Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Os Hoffech Wybod ... a Chofio Dic

Os Hoffech Wybod ... a Chofio Dic

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Argraffiad newydd o hunangofiant difyr y bardd ac amaethwr o Flaenannerch, Ceredigion, y diweddar Dic Jones, yr Hendre. Ceir pennod glo ychwanegol gan ei ferched, Delyth Wyn a Rhian Medi, sy'n crynhoi ugain mlynedd olaf bywyd eu tad. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng Nghyfres y Cewri (ISBN 9780860740278).

Disgrifiad Saesneg / English Description

A new edition of the autobiography of the late Dic Jones, the highly-acclaimed poet and farmer from south Ceredigion. Includes a new final chapter by his two daughters, Delyth Wyn and Rhian Medi.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742616
Gwales Code
gwales.com.9780860742616
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Os Hoffech Wybod ... a Chofio Dic
Awdur / Author
eraill, Dic Jones ac
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-08-02
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
288 pages
Size
129 × 198 mm; depth 20 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

O’r chwe mil o gopïau o hunangofiant Dic Jones, Os Hoffech Wybod ... a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd yn 1989 – yr wythfed yng Nghyfres y Cewri o’r wasg honno – dim ond un copi (a hwnnw’n ddi-glawr) sydd bellach ar ôl yn y wasg. Dyna’r wybodaeth, na fydd yn synnu neb, a geir yn y cyflwyniad gan y cyhoeddwyr i’r argraffiad newydd hwn o’r gwaith, yr ychwanegwyd ato bennod sy’n crynhoi hynt a helynt y bardd yn ystod ugain mlynedd olaf ei oes, gan ei ddwy ferch, Delyth Wyn a Rhian Medi. Ychwanegwyd hefyd set o ffotograffau lliw llawn at y rhai du a gwyn a gafwyd yn yr argraffiad gwreiddiol, ynghyd â llun ardderchog ar y clawr cefn – newydd sbon i mi – o Dic ar ei ffordd i’r parlwr godro. Wrth ddarllen Os Hoffech Wybod ... pan ymddangosodd yn 1989 yr hyn a aeth â’m bryd i – sy’n perthyn mwy neu lai i’r un genhedlaeth â Dic – oedd y penodau sy’n sôn am ei fachgendod yn y rhyddid dilyffethair a oedd yn etifeddiaeth i bob hogyn ysgol gynt yn y cefn gwlad Cymreig a Chymraeg. Ac y mae i’r penodau hyn yr un cyfaredd o’u darllen eto dros ugain mlynedd yn ddiweddarach. Y blynyddoedd yn union cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn ystod yr heldrin hwnnw, blynyddoedd yr oedd Dydd Iau Mawr yn Aber-porth bob Awst, Dydd Sadwrn Barlys yn Aberteifi ym mis Ebrill a Dydd Calan yn uchafbwyntiau ynddynt, blynyddoedd yr efaciwîs a’r Hôm Gard – cyfnod yr ychwanegwyd yn ddirfawr at ei ddifyrrwch yn achos bechgyn ardal Dic pan godwyd gwersyll – yr RAE – yn Aber-porth, a maes awyr ym Mlaenannerch. Beth a roesem ni yng ngogledd yr un sir, wrth chwarae ymhlith olion yr hen weithfeydd mwyn plwm, am gael sefydliadau o’r fath ar drothwy’r drws, a chael bod yn dystion i’r pethau cyffrous a ddigwyddai yno? Bachgendod syml a chyfoethog ydoedd, ac un y byddai’r genhedlaeth flaenorol, a’r un o flaen honno ac yn ôl ac yn ôl, yn ei adnabod yn iawn, ond un a fydd – yn wyneb y newidiadau cymdeithasol mawrion a fu yn y cyfamser – yn un dieithr iawn i’r sawl o blith ieuenctid heddiw a dry at yr hunangofiant hwn. A boed iddynt wneud hynny’n llu! Dod i ben wnaeth y dyddiau dedwydd hynny wrth reswm, a chawn gwmni’r awdur wedyn wrth iddo'n hamddenol-athronyddol ddilyn y llwybr a arweiniodd o’i ddyddiau ysgol i ddiwedd yr wythdegau. Dysgwn am ei dwf fel bardd, am ei hoffter mawr o ‘gwrso pêl’, chwedl ei dad, ac o gerddoriaeth a chanu mewn côr, i enwi ond ychydig iawn o ddanteithion y gyfrol felys hon. Portread cynnes a hoffus o’u tad sydd gan ei ddwy ferch, Delyth a Rhian, o dan y pennawd ‘Cau pen y mwdwl’ ar ddiwedd y gyfrol. Yma gwelwn ef, mewn amrywiol hanesion ac anecdotau difyr, yn benteulu rhadlon a ymhyfrydai yn ei blant a’i wyrion, ac a fagodd awydd, ar ôl ymddeol, i deithio, nid yn unig i bob Cwm-sgwt yng Nghymru i dalyrna a sgwrsio, ond i bedwr ban byd yn ogystal. Cyfrol sy’n sicr o roi pleser a boddhad yw hon i bwy bynnag a’i darlleno.

View full details