Price inc VAT
- £12.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-06-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Darlunydd / Illustrator
- Leblond, Valeriane
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 160 pages
- Size
- 246 × 246 mm; depth 12 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020056
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Pan gafodd y gyfrol gyntaf o addasiadau Siân Lewis o straeon Pedair Cainc y Mabinogi ei chyhoeddi, gwnaeth tipyn o argraff. Yn wir, enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2016 – fedrwch chi ddim creu llawer mwy o argraff! Wel, ar ôl hir ymaros, mae’r dilyniant i’r gyfrol arobryn honno bellach ar gael, ac mae’n addo mwy fyth o’r hyn wnaeth y gyntaf mor arbennig. I ddechrau, rhaid rhoi sylw i’r llyfr ei hun. Dyma be dwi’n ei alw’n ‘llyfr go iawn!’ Mae’r clawr caled yn rhoi’r ymdeimlad o sylwedd a safon uchel; nid llyfr i’w ddarllen unwaith a’i daflu mo hwn! Na, mae llyfr fel hwn yn rhywbeth i’w werthfawrogi, ei drysori a’i rhannu o fewn teuluoedd. Dyma’r math o lyfr y gall plentyn (neu oedolyn) ddychwelyd ato dro ar ôl tro. A phwy well i addurno’r clawr nag un o’n harlunwyr gorau, Valériane Leblond. O Ffrainc y daw hi’n wreiddiol ac mae Cymru wedi ei mabwysiadau go iawn erbyn hyn. Mae lluniau Valériane yn adnabyddus ac yn cyfleu hud a lledrith hynafol y chwedlau hyn i’r dim. Rhowch y lluniau gorjys yma ynghyd â geiriau Siân Lewis, ac mae gennych chi gyfuniad perffaith. Petaech chi’n gofyn i mi fynd ati i gyflwyno’r Mabinogi i genhedlaeth newydd, bur debyg na faswn i’n gwybod lle i ddechrau. Mae’r awdur, fodd bynnag, yn hen gyfarwydd â sut i wneud hyn, a hithau wedi llunio sawl llyfr arall amdanynt. Yn wir, mae’r Mabinogi wedi cael cryn dipyn o sylw gan gyhoeddwyr yn y blynyddoedd diwethaf, felly beth sy’n gwneud y gyfrol yma’n wahanol? Yma mae’r awdur wedi cael y rhyddid a’r lle i adrodd y straeon mewn ffordd gyflawn a chynhwysfawr iawn. Mae fersiynau symlach o’r straeon yn bodoli eisoes, ond wrth symleiddio, mae’n rhaid tocio ac mae manylion yn cael eu colli. Er mai tair stori sydd yma, sef Culhwch ac Olwen, Lludd a Llefelys a Breuddwyd Macsen Wledig, mae digon o swmp ym mhob un i’ch cadw’n darllen am sbel dda! Mae stori Culhwch ac Olwen yn enwedig, yn un hir a rhyfedd iawn, sy’n addas i’w mwynhau dros sawl darlleniad. Mae’r straeon eu hunain yn amrywiol ac yn fytholwyrdd, gyda rhai o’r negeseuon mor addas heddiw ag yr oeddent pan yr adroddwyd nhw am y tro cyntaf. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae disgwyliadau darllenwyr yn uchel iawn o ran diwyg a gwedd. Rwy’n falch o ddweud na chefais fy siomi gan y gyfrol hardd a moethus yma. Rhamant, dial, trais, cyffro, antur, brwydro, cewri, dewiniaid a dreigiau – mae gan y Mabinogi dipyn bach o bopeth. Beth mwy sydd ei angen?
Share
