Cyngor Llyfrau Cymru
O'r Cysgodion - Casgliad o Straeon Byrion — Casgliad o Straeon Byrion
O'r Cysgodion - Casgliad o Straeon Byrion — Casgliad o Straeon Byrion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Casgliad o straeon byrion cignoeth, llawn emosiwn, tensiwn a hiwmor yn steil unigryw Heiddwen. Mae gan awdures y nofelau Esgyrn a Dŵr yn yr Afon , yn ogystal â'r ddrama Milwr yn y Meddwl , y ddawn i greu cymeriadau credadwy sydd yn eich cyffwrdd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A collection of short stories, full of raw emotion, tension and humour, written in Heiddwen Tomos's inimitable style. She has a talent to create credible characters who succeed in touching the reader deeply.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784618506
- Gwales Code
- gwales.com.9781784618506
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- O'r Cysgodion - Casgliad o Straeon Byrion — Casgliad o Straeon Byrion
- Sub Title
- Casgliad o Straeon Byrion
- Awdur / Author
- Tomos, Heiddwen
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-03-06
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 128 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
I rai awduron a beirdd, gall darganfod eu ‘llais’ gymryd blynyddoedd lawer o arbrofi, nid yn unig gyda chynnwys ond gydag arddull hefyd. Gan bwyll bach y dechreuant deimlo’n ddigon hyderus a chyfforddus yn eu crwyn eu hunain i fentro dilyn eu cwys lenyddol unigryw. Nid felly Heiddwen Tomos. Fe osododd stamp ei llais ei hun yn gadarn ar ei nofel gyntaf Dŵr yn yr Afon ; dilynwyd honno wedyn gan nofel yr un mor gref a nodedig ei llais yn Esgyrn a gyrhaeddodd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Bellach cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion O’r Cysgodion . Hyd yn oed pe na bai’r cyhoeddwyr wedi defnyddio ‘brand’ dylunio cyfrolau’r awdur ar y clawr, byddem yn adnabod ei llais yn syth o’r dudalen gyntaf un. Ac fel yn y nofelau, cymeriadau’r cyrion, rhai mewn gwewyr a thrafferthion yn aml, yw eiddo’r rhan fwyaf o’r cymeriadau sy’n rhannu eu profiadau a’u cyfrinachau gyda ni yn y casgliad hwn o ymsonau. Daeth fersiwn gynharach o’r gyfrol hon yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst y llynedd. Rhyfeddodd un o’r beirniaid, Alun Cob, at ddawn yr awdur ‘i gyfleu’r fath gyfoeth o gymeriadau a lleisiau gwahanol’. Yn wir, gall Heiddwen Tomos fynd dan groen merch ifanc bymtheg oed dan ddylanwad negyddol ei chariad sy’n gyffurgi yr un mor ddeheuig â phan fo’n rhoi llais i hen ŵr sy’n hiraethu am orffennol hapusach, nid yn unig mewn cymuned cefn gwlad ond hefyd yn ei berthynas â’i wraig sydd bellach wedi marw. Drwy’r cyfan, rhed gwythïen gref o dafodiaith a ‘bratiaith’ gyfoes (i bwrpas), nodwedd arall amlwg o arddull Heiddwen Tomos ac un sy’n rhoi i’w gwaith y lliw yn ogystal â’i lais. Ond pwy yw perchnogion eraill y lleisiau dan sylw yn O’r Cysgodion ? Fe wnaeth llais dau fachgen ifanc argraff arna’i, Ieuan yn y darn 'Rygbi' lle cawn bortread o dad sydd, oherwydd ei wendid ei hun, yn bwlio ei fab yn ddidrugaredd wrth iddo ei hyfforddi ar y maes rygbi. ‘Roedd Dad mwy o’r farn fod angen bychanu, dyna’r ffordd i godi safon y chware, medde fe’. Ffoadur anghyfreithlon yw’r llall yn cael ei gludo gyda chriw o rai eraill mawr eu gwewyr ar eu ffordd i’r Man Gwyn. Mae’r ffaith fod y cyfan yn cael ei adrodd yn nhafodiaith de Ceredigion yn gwneud y digwydd yn gymaint mwy iasol rhywsut. A rhaid dweud fod y frawddeg ‘Alla’i ddim anadlu’, yng nghyd-destun digwyddiadau diweddar, wedi mynd â gwynt y darllenydd yma. Hyd yn oed pan fo testun yr ymson yn un a drafodwyd gan lu o lenorion o’r blaen, llwydda Heiddwen Tomos i roi gwedd newydd arni ran amlaf gan osgoi llwybr gor-dreuliedig. Mae 'Y Llwynog' a’i chyfeiriadaeth eironig, yn enghraifft dda o hyn, fel y mae 'Alpha' sy’n ymdrin â thrais yn y cartref. Er y testunau tywyll, rhed elfen o hiwmor drwy’r cyfan gan ddod i’r wyneb bob hyn a hyn, fel yn Dot sy’n dilyn hynt gwraig yn gweithio mewn salon harddwch. Gwrandewch arni’n sôn am ei mis mêl: ‘Prague ges i – dim y lle mwyaf romantic – elon ni i weld y concentration camp, yndofe.... ma Marc, y gŵr, yn very cultural.’ Camp yr awdur yw defnyddio’r hiwmor i’n hymlacio cyn ein llorio gyda’r diweddglo, sy’n datgelu arwyddocâd teitl ymddangosiadol disylw’r ymson. Er bod Heiddwen Tomos yn prysur ennill ei phlwyf fel awdur cyfrolau trawiadol, fel dramodydd llwyddiannus y daeth i’r amlwg gyntaf a does dim dwywaith fod ei hymwybod o bosibiliadau theatrig a’i dawn i lunio deialogau a monologau’n cyfoethogi'r gyfrol hon, fel ei chyfrolau blaenorol.
Share
